Thema Diwrnod Amser i Newid Cymru eleni yw pŵer y pethau bach ac rydym fel unigolion wedi gorfod addasu i’r newidiadau o’n cwmpas yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, felly mae’r pethau bychain yn fwy gwerthfawr nac erioed. Boed yn sgwrs, galwad ffôn neu facetime gyda ffrind/aelod o’ch teulu i siarad am eich problemau neu dim ond cael ychydig o hwyl am ryw awr dros banad. Fel myfyrwraig yn y brifysgol, dwi wedi elwa’n fawr o hyn wrth ddal fyny gyda mam neu fy ffrindiau gorau gan fy mod yn byw tua 5 awr i ffwrdd, mae’n hynod o braf cael catch yp bob hyn a hyn.
Yn enwedig yn y cyfnod sydd ohoni, mae’r pethau bychain yn fwy pwysig nac erioed i mi. Faint o braf ydy derbyn compliment bach am eich hunain gan rywun, boed yn ffrind neu rywun ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch roi compliment i mi neu unrhyw berson arall a heb os byddai’r compliment hwnnw yn gwneud eu diwrnod nhw. 10 eiliad syml, sy’n para am oes- byddwch yn glên, tydi o ddim yn costio dim.
Y peth bach sy’n fy helpu i nawr, fwy nag erioed yw edrych ar ddyfyniadau positif ar y cyfryngau cymdeithasol (does dim byd gwell na geiriau o gymorth). Ond gwell fyth yw derbyn gair o gymorth gan rywun arall hefyd e.e ffrind neu deulu. Mae pawb angen cymorth rhyw bryd i’w gilydd- byddwch yn gymorth i eraill heddiw! Yn ogystal, mae ymarfer corff hefyd mor bwysig i mi gan redeg, cerdded a seiclo i’r Mwmblws am ryw awran bob dydd. Dyma bethau bychain sydd am gynyddu eich endorphins a gwneud i chi deimlo’n fwy positif ac iach.
Dwi’n siŵr y byddai llawer iawn ohonoch yn cytuno fod bod yn berchen ar gi neu anifeiliaid anwes yn un o’r prif bethau sydd wedi cadw pawb i fynd yn ystod y cyfnodau clo ‘ma! Be sydd well nag deffro i wyneb eich ci bach yn gwenu arnoch ac yn ysu am sylw? Dyma’r prif beth yr ydwyf yn methu am fod yn y brifysgol, ond braf oedd dychwelyd adra dros y nadolig i weld y cŵn, ar teulu wrth gwrs!! Rhan gorau o’m diwrnod i yma yn Abertawe yw mynd am dro ym Mharc Singleton ar y traeth a chael gweld yr hon cŵn yn joio a’n hapus braf.
Byddwch yn glên a pharchwch eraill. Does gan neb unrhyw syniad be’ sy’n mynd ymlaen ym mywydau eraill na sut maent yn teimlo. Ystyriwch hyn bob dydd gan feddwl pa weithred fach allaf wneud heddiw y byddai’n helpu rhywun arall deimlo’n well a gofalwch am eich hunain a’ch gilydd.