Siarad â rhywun am ei iechyd meddwl
Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr ym maes iechyd meddwl i fod yn ffrind. Yn aml y pethau bob dydd sy'n gwneud gwahaniaeth - dyma rai awgrymiadau i ddechrau siarad...
Os ydych yn gwybod bod rhywun wedi bod yn sâl, peidiwch â bod ag ofn gofyn sut mae'n teimlo.
Mae'n sicr na fydd ymadroddion fel 'Cwyd dy galon', 'Dwi'n siŵr y doi di drwyddi', neu 'Bydd yn rhaid i ti afael ynddi' yn helpu'r sgwrs! Ar y llaw arall, gall bod yn feddwl agored, yn anfeirniadol ac yn barod i wrando helpu.
Bydd pobl angen cymorth ar adegau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol, felly gofynnwch sut y gallwch helpu.
Os daw rywun atoch i siarad, peidiwch â'i anwybyddu oherwydd gall hwn fod yn gam anodd i'w gymryd. Cydnabyddwch ei salwch a dywedwch wrtho eich bod yno iddo.
Mae gweithredoedd yn bwysig hefyd felly cadwch mewn cysylltiad drwy anfon neges destun, e-bost neu gerdyn post er mwyn rhoi gwybod i rywun eich bod yn meddwl amdano.
Gallwch lawrlwytho ein cerdyn awgrymiadau siarad neu mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen mythau a ffeithiau. Gallwch hefyd ddarllen am brofiadau pobl ar ein tudalen blog.
Os ydych wedi cychwyn sgwrs am iechyd meddwl, dywedwch wrthym sut aeth hi ar Facebook neu Twitter.
"Rwy'n credu ei bod hi mor bwysig siarad am iechyd meddwl, gan mai dim ond wrth siarad amdano'n agored, heb weld bai, y gellir dileu'r stigma sydd o'i gwmpas. Mae hyn yn galluogi pobl i chwilio am gymorth tra bod modd rheoli'r problemau a'r straen, yn hytrach nag aros tan eu bod yn cael eu boddi ganddynt." Fiona, Eiriolwr Amser i Newid Cymru
Gallwch lawrlwytho ein cerdyn awgrymiadau siarad neu mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen mythau a ffeithiau. Gallwch hefyd ddarllen straeon personol pobl.
Os ydych wedi cychwyn sgwrs am iechyd meddwl, dywedwch wrthym sut aeth hi ar Facebook neu Twitter.
Gall y ffeithiau allweddol hyn helpu i herio'r mythau sy'n cyfrannu at y stigma mae llawer o bobl yn dal i'w wynebu.
Darganfyddwch fwyDisgrifir rhai problemau iechyd meddwl gan ddefnyddio geiriau bob dydd - er enghraifft, 'iselder' neu 'orbryder'.
Darganfyddwch fwyFel cenhedlaeth y dyfodol, mae gan bobl ifanc rym i newid agweddau at iechyd meddwl.
Darganfyddwch fwy