#WSPD Stori Louisa

Mae Louisa yn rhannu ei phrofiad o gael ei derbyn i ward seiciatrig acìwt i oedolion. Mae'n eich annog i ofyn am help mewn argyfwng, gan ddweud “mae yna bobl sy'n fodlon gwrando bob amser.”

8th September 2021, 2.30pm | Ysgrifenwyd gan Louisa

Yr wythnos hon, byddwn ni’n nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, sy'n digwydd ar 10 Medi bob blwyddyn, er mwyn ymrwymo a gweithredu’n fyd-eang i atal hunanladdiad. Eleni, rydyn ni'n codi ymwybyddiaeth o'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad. Byddwn ni'n rhoi llwyfan i'n Hyrwyddwyr dewr sydd wrth wraidd ymgyrch Amser i Newid Cymru rhoi diwedd ar stigma.

Mae Louisa yn rhannu ei phrofiad o gael ei derbyn i ward seiciatrig acìwt i oedolion. Mae'n eich annog i ofyn am help mewn argyfwng, gan ddweud “mae yna bobl sy'n fodlon gwrando bob amser.”

Digwyddodd eto, yn union fel tair blynedd yn ôl. I ddechrau, ym mis Mehefin, sylweddolais fy mod i'n mynd braidd yn anghofus, roedd fy hwyliau'n anwadal ac roeddwn i'n cael pyliau dwys o orbryder oedd yn para hyd at dair awr. Byddwn i'n methu codi o'r gwely, wedi fy mharlysu gan ofn. 

Unwaith eto, doeddwn i ddim yn cymryd meddyginiaeth. Yn union fel tair blynedd yn ôl. Ond y tro hwn, gyda chaniatâd y seiciatrydd. Er i mi sylwi ar yr holl arwyddion fy mod i'n cael pwl gwael, mi wnes i eu hanwybyddu. A gobeithio, drwy eu gwthio i ffwrdd, y byddwn i'n atal fy ofnau rhag dod yn wir.

Wel, ar 27 Gorffennaf, roeddwn i'n teimlo'n sâl iawn yn gorfforol. Mae dal yn ddirgelwch pa feirws ges i, a chefais brawf COVID-19 negatif, ond dydw i erioed wedi bod mor sâl. Bues i'n crwydro o amgylch fy fflat mewn llesmair am bythefnos.

Yn anffodus, cyn i'r salwch corfforol gydio, roeddwn i wedi bod yn clywed y lleisiau drwg eto ar adegau. Ac weithiau byddwn i'n gweld y diafol. Gwnaeth y salwch corfforol bopeth ganwaith yn waeth. Cymerodd y CMHT yr holl brofion gwaed, ac roedd yr holl ganlyniadau'n normal. Ond erbyn hynny, roeddwn i wedi colli'r gallu i gerdded ac roedd yn teimlo fel petai fy nghorff yn cau i lawr.

Digwyddodd yr un peth dair blynedd yn ôl, heb feirws.

Dechreuais orfeddwl am hen gofnodion meddygol a symptomau problemus ac felly des i'r casgliad bod gen i salwch corfforol difrifol ac y byddwn i'n marw. Pan oedd staff yr adran damweiniau ac achosion brys a'r parafeddygon yn flin ac yn fyr eu hamynedd, gwnaeth hyn waethygu fy nheimladau o frwydro yn erbyn system feddygol lygredig. Roedd gen i deimladau hunanladdol cryf iawn. Yr holl symptomau hyn a neb yn fy nghymryd i o ddifrif?

Yn ddiweddar iawn, cefais fy nerbyn i ward seiciatrig acìwt i oedolion. Mae'r teimladau hunanladdol wedi cilio diolch i gamau hunanreoli. Ond gan fod angen asesu a thrin fy symptomau eraill, gallwn i fod yma am beth amser.

"Mae'n bwysig cofio “Bydd hyn yn pasio hefyd”. Rhywbeth dros dro yw'r teimladau hyn, ond byddai gweithredu arnyn nhw yn eu gwneud yn barhaol. Bydd yn pasio. Ond tan hynny, anadlwch"

Ond dydw i ddim yn meddwl bod angen triniaeth yn yr ysbyty ar gyfer pob ymgais i ladd eich hun. Rwy'n rhoi llawer o werth ar hunanreoli a chymorth gan gymheiriaid. Wrth gwrs, mae mewnbwn gan bobl broffesiynol bob amser yn ddefnyddiol, a byddwn i'n dweud, os ydych chi'n cael trafferth i gael help ystyrlon gan wasanaethau, ceisiwch siarad ag elusennau fel Mind, Adferiad, (Hafal gynt), un arall sydd wedi'i theilwra i'ch sefyllfa benodol chi.

Hefyd, mae'r Samariaid wedi bod o gymorth mawr i mi. Rwy'n gwybod nad ydyn nhw at ddant pawb ac mae'n dibynnu ar eich gallu i fynegi ac ar ba wrandawr gewch chi. Ond mae'n wych gwybod na fydd y gwrandawyr yn rhoi cyngor, dim ond rhoi cyfle i chi siarad heb gael eich barnu a heb dorri ar draws. Weithiau, y cyfan sydd ei angen ar bobl sy'n meddwl am hunanladdiad yw cyfle i siarad ac i greu cysylltiadau.

Rwyf am gyfleu neges o obaith i unrhyw un sy'n meddwl am hunanladdiad. Mae'n swnio'n wirion ond mae “Bydd hyn yn pasio hefyd” wir yn ddefnyddiol. Rhywbeth dros dro yw'r teimladau hyn, ond byddai gweithredu arnyn nhw yn eu gwneud yn barhaol. Bydd yn pasio. Ond tan hynny, anadlwch. Ceisiwch fyw un munud ar y tro, gwnewch beth allwch chi nid beth mae pobl eraill yn meddwl y dylech chi ei wneud, a gofalwch amdanoch chi eich hun. Siaradwch â'r tîm argyfwng. Gofynnwch am help. Hyd yn oed os bydd gwasanaethau'n eich siomi, mae pobl ar gael sy'n barod i wrando arnoch bob amser. Ac sy'n deall am eu bod nhw wedi bod yno eu hunain, weithiau fwy nag unwaith.

"I love the theme of hope each day a new day dawns" - Louisa

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy