#WSPD Stori Joe

Mae Joe yn ysgrifennu am effaith y pandemig ar ei iechyd meddwl. Mae'n rhannu geiriau pwerus am y gobaith y mae ei fab blwydd oed yn ei roi iddo pan fydd yn brwydro gyda theimladau hunanladdol.

8th September 2021, 2.45pm | Ysgrifenwyd gan Joe

Yr wythnos hon, byddwn ni’n nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, sy'n digwydd ar 10 Medi bob blwyddyn, er mwyn ymrwymo a gweithredu’n fyd-eang i atal hunanladdiad. Eleni, rydyn ni'n codi ymwybyddiaeth o'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad. Byddwn ni'n rhoi llwyfan i'n Hyrwyddwyr dewr sydd wrth wraidd ymgyrch Amser i Newid Cymru rhoi diwedd ar stigma.

Mae Joe yn ysgrifennu am effaith y pandemig ar ei iechyd meddwl. Mae'n rhannu geiriau pwerus am y gobaith y mae ei fab blwydd oed yn ei roi iddo pan fydd yn brwydro gyda theimladau hunanladdol.

Mae gen i anhwylder deubegynol ac rwyf wedi cael pyliau drwg iawn o iselder drwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Ar yr adegau tywyllaf gall meddwl am hunanladdiad gymryd drosodd.

Diolch byth nad ydw i wedi gweithredu ar hyn. Y prif reswm sy'n fy stopio i yw'r euogrwydd wrth feddwl am yr effaith y byddai'n ei chael ar fy nheulu a'm ffrindiau. Ond dyw'r euogrwydd hwnnw ddim yn stopio'r meddyliau, a phan fydd yr iselder ar ei waethaf, gall roi'r gred ffug i mi y byddai pawb yn well eu byd hebdda i.

Mae'r 18 mis diwethaf wedi effeithio'n fawr ar fy iechyd meddwl ac rwyf wedi cael adegau isel iawn lle mae meddwl am farwolaeth a hunanladdiad wedi cymryd drosodd. Roeddwn i'n teimlo fel hyn am sawl diwrnod yn ddiweddar ond y tro hwn, fy mab blwydd oed dynnodd fi allan o'r tywyllwch. Ar ôl gêm wirion o chwarae pi-po gyda'r ddau ohonon ni'n chwerthin, sylweddolais i na alla i ei adael heb dad. Does dim sefyllfa lle byddai e'n well ei fyd hebdda i. Mae'r cyfuniad o deimladau tadol amddiffynnol a'r gobaith y mae'n ei roi i mi yn fy nghynnal drwy'r adegau tywyll hynny.

Un noson ddi-gwsg yn ddiweddar, penderfynais y byddwn i'n cyfleu'r teimladau o obaith yn trechu iselder mewn geiriau. Wn i ddim a fydd hyn yn arwain at gân lawn ond drwy ysgrifennu'r geiriau, llwyddais i brosesu'r hyn rwyf wedi'i wynebu. Rwy'n gobeithio y bydd darllen y geiriau o gymorth i rywun sy'n ei chael hi'n anodd. Mae gobaith o hyd, ac mae yna rywun bob amser yn aros i'ch helpu drwy'r tywyllwch.

Duel of the Mind

On one side there is danger The other side there is hope Fear is never a stranger But then I feel I can cope

The happiness inside me Can wilt away in seconds Like leaves on a summer tree Can feel that winter beckons

The fight for my future Feels out of my control When I see no future It really takes it’s toll

The dark path before me Is all that I can see Then I turn a corner And know that I am free

When all thoughts are negative I see your happy smile
I know I have more to give Though life can be a trial

I never want to leave you I never want to go
I never want to leave you How can I feel so low?

I never want to leave you I never want to go
I never want to leave you To darkness I say no!

In the lonely long dark nights
I feel nothing but despair Light and darkness have their fights The sun helps my mind repair

Death is always calling me But Life is battle ready
The scythe wants to take my fee But not now I am steady

The dark path before me Is all that I can see Then I turn a corner And know that I am free

When all thoughts are negative I see your happy smile
I know I have more to give Though life can be a trial

I never want to leave you I never want to go
I never want to leave you How can I feel so low?

I never want to leave you I never want to go
I never want to leave you To darkness I say no!

So, no! NO! No! NO!
I don’t want to go!
The dark path laid before me Is never set in stone

So, no! NO! No! NO!
I don’t want to go!
The dark path laid before me Is never set in stone

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy