Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021, rydyn ni'n clywed gan arweinydd tîm yn ein sefydliad partner, EYST Cymru

8th October 2021, 1.30pm | Ysgrifenwyd gan EYST

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021, rydyn ni'n clywed gan arweinydd tîm yn ein sefydliad partner, EYST Cymru, sy'n gweithio'n agos gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Maen nhw'n rhannu pa mor bwysig yw creu mannau diogel i sgwrsio, a phwysigrwydd mân siarad. Darllenwch y stori.

Mân Siarad

Rydyn ni'n cefnogi pobl sy'n chwilio am noddfa, sy'n ceisio lloches am resymau amrywiol ac ofnadwy. Yn aml, mae'r bobl hyn mewn trallod, yn wynebu Anhwylder Straen Wedi Trawma, gorbryder, problemau dicter ac iselder dwys. Mae rhai pobl wedi cael eu masnachu, wedi ffoi o ryfel neu wedi cael eu harteithio oherwydd eu ffydd, eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Maen nhw wedi gadael eu bywydau, wedi gorfod wynebu'r broses lafurus o geisio lloches, ac wedyn yn gorfod ail-fyw'r cyfan drwy gyfweliadau, sgyrsiau a datganiadau, gan geisio profi eu bod yn dweud y gwir. Euog nes cânt eu profi'n ddieuog. 

Pan oedd y pandemig ar ei anterth, symudodd colegau, canolfannau cymdeithasol, elusennau, meddygfeydd a meddygon teulu i gyd i weithredu ar-lein. Yn cynnwys cwnselwyr a seiciatryddion. Er bod hyn yn anochel, ac yn fesur diogelwch a gyflwynwyd gan y llywodraeth, effeithiodd ar iechyd meddwl pobl oedd eisoes yn fregus.

Rydyn ni wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y bobl sy'n teimlo'n hunanladdol ac yn isel yn gyffredinol. Mae pobl yn teimlo'n ynysig am eu bod nhw'n colli'r gweithgareddau sydd fel arfer yn tynnu eu sylw ac am fod gwasanaethau cymorth iechyd meddwl wedi'u gohirio. Un o'r ffactorau eraill a effeithiodd yn sylweddol ar hyn oedd effaith y pandemig ar y Swyddfa Gartref. Cafodd prosesau apelio a chyfweliadau eu gohirio a'u symud ar-lein, a chymerwyd llawer mwy o amser i benderfynu ar achosion lloches pobl. Roedd pobl yn diflasu, yn teimlo'n isel ac yn colli gobaith.

Dywedodd Filippo Grandi, Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig, “Mae COVID-19 yn fwy na dim ond argyfwng iechyd corfforol. Mae bellach yn arwain at argyfwng iechyd meddwl hefyd. Er bod llawer o ffoaduriaid a phobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol yn hynod o wydn ac yn gallu symud ymlaen er gwaethaf y trais neu'r erledigaeth a wynebwyd ganddyn nhw, mae eu gallu i ymdopi yn cael ei brofi i'r eithaf erbyn hyn.” 

Dechreuwyd gweld cynnydd yn nifer y bobl yr oedd angen i ni gynnal gwiriadau lles arnynt, eu cadw dan oruchwyliaeth, a sicrhau eu bod yn sefydlog o ddydd i ddydd i ddydd. Rydyn ni'n gweithio'n gyflym i ddiwallu anghenion nifer mawr o bobl ond mae'n amlwg bod mân siarad wedi dod yn bwysig iawn. Drwy gysylltu â phobl a'u hatgoffa ein bod hi yno o hyd a'u bod yn bwysig i ni, rydyn ni wedi gallu cadw mewn cysylltiad â'r rheini rydyn ni'n eu cefnogi, gan gadw sianel agored ar gyfer sgwrsio.

Wrth i'r byd agor eto yn araf ac wrth i ni ddychwelyd i normalrwydd, byddwn ni'n wynebu pandemig newydd. Bydd hyn yn effeithio ar lawer o bobl, ond bydd angen i ni ystyried sut y bydd y rheini sydd eisoes yn fregus yn ymdopi. Bydd angen i ni wneud yn siwr bod gwasanaethau iechyd meddwl ar gael yn rhwydd a'n bod yn garedig a thyner wrth bawb o'n cwmpas. Bydd angen darparu mannau diogel i sgwrsio, ac mae'n bwysig dechrau sgyrsiau heb ddiben er mwyn galluogi pobl i siarad yn agored.

Mae mân siarad mor bwysig ag erioed.

“Rydyn ni'n clywed am fwy o broblemau iechyd meddwl ac anghenion ymysg y rheini sydd wedi'u dadleoli. Mae ofn heintiad, cyfyngiadau a mesurau ynysu, stigma, gwahaniaethu, colli bywoliaeth ac ansicrwydd am y dyfodol i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu at hyn”.

“O ystyried y niwed economaidd-gymdeithasol eang yn sgil y pandemig, mae UNHCR yn poeni'n benodol bod colli cyflog dyddiol a bywoliaeth yn arwain at galedi seicogymdeithasol i lawer o ffoaduriaid. Mae'r ffaith bod rhai yn dweud eu bod wedi dechrau hunan-niweidio oherwydd y pwysau hyn yn peri pryder mawr.”

(Pob dyfyniad o: UNHCR urges prioritization of mental health support in coronavirus response. Shabia Mantoo 14.05.2020)

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy