Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021 - Stori Maheiddine

Dydd Sul Hydref 10fed 2021 yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Thema eleni, a osodwyd gan Ffederasiwn y Byd ar gyfer Iechyd Meddwl, yw 'Iechyd Meddwl mewn Byd Anghyfartal'. Darllenwch stori Maheiddine.

8th October 2021, 1.00pm | Ysgrifenwyd gan Maheiddine

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021, mae Mahieddine yn siarad yn ddewr am fyw gyda phroblemau iechyd meddwl fel ceisiwr lloches. Mae Mahieddine wedi rhannu eu stori drwy ein sefydliad partner EYST Cymru. Yn ogystal â'r stigma a'r gwahaniaethu a wynebwyd gan Mahieddine a'r teulu, nid oes arian cyhoeddus, budd-daliadau na gwaith ar gael. Mae hyn yn dangos y byd anghyfartal rydyn ni'n byw ynddo. Darllenwch y stori.

Er nad yw ofn yn atal marwolaeth, mae'n atal bywyd.


Mae'r geiriau hyn yn golygu cymaint i mi ac efallai i eraill sydd wedi cael yr un emosiynau, sef gorbryder, iselder a stigma.

Salwch meddwl. Nid yw hyn yn ddewis sy'n cael ei wneud. Mae'n deillio o ragfarn, trin pobl â safonau dwbl ac amgylchedd cas o ganlyniad i agweddau gwahaniaethol tuag at bobl sy'n ymddangos yn wahanol o safbwynt eraill.

Rydw i wedi cael problemau iechyd meddwl difrifol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf am fy mod i a fy nheulu yn geiswyr lloches. Er hyn, prin iawn yw'r arian cyhoeddus, y budd-daliadau a'r gwaith – a hyd yn oed addysg yn ddiweddar – sydd ar gael i ni, sy'n golygu bod bywyd yn anodd iawn ac mae mor anodd derbyn hyn. Yn waeth na dim, allwn i ddim gwneud unrhyw newid bron, felly roedd hi'n anodd iawn i mi gyflawni fy nhasgau bob dydd. Roedd y ffaith fy mod i'n ddigalon ac yn teimlo'n isel yn cymryd fy mywyd drosodd.

Yn anffodus, aeth pethau'n waeth oherwydd y pandemig byd-eang diweddar. Dychmygwch fod yn geisiwr lloches nad yw'n siŵr a yw am gael statws ai peidio, yn gorfod byw â'r ofn a'r stigma yn ogystal â'r bythygiad o gael ei alltudio unrhyw bryd; ac yna rydyn ni'n dechrau clywed am farwolaeth ym mhobman. Bywydau'n cael eu cymryd gan y salwch microsgopig hwnnw... dechreuais gael pyliau o banig oherwydd y straen. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedden ni'n dal i aros gartref ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Roedd amser yn mynd yn rhy araf ac roedd llawer o bobl yn colli eu bywydau. Roedd hynny'n sioc i mi a chollais fy nghymhelliant a diflannodd fy ngobaith ar gyfer y dyfodol am gyfnod!

Maen nhw'n dweud bod y byd yn casáu newid! Ond roeddwn i'n ysu am gael newid.

Fel bodau dynol, rydyn ni bob amser yn awyddus i gael y gorau i ni ein hunain.  Dyma ein greddf, er y gallwn ni ddatblygu rhyw fath o broblem iechyd meddwl o ganlyniad i hynny. Ond, fel arfer rydyn ni'n llwyddo i fod yn barod ein cymwynas ac yn gefnogol. Yn ffodus, mae digon o bobl sydd â'u calonnau yn y lle iawn fel rhai o fy ffrindiau ac yn enwedig fy nheulu. Gwnaethon nhw eu gorau i fy helpu i fwynhau fy mywyd fel o'r blaen.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef, roedden nhw'n help mawr. Yn y diwedd, llwyddais i ddod ataf fy hun ac ailddechrau byw fy mywyd. Er y gall fod yn haws dweud na gwneud, dyw aros i newid ddigwydd byth yn ddigon. Felly dechreuais i fod yn fwy egnïol drwy gymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau hyd yn oed rhai ar-lein, mynd i ddigwyddiadau preswyl, a gwirfoddoli er mwyn bod yn ddefnyddiol yn fy nghymuned. Ar ôl dechrau cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, dechreuais i deimlo'n llawen eto, am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Mae angen gwneud y gorau o fywyd. Yn hytrach na gorfeddwl a chynllunio ar gyfer sefyllfaoedd negyddol y mae'n annhebygol y byddai i'n gorfod eu hwynebu, penderfynais y byddai'n well gen i droi cefn ar fy mhryderon a byw i'r foment.

Rwy'n credu, po fwyaf y byddwch chi'n poeni, y mwyaf y byddwch chi'n teimlo'n isel, oherwydd, yn araf bach, byddai'n lladd eich iechyd meddwl a'ch iechyd corfforol a hynny'n ddifrifol.

Mae fy sgript ar fin dod i ben. Mae undod yn allweddol i fynd i'r afael â'r stigma yma a dylen ni roi pob sylw i'n seicoleg. Ac yn olaf, mae gobaith i'w weld ym mhobman – does dim rheswm i roi'r gorau iddo.

 

Ysgrifennwyd gan Mahieddine

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy