Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 - Neges Lowri

Ar Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 dyma Lowri, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, sy'n rhannu neges bwysig am barhau â'n cenhadaeth i gael gwared ar stigma a gweithio tuag at Gymru well a mwy…

9th October 2020, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Lowri

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) eleni ar adeg lle y mae ein bywydau o ddydd i ddydd wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Yng Nghymru a ledled y byd, mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn problemau iechyd meddwl ac mae trafod iechyd meddwl yn agored yn parhau i fod yn fater pwysig. Ar #WMHD2020, dyma Lowri, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, sy'n rhannu neges bwysig am barhau â'n cenhadaeth i gael gwared ar stigma a gweithio tuag at Gymru well a mwy caredig.

Does dim amheuaeth bod 2020 wedi bod flwyddyn fel dim un arall. Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc y mae pawb yn sôn amdano ac yn meddiannu tiriogaeth cyfryngau byd-eang fel na fu erioed o'r blaen. Er mai dim ond peth da y gall y proffil cynyddol hwn o iechyd meddwl fod, mae hefyd yn ein hatgoffa'n amserol na ddylid gadael mynd i'r afael â stigma y tu ôl. Rhybuddia arbenigwyr ein bod nawr mewn argyfwng iechyd meddwl byd-eang ac y bydd effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19 yn cael eu teimlo am flynyddoedd lawer ar draws ein cymdeithas. Mae hwn yn gyfnod lle rydym wedi gweld ein bywydau a'n bywoliaeth yn dod i stop yn sydyn. Rydym wedi gweld ein rhwydweithiau cymorth a'n sgaffaldiau emosiynol fel y gwyddom yn diflannu yn llythrennol dros nos gan adael llawer ohonom yn teimlo'n agored i niwed ac yn methu ymdopi ar adegau. Er fy mod yn ochelgar i beidio â lefelu ymatebion emosiynol cwbl arferol i bandemig byd-eang fel ofn, tristwch a phryder gyda chyflyrau iechyd meddwl mwy diffiniedig, y realiti yw y bydd llawer mwy ohonom yn cael trafferth neu'n cael trallod ar hyn o bryd.

Wrth i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb ar y cyd i gadw ein hunain ac eraill yn gorfforol ddiogel ac iach,y mae golchi dwylo, defnyddio diheintydd ac ymbellhau cymdeithasol bellach wedi dod yn weithgareddau rheolaidd, a beunyddiol. Ond a ydym wedi rhoi'r un lefel o ofal a sylw i'n hiechyd meddwl a'n lles? Yr wyf yn amau’n gryf nad ydym. Nid yw ein hymddygiad unigol erioed wedi cael cymaint o effaith ar ganlyniadau ehangach iechyd y cyhoedd a byddwn yn dadlau bod yr un peth yn wir am stigma iechyd meddwl. Mae ein harolwg diweddaraf o unigolion sydd â phrofiad byw yn dweud wrthym fod hunan-stigma wedi cynyddu'n sylweddol ymhlith y rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ers i'r cyfnod clo gael gymryd effaith yng Nghymru. Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod pobl yn dal i brofi lefelau uchel o stigma o fewn eu haelwydydd, eu cymunedau, ac o fewn gweithleoedd. Felly, ni fu ein gwaith o fynd i'r afael â stigma erioed mor anghenus na phwysig.

"Wrth i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb ar y cyd i gadw ein hunain ac eraill yn gorfforol ddiogel ac iach,y mae golchi dwylo, defnyddio diheintydd ac ymbellhau cymdeithasol bellach wedi dod yn weithgareddau rheolaidd, a beunyddiol. Ond a ydym wedi rhoi'r un lefel o ofal a sylw i'n hiechyd meddwl a'n lles?"

Fel pob sefydliad, bu'n rhaid i ni addasu i'r llanw newidiol a'r heriau logistaidd o ddarparu symudiad o'n hystafelloedd ffrynt. Mae'r chwe mis diwethaf wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithredu fel ymgyrch a hynny er gwell. Mae ein Pencampwyr wedi parhau'n selog i rannu profiadau byw ar draws llwyfannau rhithwir – a sicrhau impact sylweddol – a hynny o gysur eu cartref.  Rydym wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol o'r camau a gymerwyd gan ein cyflogwyr i fynd i'r afael â stigma o bell a chefnogi eu staff drwy heriau a chynnal agwedd drws agored (er yn rithwir) at les staff. Efallai na fyddai rhywfaint o'r gwaith yma erioed wedi dod i'r amlwg pe na baem wedi cael ein gorfodi i feddwl yn wahanol ac yn fwy creadigol.

Er bod COVID-19 wedi ac yn parhau i gyflwyno heriau aruthrol i ni, mae hefyd wedi rhoi cyfle enfawr i geisio dad-wneud normau strwythurol a chymdeithasol ac ildio ymddygiadau yn y gorffennol sydd wedi bod mor niweidiol i bobl â phroblemau iechyd meddwl.  Mewn rhai ffyrdd mae'r pandemig wedi bod yn lefelwr da o fewn cymdeithas gan y bydd llawer mwy o bobl wedi cael anawsterau iechyd meddwl, rhai am y tro cyntaf erioed. Fy ngobaith yw y bydd y profiad hwn yn ennyn tosturi ac empathi tuag at y rhai ble mae materion iechyd meddwl yn ffordd o fyw bellach.

Wrth inni ymbaratoi ein hunain am ail don o gyfyngiadau clo, bydd Amser i Newid Cymru yn parhau â'i genhadaeth i drawsnewid stigma ac ymdrechu tuag at Gymru well a mwy caredig.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy