Nid yw salwch meddwl yn dewis un rhywedd dros y llall. Mae llawer o ddynion yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ond dim ond ychydig iawn sy'n siarad amdano, a stigma yw'r sbardun; o ganlyniad, maen nhw rhwng dau feddwl a ddylen nhw siarad amdano ai peidio.
Ni all y darllenydd anwybyddu'r ffaith bod dynion fel arfer yn wynebu stigma yn eu cymunedau os byddant yn mynegi eu teimladau, a all wneud i rai pobl dybio yn negyddol na allant ymdopi â phwysau, oherwydd yr hyn a ddisgwylir fel arfer gan ddynion.
“Mae croen trwchus gan ddynion” – gallai hyn fod yn gywir, ond dim ond i ryw raddau. Dim peiriant yw unrhyw ddyn, rydym yn fodau dynol o gig a gwaed fel pawb arall, ac mae gennym emosiynau; rydyn ni'n mynd yn hapus, yn hwyliog ond weithiau'n diflasu neu hyd yn oed yn mynd yn ofidus ac yn isel. Mae popeth yn dibynnu ar sut mae bywyd yn ein trin ni.
Rwy'n credu y dylai pobl sy'n ei chael hi'n anodd ofyn am help ac osgoi cadw popeth iddyn nhw eu hunain, oherwydd gall hynny fod yn llethol a mygu teimladau. Hyd yn oed os bydd unigolyn yn meddwl ei fod yn gwybod beth sydd orau iddo, mae rhywun arall bob amser ar gael sy'n gwybod mwy am yr hyn sydd ar gael e.e., meddygon ac ati. Persbectif sy'n bwysig. Mae barn wahanol mor bwysig mewn seicoleg, felly gallai rhywun arall fod â'r ateb i'ch pryderon. Felly, rwy'n awgrymu, i bwy bynnag a all fod yn darllen hwn, mai siarad yw cam cyntaf yr ateb a gall fod yn ffordd addas o leihau straen; nid o reidrwydd siarad â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ond gallech chi godi'r mater gydag aelod o'r teulu, ffrind agos neu unrhyw un rydych chi'n ymddiried ynddo.
Rwy'n cofio ychydig flynyddoedd yn ôl, pan ddechreuodd pethau yn fy mywyd fynd yn gymhleth ac roedd fy mywyd ar chwâl, dechreuais deimlo'n isel ac yn ddryslyd a dechreuais feddwl sut i ddod allan o'r sefyllfa hon. Es i weld fy meddyg a rhoi gwybod iddo beth oedd fy symptomau ac yna cefais feddyginiaeth, ond beth wnaeth wir fy helpu yn y diwedd oedd nid yn unig y tabledi hynny ond caredigrwydd fy nheulu a'r help a gefais gan bobl yn fy nghymuned.
Yn bersonol, rwy'n argyhoeddedig bod pawb yn gyfrifol am fynd i'r afael â stigma. Gall ofn beirniadaeth a rhagfarn fod yn rhwystr ond bydd ildio ond yn gwneud y rhwystrau tryloyw hynny hyd yn oed yn anoddach i'w chwalu.
Yn y diwedd, mae bywyd yn brydferth, a does dim rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun. Ein tynged yw cael ein gwella.
Amser i Newid Cymru, amser i wenu eto.