Sgwrs - Ond Nid y Synnwyr Confensiynol...

Mae Paul yn rhannu sut mae ei ddull anghonfensiynol o siarad wedi ei helpu i gael sgyrsiau agored am iechyd meddwl.

2nd February 2021, 1.39pm | Ysgrifenwyd gan Paul

**Rhybudd sbarduno: yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad**

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi bod yn teimlo fel paentiad y mae pawb wedi anghofio amdano. Rhodd gan berthynas oedrannus efallai – a gafodd ei gadw am resymau emosiynol a'i roi yn y cyntedd wrth ymyl y tŷ bach. Wedi'i anghofio am sawl blwyddyn nes i rywun benderfynu ailaddurno un diwrnod. “Hmm, hen brint Hay Wain dy Fodryb Nellie! Fydd hwn ddim yn cyd-fynd â'm syniadau dylunio Scandi chic. Allwn ni ei roi yn y llofft neu fynd ag ef i'r siop Oxfam?”

Er bod gan y paentiad werth personol goddrychol a chyfyngedig, nid yw at ddant pawb. Gallai edrych braidd yn llwydaidd a di-liw, a'r ffrâm aur droellog honno ... dyw hi ddim yn ffasiynol iawn, nac ydi?

Yn yr un modd, rydw i'n ddyn llwydaidd a di-liw ac yn teimlo'n ddigon siŵr y byddai rhai pobl yn hoffi fy rhoi yn y groglofft neu fy ngadael ar ochr y ffordd. Fy nadansoddiad i yw hynny, wrth gwrs. Does neb wedi dweud hynny wrtha i mewn gwirionedd. Yn fyr, dydw i ddim yn teimlo fy mod i'n cael fy ngwerthfawrogi. Dyw hynny ddim yn rhywbeth newydd. Mae'r rhan fwyaf o'm trafferthion meddyliol yn deillio o deimlo nad ydw i'n ddigon da, nad oes neb fy eisiau i ac nad oes neb yn fy ngharu i. Rydw i wedi treulio sawl awr yn archwilio'n fforensig pam rydw i'n teimlo fel hyn ac o ble mae'n deillio. Rydw i wedi ceisio mabwysiadu ffyrdd o herio'r meddyliau hyn a chodi fy hun o'r iselfannau. Rydw wedi bod yn gwneud hynny ers mwy na 25 mlynedd. Rydw i'n dal i deimlo fy mod i'n cael fy llethu, yn cael fy nhynnu o dan yr wyneb a'm dal gan rym sy'n anodd ei wrthod.

Dechreuais i fyfyrio'n rheolaidd am fisoedd, deg munud yn y bore a deg munud yn y prynhawn, bob diwrnod o'r wythnos bron, mewn ymgais i ddod o hyd i ffordd arall o ddelio â'r meddyliau hyn. I ddechrau, byddwn i'n teimlo'n fwy llonydd a thawel ar ôl gwneud hynny ac yn fwy parod i wynebu gweddill y diwrnod. Weithiau, byddwn i hyd yn oed yn colli gafael ar amser. Math braf o ymlacio. Ond erbyn dechrau 2020, roedd yn ymddangos bod fy meddwl i wedi bod yn brwydro yn erbyn y meddyliau negyddol a hunan-niweidiol. Erbyn mis Chwefror 2020, roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy, bron pob diwrnod o'r wythnos. Roedd fy ymennydd i'n llawn delweddau o hunan-niweidio a hunanladdiad. Roedd yn ddidrugaredd. Ar ddiwrnodau fel hyn, mae'n anodd gwneud unrhyw beth, codi o'r gwely, bwyta, gadael y tŷ. Mae popeth yn gymaint o ymdrech.

Diolch byth, mae'r profiad wedi fy addysgu i ddod o hyd i rywun i siarad ag ef. Mae'n well gen i siarad â rhywun niwtral, rhywun nad yw'n fy adnabod i. Ceisiais i ddod o hyd i gwnselydd – mae'n rhaid fy mod i wedi cysylltu â thua phum therapydd dros dair wythnos. Allai'r pedwar cyntaf ddim helpu – roedden nhw'n rhy brysur. Bob tro y byddwn i'n methu; daeth ton arall o anobaith drosta i. Dechreuais i feddwl na fyddwn i'n gallu dod o hyd i neb i siarad ag ef a rhannu fy maich ag ef. O'r diwedd, dywedodd rhywun fod ganddi le. Gwelais i hi unwaith, a theimlais i ryddhad, fel bod gobaith. Yna, daeth COVID a chyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud, a chafodd ei ganslo. Cefais i fy rhoi ar ffyrlo o'r gwaith ac er gwaethaf fy ymdrechion gorau, roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i'n cael fy llethu.

Gwnes i barhau i ddirywio am gyfnod nes i bopeth fynd yn ormod. Ffoniais i fy meddyg teulu ym mis Awst y llynedd a rhoddodd fi ar wrthiselyddion. Roeddwn i'n arfer eu cymryd nhw am flynyddoedd, ond roeddwn i wedi llwyddo i roi'r gorau i'w cymryd nhw saith mlynedd yn ôl. Mae'n gas gen i gymryd tabledi, ond gan fod llawer o sesiynau therapi siarad wedi'u hatal dros dro, yr opsiwn hwn oedd y lleiaf o ddau ddrwg. Rhoddodd fy meddyg teulu fi ar restr aros i siarad â rhywun hefyd. Mae'r rhestr aros yn hir, ond mae'r tabledi wedi rhoi rhywfaint o le i mi anadlu o leiaf. 

Rydw i nawr wedi dychwelyd i'r gwaith (ar-lein), ac mae hynny wedi bod yn achubiaeth.  Rydw i'n treulio'r diwrnod cyfan yn siarad â phobl, yn gwrando ar eu straeon ac yn chwerthin gyda nhw ynglyn â pha mor hurt yw'r byd. Rydyn ni'n rhannu profiadau a safbwyntiau. Rydyn ni'n gweithio drwy bethau mewn sesiynau hanner awr ar Zoom. Fi sydd i fod i'w cefnogi nhw, ond maen nhw'n cynnig yr un faint o gefnogaeth i mi. Mae'n tynnu fy meddwl oddi arna i fy hun ac yn ailffocysu fy egni ar helpu eraill. Nid yw'n “therapi siarad” yn yr ystyr arferol, ond mae'n gweithio am y tro. 

PP.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy