Hunanofal ac Iechyd Meddwl Dynion

Mae Stuart yn sôn am y cysylltiad rhwng hunanofal ac iechyd meddwl dynion.

6th December 2021, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Stuart

Pan welais i'r gwahoddiad hwn i ysgrifennu am iechyd meddwl dynion a hunanofal, ar unwaith meddyliais am y grŵp Facebook ‘Let’s Talk Men’s Mental Health’. Ymunais â'r grŵp ym mis Ionawr 2021 pan oeddwn ar fin dechrau fy sesiwn cwnsela gyntaf ar-lein ar Zoom gyda Breathe (https://breathe-uk.com/). 

Mae LTMMH yn llawer mwy na grŵp Facebook arferol. Mae'n rhywle sydd heb bwysau, beirniadaeth na stigma lle y gallwch chi rannu, helpu a chael eich helpu gan ddynion eraill sydd i gyd wedi “bod yno” mewn rhyw ffordd. Nid oes gan neb hyfforddiant; mae pawb yn amaturaidd, yn anghyffredin, yn wahanol, yn onest ac yn ofalgar. Mae gan lawer salwch difrifol, meddyliol a chorfforol, neu wedi cael salwch meddyliol a chorfforol difrifol. Mae rhai yn ymateb yn fwy nag eraill, ond bydd rhywun bob amser yn ymateb. Mae'r cyngor maen nhw'n ei roi yn uniongyrchol a heb ei olygu ond bob amser yn onest. Does dim unrhyw broblem, mater neu safbwynt yn fwy nac yn llai nag unrhyw broblem, mater neu safbwynt arall. Yn aml mae cyfeiriadau syml at bethau a helpodd neu a weithiodd i un person, p'un a oedd yn rhywbeth a weithiodd iddo ef ei hun neu i'w ffrind. Weithiau mae'r negeseuon yn hir, yn dorcalonnus ac yn cynnwys rhybudd a allai sbarduno teimladau.

Ar y cyfan, does dim strwythur i'r drafodaeth ac mae'n ymatebol yn unig, ond mae'r tîm rhagorol y tu ôl i'r grŵp yn postio rhywbeth i ddechrau sgwrs bob dydd Mawrth, ‘Topic Tuesday’, sydd weithiau yn dechrau sgwrs hir gyda llawer yn cyfrannu ati. Er enghraifft, roedd #TopicTuesday – Alcohol a Chyffuriau yn trafod eu heffaith ar iechyd meddwl, yn enwedig wrth i gyfnod y Nadolig agosáu. Fel rwyf wedi ei ddweud mewn mannau eraill, maen nhw'n ddynion da, sy'n gwneud gwaith da ac maen nhw i gyd wedi bod yn ddigon caredig i ddweud, “Mae'n digwydd i ni gyd mêt, gan gynnwys ti!”. Mae'n fraint bod yn rhan o'r grŵp hwn ac rwy'n ddiolchgar i aelodau'r tîm a wnaeth ei sefydlu, ac rwy'n eu hedmygu.

Mae'r sesiwn Zoom wythnosol sy'n para 2 awr ar nos Sul yn ddigwyddiad gwych, pryfoclyd a doniol sy'n trafod popeth. Mae'r pynciau yn ddifrifol (hunanladdiad, bwlio, stigma) ac yn wirion (Pele, acenion annealladwy Birmingham, doliau Action Man). Mae'r sgwrs yn symud o amgylch y byd. O'r gwreiddiau lleol yn y Rhondda, i lawr y cwm i Bontypridd, Caerdydd, ledled Cymru, drwy Gernyw, Llundain (Gwyddelig) i Ewrop i ŵyl gwrw gwrtais yn Munich, campfa yn Tenerife, rygbi a phêl-droed (mae chwaraeon eraill ar gael, fel pêl-fasged, eirafyrddio, hyd yn oed hwylio) ac i fannau pell fel Japan, Ffiji a Seland Newydd. Rhaid i chi fod yno i glywed straeon sy'n cadarnhau gwerth bywyd am galedi, lwc dda a marwolaeth i raddau gwahanol iawn. Does dim unrhyw bwysau i siarad (na chau pen), ac mae rhai aelodau o'r grŵp yn cuddio i ddechrau drwy ddiffodd eu camerâu a'u meicroffonau.

Mae rhai o'r uchafbwyntiau a wnaeth i mi feddwl, gwenu a/neu ddeall ychydig yn fwy am fywyd o alwadau Zoom blaenorol yn cynnwys y canlynol, ond dydyn nhw ddim mewn unrhyw drefn arbennig:

  • Mae Covid wedi cael effaith andwyol ar lawer o fywydau. 
  • Mae barnu pobl am yr hyn maen nhw'n ei wisgo yn dwp, ond gall herio'r rhai sy'n gwneud hynny fod yn hwyl. 
  • Rwy'n gweld eisiau'r dafarn.
  • Rydyn ni i gyd yn lliwiau gwahanol o frown. Gall y bobl fwyaf annisgwyl fod yn hiliol hefyd. 
  • Dim ond un math o gymorth yw AA, ac nid yw'n gweithio i bawb. 
  • Mae'r acronym HALTB yn Saesneg – newynog, dig, unig, blinedig a diflas – yn ddefnyddiol.
  • Nid yw hunanladdiad yn syniad rhesymegol ond i rai pobl, mae'n teimlo felly. 

Wrth gwrs, roedd yn rhaid i chi fod yno. Rwy'n falch fy mod i wedi bod yno.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy