‘Ddim yn rhy ddrwg’, ‘Alla i ddim cwyno’, ‘Dwi'n weddol’, ‘Iawn, diolch, ychydig yn flinedig.’

Mae Charlotte yn dweud wrthon ni pam mae hi wedi penderfynu bod yn fwy agored am ei hiechyd meddwl, wrth iddi roi'r gorau i ddefnyddio ymadroddion sy'n cuddio sut mae hi wir yn teimlo.

20th February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Charlotte

Wn i ddim sawl gwaith rwyf wedi dweud yr ymadroddion hyn neu wedi newid y pwnc pan fydd rhywun yn gofyn sut ydw i oherwydd, mewn gwirionedd, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i siarad am hynny. Roedd cymaint o resymau pam doeddwn i ddim eisiau dweud wrth bobl sut roeddwn i wir yn teimlo. Doeddwn i ddim am dynnu neb i lawr neu ymddangos fel fy mod i'n cwyno. Hefyd, mewn cyfnodau tywyll iawn, doeddwn i ddim am ddychryn neb na gwneud i bobl boeni amdana i. Ond roedd hyn yn anghywir, oherwydd pan aeth popeth yn ormod, doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i fod yn agored amdano. Byddwn i'n cau fy hun i ffwrdd ac yn anwybyddu pawb, a oedd yn codi mwy o ofn a phryder ar y bobl sy'n poeni amdana i o gymharu â phe bawn i wedi bod yn onest am sut roeddwn i'n teimlo. Hefyd, byddwn i'n teimlo'n euog iawn am gau pobl allan, a byddai hyn yn gwneud i mi deimlo fel person ofnadwy, a fyddai (yn naturiol) yn gwneud i mi deimlo'n waeth. 

Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynais ddechrau bod yn fwy agored am fy iechyd meddwl ac fel rhan o hynny, rwyf wedi dechrau bod yn onest gyda'r bobl o'm cwmpas ynglŷn â sut rwyf wir yn teimlo. Mae cael y sgyrsiau hynny wedi teimlo fel bod pwysau mawr wedi'u codi oddi ar fy ysgwyddau ac mae wedi trawsnewid sut rwy'n ymdopi ag iselder a gorbryder. Mae hefyd wedi galluogi fy ffrindiau a fy nheulu i ddechrau bod yn fwy agored am sut maen nhw'n teimlo, ac erbyn hyn mae siarad am iechyd meddwl wedi mynd o fod yn bwnc nad oedd neb byth yn ei godi i rywbeth sy'n rhan gwbl normal o'n sgyrsiau pob dydd. 

Nid yw hyn yn hawdd ac rwy'n dal i ddal fy hun yn dweud ‘ddim yn ddrwg diolch’ neu'n osgoi neges pan nad ydw i'n gwneud cystal, ond rwy'n ceisio gwneud ymdrech fwriadol i fod yn onest â'r rhai o fy ngwmpas. Rwy'n gallu dweud cymaint neu gyn lleied ag sy'n teimlo'n gyfforddus wrth bobl ynglŷn â sut rwy'n teimlo, ond rwyf wedi gweld bod dim ond dweud ‘Rwy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar hyn o bryd’ yn gallu rhoi rhywfaint o ryddhad.

O'r diwedd, rwyf wedi sylweddoli bod pobl wir am wybod sut ydw i am eu bod nhw'n poeni amdana i. Yn yr un ffordd, mae bod yn fwy agored wedi fy ngwneud i'n fwy ymwybodol o pan fydd pobl eraill yn dweud ‘ddim yn rhy ddrwg’ wrtha i, felly rwyf wedi ceisio gofyn cwestiynau mwy penodol os bydd rhywun wedi bod ychydig yn dawel yn ddiweddar neu os bydda i'n gwybod ei fod wedi cael amser anodd. 

Er nad yw hyn yn gallu atal y meddyliau tywyll, mae gallu cael sgyrsiau agored a gonest am sut rwy'n teimlo yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n cael cefnogaeth ar yr adegau hynny ac mae'n gwneud i bopeth deimlo'n ysgafnach ac yn llai unig – felly byddwn i'n annog pawb i ddechrau bod yn fwy agored am eu hiechyd meddwl oherwydd gall wneud gwyrthiau i'ch lles meddyliol eich hun. 

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy