Eiriolwyr

Unigrwydd

"Gall dioddef problem iechyd meddwl a chael diagnosis fod yn brofiad unig iawn oherwydd mae salwch meddwl mor unigol i bawb..."

9th May 2022, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Karen

Gall dioddef problem iechyd meddwl a chael diagnosis fod yn brofiad unig iawn oherwydd mae salwch meddwl mor unigol i bawb – gall hyd yn oed rhywun sydd â'r un anhwylder ei brofi mewn ffordd wahanol iawn. Yn wahanol i salwch corfforol, gall eich cefndir, eich amgylchiadau, y bobl sydd o'ch cwmpas a'ch personoliaeth ddylanwadu ar salwch meddwl, a gall pob un ohonynt amrywio'n fawr gyda phob unigolyn, gan arwain at brofiad penodol iawn o unrhyw fath o salwch neu anhwylder meddwl. 

Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol ‘tawel’, sydd â naw maen prawf cymhwyso. Mae pump ohonynt yn rhoi diagnosis i chi. Ond os ydych chi'n meddwl am y peth, gallai dau berson gael pedwar symptom hollol wahanol, gyda dim ond un yn gyffredin. Mae'n bosibl na fyddai rhannu sgwrs â rhywun arall sy'n dioddef yn ddefnyddiol os bydd gan y ddau ohonoch chi brofiad gwahanol iawn o anhwylder. Dyna pam mae'n gallu bod yn brofiad unig iawn.

Yn bersonol, er fy mod yn berson eithaf llafar, mae wedi bod yn anodd iawn i mi esbonio i fy nheulu a ffrindiau beth yn union rwy'n ei brofi. Rwy'n gwybod nad ydynt wir yn deall faint rwy'n dioddef ar adegau; a dw i ddim wir am iddyn nhw wybod. Ond y peth anoddaf oedd cael fy mradychu gan rywun roeddwn i'n ymddiried ynddo i siarad am fy mhroblemau iechyd meddwl. Roedd yn ddigon anodd delio â fy nghyflwr iechyd meddwl beth bynnag ac roedd gallu siarad amdano yn rhyddhad mawr, ond pan mae'r person rydych chi wedi cyfaddef wrtho yn bradychu eich ymddiriedaeth ac yn eich gwrthod oherwydd eich salwch, dyna'r peth mwyaf trychinebus. Rydych chi'n teimlo fel na fyddwch yn meiddio siarad â neb byth eto a dyna'r teimlad mwyaf unig yn y byd.

Yn ffodus, mae therapyddion gwych ar gael, ac roeddwn i'n ffodus iawn i ddod o hyd i un. Rhywun roeddwn i'n gallu ymddiried ynddo o'r diwedd, ac nad oedd yn fy meirniadu, nac yn gwneud i mi deimlo'n euog am bethau roeddwn i wedi'u gwneud oherwydd fy anhwylder. Mae'n hynod bwysig parhau i siarad am iechyd meddwl, oherwydd dim ond drwy ei wneud yn rhywbeth normal y mae pobl yn ei brofi, yr un mor normal ag y mae i ddioddef o ddiabetes neu arthritis er enghraifft, y bydd pobl yn dechrau teimlo'n llai unig.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy