Eiriolwyr

Unigrwydd mewn Ystafell Orlawn

"Mae gan bawb rwy'n eu hadnabod ddisgrifiad gwahanol o'u hunigrwydd. Er enghraifft, fy nisgrifiad i yw gwactod."

9th May 2022, 10.00am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Mae gan bawb rwy'n eu hadnabod ddisgrifiad gwahanol o'u hunigrwydd. Er enghraifft, fy nisgrifiad i yw gwactod. Y math sy'n eistedd yng ngwaelod fy stumog fel gwagle cyfoglyd. Mae miliynau o bobl yn brwydro'n dawel â'r un unigrwydd bob dydd, yn ei holl ffurfiau gwahanol, ond prin y mae sôn amdano. Yn eironig, mae unigrwydd ei hun felly wedi dod yn fater hynod o unig - un y mae llawer yn ei brofi ond dim ond ychydig sy'n siarad amdano. Roedd y tawelwch hwn yn golygu, tan yn ddiweddar, fy mod i'n credu nad oedd fy mhrofiad i o unigrwydd yn normal.

Fel rhywun sydd wrth ei bodd gyda'i gofod ei hun, doeddwn i byth yn deall sut y gallen i hefyd deimlo'n unig yn y gofod hwnnw. Ers yn blentyn, roedd fy lle hapus yn troi o fy nghwmpas i fy hun, set LEGO newydd sbon, a sioeau cartŵn yn rhedeg yn ddi-baid ar y teledu. Ond er fy mod yn mwynhau fy amser ar fy mhen fy hun, roedd y gwactod o ofn ac unigrwydd yn fy meddwl bob nos o hyd. Dyna pryd ges i'r rhagdybiaeth fod bod ar eich pen eich hun yn arwain yn awtomatig at fod yn unig, felly gwnes i'r gwrthwyneb. Roedd pobl o'm cwmpas bob amser; yn mynd i bartïon, nosweithiau cwis, clybiau, nes bod bron pob eiliad o'm hamser yn cael ei dreulio gydag unrhyw un heblaw fi fy hun. Yn fy meddwl i, po fwyaf swnllyd roedd fy mywyd cymdeithasol, y mwyaf tawel fyddai fy unigrwydd. Mewn gwirionedd, nid oedd hyn yn wir o gwbl. Gallai'r ystafell fod yn llawn pobl yn chwerthin, dawnsio a chael amser da - y gwrthwyneb o fod ar eich pen eich hun - ond eto yn yr eiliad honno doeddwn i erioed wedi teimlo'n fwy unig neu wedi fy natgysylltu. Roedd yn ymddangos po fwyaf llawn roedd ystafell, y lleiaf roeddwn i'n teimlo ac roedd y gwagle hwnnw'n tyfu nes iddo fy llethu. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi methu ar ryw lefel, yn fy mywyd cymdeithasol, yn fy annibyniaeth, ac yn fy ngallu fy hun fel unigolyn.

Dechreuodd y rhagdybiaethau distaw hyn a'r stigma am y term unigrwydd wneud i mi deimlo fy mod i'n faich ac yn fethiant, gan greu hunanamheuaeth a oedd yn cwestiynu sut y gallwn i ddianc o fy unigrwydd pan na allai hyd yn oed ystafell llawn pobl “drwsio” yr hyn roeddwn i'n ei deimlo. Dyma'r un stigma sy'n parhau i gysylltu ein hunigrwydd â gwendid ac yn hytrach na chaniatáu i ni ein hunain deimlo a chyfaddef wrth y rhai sydd o'n cwmpas, cawn ein cywilyddio i aros yn dawel.

Pan benderfynais siarad yn agored am fy unigrwydd gydag ychydig o bobl, sylweddolais faint o bobl eraill oedd yn teimlo'r un peth â mi. Pawb o gefndiroedd gwahanol, oedrannau gwahanol, a phob un ohonyn nhw'n profi eu math eu hunain o unigrwydd. Yn hytrach na chwestiynu fy hun a cheisio “trwsio” yr hyn roeddwn i'n ei deimlo, dechreuais gwestiynu'r stigma sy'n gysylltiedig â mater o'r fath a datgelu'r diwylliant o gywilydd a wnaeth i mi gredu bod angen i mi drwsio fy hun yn y lle cyntaf.

Wrth wneud hynny, sylweddolais i nad yw teimlo'n unig o reidrwydd yn golygu bod ar eich pen eich hun. Gall pobl fod yn unig yn yr ystafelloedd mwyaf gorlawn ac yn y gofodau mwyaf gwag – mae'n effeithio ar bob un ohonon ni mewn ffyrdd gwahanol ac mae pob profiad yn ddilys. Dydy unigrwydd ddim yn wendid. Dyw e ddim yn fethiant. Dyw e ddim yn lleihau ein hannibyniaeth, nac yn lleihau ein gallu fel unigolyn.

O wybod hynny, stopiais i geisio atal fy ngwactod ac yn hytrach dechreuais ei gydnabod – eistedd gydag ef a chaniatáu i mi fy hun deimlo. Unwaith i mi gydnabod nad oedd angen i mi redeg i ffwrdd o fy unigrwydd, yn araf deg dechreuais fwynhau fy amser ar fy mhen fy hun unwaith eto. Gwnes i ailddarganfod fy lle hapus (sy'n dal i fy nghynnwys i fy hun, LEGO a chartwnau di-ri) a'r hapusrwydd sy'n dod o fy nghwmni fy hun.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, gadewch i ni herio'r stigma distaw sy'n labelu unigrwydd fel mater sydd yr un peth i bawb. Yn lle'r stigma hwnnw, rwyf am roi tawelwch meddwl i chi o ran dilysrwydd yr hyn rydych chi'n ei deimlo a'ch annog i siarad, nid yn unig â'r rhai o'ch cwmpas sydd ar wahân yn gorfforol, ond hefyd y rhai sy'n ymddangos mai nhw yw'r lleiaf unig. 

Ni waeth sut mae ein hunigrwydd yn edrych, p'un a yw'n wactod tawel neu orbryder troellog, p'un a yw fwyaf uchel ei gloch mewn ystafell orlawn neu ofod gwag – dydyn ni ddim yn ei wynebu ar ein pen ein hunain ac mae'n amser i ni chwalu'r diwylliant o gywilydd sy'n dweud fel arall wrthon ni.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy