Eiriolwyr

Pwysigrwydd torri stigma ac ymgyrchu dros newid

Yma, mae Mark Abraham yn trafod pam ei bod yn bwysicach nag erioed i ni fynd ati i dorri stigma iechyd meddwl yn ei farn ef.

6th October 2020, 9.30am | Ysgrifenwyd gan Mark Abraham

Yn fy mlog ar gyfer Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, gwnes i drafod bod angen i unigolion weithredu a chydnabod eu bod yn gyfrifol am ddechrau sgyrsiau ac annog newid. Dyw'r ddamcaniaeth hon ddim yn estron nac yn haniaethol, ac ydy, mae'n dal i fod yn berthnasol wrth edrych ar sut y gallwn ni fynd i'r afael ag iechyd meddwl yn gyffredinol.

Dyna pam rwy'n ailadrodd y brif neges o fy mlog ddiwethaf ac yn gofyn i chi feddwl pam y dylen ni fynd ati i dorri stigma a rhoi newid gwirioneddol ar waith, a pham mae hyn yn bwysicach fyth ar yr adeg hon o'n bywydau. 

Mae angen i bob un ohonon ni gofio bod ein bywydau wedi newid yn gyfan gwbl o gymharu â chwe mis yn ôl. Roedden ni'n mwynhau rhyddid a hawliau diddiwedd, ac yn eu cymryd yn ganiataol o bosibl, a doedd y mwyafrif helaeth ohonon ni (i fod yn blwmp ac yn blaen) ddim yn treulio unrhyw amser yn eu gwerthfawrogi gan eu bod yn rhan o'n trefn ddyddiol arferol. Felly, mae'n bwysig cofio'r math o effaith y gall torri'r cylch ei chael ar bobl sy'n gadarn eu meddwl hyd yn oed. Allwch chi ddim teithio ble y mynnoch na chyfarfod â ffrindiau a theulu, mynd ar wyliau, i briodasau, digwyddiadau chwaraeon, cyngherddau nac ar anturiaethau. Efallai eich bod chi wedi cael gwybod y byddwch chi'n gweithio o gartref am gyfnod amhenodol, neu'n waeth fyth, eich bod chi wedi colli eich swydd. Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i chi gymryd rhagofalon rhesymol a datblygu paranoia ataliol tuag at bawb arall o'ch cwmpas, gan obeithio eu bod nhw'n cymryd yr un mesurau â chi. Mae'r newid hwn yn anferth i bawb.

Nid yw'n syndod ei fod yn cael effaith ar iechyd meddwl pobl. Mae'n newid cyflym, enbyd a llym i'n bywydau bob dydd. Mae'n creu gorbryder ac ansicrwydd, ofn a diymadferthedd a gan nad yw'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld digwyddiad tebyg o'r blaen, mae'n anodd gweld y golau ar ddiwedd y twnnel. Fodd bynnag, mae'r golau yn bodoli a thrwy ddyfalbarhau a bod yn ddewr a phenderfynol, fe ddown ni drwyddi.

Felly, mae'n bwysicach nag erioed nawr i helpu'r rheini sydd o'n cwmpas a chysylltu â nhw. Anfonwch neges destun at ffrind nad ydych chi wedi clywed ganddo/ganddi ers amser a gofyn, ‘Wyt ti'n iawn?’. Trefnwch alwad Zoom neu FaceTime ag aelod o'r teulu i gael sgwrs, neu rhowch ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyhoeddi eich bod yn fodlon siarad ag unrhyw un sydd angen sgwrs. Ewch ati i atgoffa pobl bod cymorth ar gael ac nad oes angen i'r rheini sy'n brifo neu'n dioddef wneud hynny mewn tawelwch ac ar eu pen eu hunain yn sgil y pandemig. 

Er bod y tywydd yn newid gyda'r hydref a'r gaeaf yn agosáu, dylech chi annog pobl i wisgo'n gynnes, mynd am dro a chael awyr iach. Gofynnwch a fyddai eich ffrind yn hoffi mynd am dro, gan gadw pellter cymdeithasol, i adael y tŷ a thrafod ei deimladau. Gall wneud gwahaniaeth mawr.

‘‘Byddwch yn garedig’’ – Mae'n ffordd o'n hatgoffa na fydd pawb yn teimlo eu bod yn ddigon cryf i ddyfalbarhau; byddwch yn ymwybodol o hynny a meddyliwch sut y bydd eich geiriau a'ch gweithredoedd yn dylanwadu ac yn effeithio ar y bobl o'ch cwmpas, hyd yn oed os na fyddan nhw'n awgrymu bod rhywbeth yn eu poeni mewn ffordd amlwg neu agored. 

Byddwn ni'n mynd i'r afael â'r broblem hon gyda'n gilydd gan ein bod yn gryfach gyda'n gilydd. Rydyn ni'n derbyn bod bywyd yn heriol a bod rhai ohonon ni'n fwy agored i deimlo effaith yr heriau nag eraill, ond mae hynny'n iawn. Rydyn ni'n helpu'r rheini o'n cwmpas ac yn rhoi cymorth iddyn nhw, gyda'r gobaith mai dyma'r hyn y bydden nhw'n ei wneud i ni. Rydyn ni'n rhoi terfyn ar stigma ac yn dysgu i fyw gyda'n gorbryderon, heb golli golwg ar y golau ar ddiwedd y twnnel. 

Mark A.jpg

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy