“Dw i am fod yn sbardun newid lle bynnag y galla i”

“Mae bod yn agored ac eisiau dysgu rhywbeth newydd i helpu eich lles corfforol a meddwl yn gryfder pwysig, Mae’n anodd, a dyna pam mae’n gallu codi braw. Ond er hynny, mae’n werth y byd!”

1st June 2022, 9.17pm | Ysgrifenwyd gan Simon

Yn syml iawn, dw i’n llawn cyffro i ddechrau ar fy nhaith fel Hyrwyddwr Amser Newid Cymru ac mae’n ymgyrch dw i wedi bod yn gwylio o bell am ychydig o flynyddoedd. 

Wedi newid swydd, sefydlu fy musnes fy hun – Speakeasy Club – ac yn fuan wedi cael diagnosis o iselder a gorbryder eithafol ychydig dros flwyddyn yn ôl, dw i bellach yn teimlo yn y lle iawn i gefnogi’r ymgyrch wych hon. 

Wrth i mi ysgrifennu hwn ar 23 Mai, mae’n 12 mis yn union ers i mi gael diagnosis. Ar y pryd, roedd y teimladau o ddryswch, blinder, diffyg hunan-barch a diffyg diddordeb llwyr mewn gwneud pethau dw i’n eu caru yn gryf iawn. 

‘Roedd gen i rwydwaith cefnogi y tu ôl i mi’

Wrth reswm, mae’r stori’n fwy cymhleth a manwl na’r un y bydd y postiad blog hwn yn ei rhoi, ond pan oeddwn i yn fy adeg dywyllaf oll, roeddwn i’n gwybod rhywle ynof fi fod rhwydwaith cefnogi o deulu a ffrindiau yn gefn i mi a gallwn i fod yn agored gyda nhw ac a fyddai’n fy nghefnogi drwy’r amser brawychus a dryslyd hwn. 

Roedd y rhwydwaith mor bwysig yn fy helpu i i agor i fyny, siarad am yr hyn a oedd yn digwydd yn fy mhen ar y pryd, a ches i’r rhyddid a’r cymorth i roi stop iddi yn syml iawn a gwneud adfer yn flaenoriaeth.

Mae therapi siarad wedi bod yn rhan hynod bwysig yn fy nhaith ac yn rhywbeth dw i’n ei wneud o hyd heddiw. Mae canfod arferion rheolaidd eto gydag ymddygiad cadarnhaol, fel ymarfer corff a deiet iach, yn bendant wedi atgyfnerthu hyn ac er fy mod i’n parhau i gymryd meddyginiaeth wrthiselder i reoli'r gorbryder, nid yw meddyginiaeth yn siop un stop i ddatrys yr holl broblemau sydd gen i. 

‘Defnyddio iaith gadarnhaol ac ymddygiad cadarnhaol’

Ers rhannu fy heriau drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol. Nid yn unig o ran y cymorth, ond y sefyllfaoedd tebyg maen pobl ynddyn nhw a nifer y bobl sy’n dioddef yn dawel oherwydd y stigma hwn. Mae’n rhaid i hyn newid, a dw i am fod yn sbardun newid lle bynnag y galla i. 

Mae siarad am eich iechyd meddwl yn gadarnhaol ac mae’n gryfder. Mae’n syml. Bydd pobl yn dweud wrthym ni’n aml: ‘Peidiwch â phoeni, dyw hi ddim yn wendid i siarad am eich teimladau’.  Ac mae’r bobl hyn yn iawn – dyw hi ddim yn wendid.  

Fodd bynnag, pan fyddwn ni ar ein gwanaf, y geiriau negyddol, fel ‘gwendid’, yw’r geiriau rydym ni’n fwyaf tebygol o lynu wrthynt. Dw i wir am helpu i newid ein diwylliant, gan ddefnyddio iaith gadarnhaol ac ymddygiad cadarnhaol i ddathlu ein hunain a phobl eraill. 

Mae bod yn agored ac eisiau dysgu rhywbeth newydd i helpu eich lles corfforol a meddwl yn gryfder pwysig. Mae’n anodd, a dyna pam mae’n gallu codi braw. Ond er hynny, mae’n werth y byd!

‘Rhywun sy’n creu lle diogel’

Dwi am fod yn Hyrwyddwr Amser Newid Cymru sy’n adnabyddus am ddathlu unigolion drwy ofyn mwy o gwestiynau i ddeall yn well, nid i feirniadu – rhywun sy’n creu amgylchedd diogel ac empathetig i bobl wir ddysgu pwy ydyn nhw a’r agweddau cadarnhaol i’w bywydau. 

Dw i wedi gallu gwreiddio fy mhedwar gwerth i’r Clwb Speakeasy: 

  • Bod yn driw i chi’ch hun
  • Hwyl
  • Chwilfrydedd
  • Empathi

Dw i’n credu’n gryf os ydym ni’n treulio mwy o amser yn dysgu am y pethau llawn hwyl yn ein bywydau, mae’n ei gwneud hi’n haws dysgu am y pethau anoddach. 

Dw i’n edrych ymlaen at 23 Mehefin [sef y diwrnod hyfforddi Hyrwyddwyr nesaf), a dw i’n gobeithio y gallai i helpu eraill i ganfod yr hyn maent yn frwdfrydig amdano, fel mae fy ffrindiau a’m teulu i wedi helpu!

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy