Yn ôl yn 2011, roeddwn i’n teimlo ychydig yn ddiflasedig, wedi cwympo allan o yrfa gorfforaethol 30 mlynedd o hyd ychydig o flynyddoedd cyn hynny. Roeddwn i wedi colli fy hyder i gyd, a doedd gen i braidd dim hunan-barch; roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn ymddiried mewn pobl eraill ac roedd fy nhaith adfer dim ond yn dechrau!
Teipiais i ‘Amser Newid’ i Google oherwydd, ar y pryd, roeddwn i am i hynny ddigwydd, a neidiodd Amser Newid allan o'r dudalen (ar y pryd, roedd yr ymgyrch dim ond ar gael yn Lloegr).
Ces i wybod gan y sefydliad er y gallwn i wneud yr hyfforddiant, fyddwn i ddim yn gallu gwirfoddoli gyda nhw gan fy mod i’n byw yng Nghymru. Fodd bynnag, byddant yn anfon y diweddaraf ata i oherwydd bod Amser Newid Cymru yn mynd i ddechrau yn y dyfodol agos.
‘Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun yn teimlo fel roeddwn i’
Cwblheais i’r hyfforddiant ac, am y tro cyntaf, camais i i ystafell lle’r oeddwn i’n teimlo ei bod hi’n siarad am fy mhrofiad a sut doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun yn teimlo fel oeddwn i.
Wrth neidio ymlaen i 2012, cadwon nhw eu haddewid i’m diweddaru. Ces i wahoddiad i fynd i sesiwn gyntaf oll hyfforddiant Amser Newid yng Nghymru. Roeddwn i wrth fy modd gydag ef. Roedd croeso cynnes iawn i mi a chefais fy annog i rannu fy stori i helpu eraill.
‘Teimlais fy hyder yn cynyddu’
Dw i’n cofio gwneud fy nghyflwyniad Hyrwyddwr cyntaf i gymdeithas tai yng Nghwmbrân ac, yr eiliad honno, teimlais fy hyder yn cynyddu.
Cefais gefnogaeth gan arweinydd y rhaglen ar y pryd, a theimlad i ohoni’n dal fy llaw drwy gydol yr holl beth. Yn ansicr iawn, rhannais i fy stori am orweithio a difetha fy hun a sut mae stigma/gwahaniaethu yn y gweithle wedi cyfrannu at y diagnosis hwnnw a oedd, yn ei dro, wedi fy ngadael ag iselder clinigol a gorbryder eithafol roedd yn rhaid i mi frwydro yn eu herbyn.
‘Roedd gen i fy mynydd fy hun i rannu’
Dwi’n hynod falch o ddweud 10 mlynedd yn ddiweddarach, dw i’n Hyrwyddwr Amser Newid o hyd, gan gyfrannu lle galla i, a chynnal sgyrsiau ac annog pobl eraill i gymryd rhan. Dros yr amser hwn, dw i wedi cynnal cannoedd o sgyrsiau (dathlais i fy 100fed sgwrs yn 2016!) i gynulleidfaoedd bach a mawr.
Mae gen i lawer o uchafbwyntiau, ond un oedd dilyn Syr Randolph Fiennes i’r llwyfan mewn cynhadledd Bwrdd Dŵr Cymru, lle darganfyddais er nad oeddwn i wedi dringo Everest, roedd gen i fy mynydd dy hun i’w rannu.
‘Bob amser yn sefyll yn y gornel’
Gwnaeth Amser Newid Cymru fy helpu i ail-fagu fy hyder a’n hunan-barch. Mae’r bobl dw i wedi cwrdd â nhw wedi fy annog bob cam o'r ffordd. Hyd yn oed yn ystod adegau ansicr, maent bob amser wedi bod yn gefn i mi. Dw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i mi, sydd wedi fy arwain i helpu llawer o bobl eraill gyda fy stori i.
Y clod mwyaf dw i’n ei chael yw pan fydd aelod o'r gynulleidfa yn dweud ar y diwedd: “O dy achos fi, dw i’n mynd i ofyn am help. Diolch.”
Heddiw, dw i’n diolch i’r tîm presennol ac yn y gorffennol am bopeth rydych chi wedi’i roi i mi. Mae wedi, ac mae’n parhau, i fod un o’r profiadau pwysicaf ar fy nhaith adfer.