Eiriolwyr

“Roeddwn i'n teimlo mor agored i niwed ar ôl fy meichiogrwydd ac mae'n drueni na wnes i sefyll fy nhir yn fwy.”

"Yn fuan ar ôl genedigaeth fy mab, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd bondio ag ef yn ystod y chwe wythnos gyntaf."

9th May 2022, 9.00am | Ysgrifenwyd gan Dienw

Yn fuan ar ôl genedigaeth fy mab, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd bondio ag ef yn ystod y chwe wythnos gyntaf. Yn ystod y cyfnod yma, roeddwn i'n teimlo mor unig. Roeddwn i newydd symud i ardal wahanol a doedd hi ddim yn hawdd addasu ar ôl newydd ddod yn fam. Diolch byth, sylwodd yr ymwelydd iechyd ac roedd yn deall beth roedd yn digwydd, a rhoddodd fanylion meddyg teulu lleol i mi. Yn y diwedd ces i ddiagnosis o iselder ôl-enedigol a PTSD, am fod y beichiogrwydd wedi golygu fy mod yn methu â symud. Roedd gallu rhoi enw i'r hyn roeddwn i'n ei brofi o'r diwedd yn gwneud pethau'n haws i mi eu deall.

Yn ystod genedigaeth fy mab, methodd y tîm meddygol sicrhau fy mod yn ddideimlad cyn iddynt ddechrau'r epidwral a oedd yn golygu fy mod yn teimlo poen yr epidwral yn fy asgwrn cefn. Er fy mod yn dweud wrthyn nhw fy mod i'n teimlo'r boen, gwnaethant ddiystyru'r hyn roeddwn i'n ei ddweud a dweud wrtha i na ddylwn i fod yn teimlo'r boen ac yna gwaethant hyd yn oed gwestiynu beth yn union roeddwn i'n teimlo! Yn y diwedd roedd yn brofiad trawmatig iawn ac roedd yn troi drosodd a throsodd yn fy mhen am nifer o flynyddoedd. Dw i ddim yn gwybod ai dyma oedd fy ffordd i o'i brosesu, ond yn nes ymlaen dysgais i ei fod yn rhan o fy PTSD. Rwy'n cofio'r boen o hyd nawr. Fodd bynnag, gyda genedigaeth fy merch, roedd yn brofiad mwy esmwyth am fod y meddygon wedi rhoi anaesthetig cyffredinol i mi a thoriad Cesaraidd wedi'i gynllunio, ond roedd gwella yn anodd a chefais iselder ôl-enedigol eto.

Rwy'n dod o deulu a chymuned Fangladeshaidd a Mwslim felly'r syniad yw ei bod i'n bosibl gwella unrhyw anhawster iechyd meddwl drwy ‘daith ysbrydol’. Nid yw iechyd meddwl yn cael ei gydnabod yn aml. Gall clywed pobl o'm cwmpas yn dweud pethau fel ‘ceisia weddïo’ yn hytrach nag awgrymu gweld meddyg yn eithaf cyffredin, ond nid dyna'r peth cywir i rywun fel fi ei glywed. Mae iechyd meddwl hefyd yn bwnc tabŵ yn ein cymuned sy'n gwneud i aelodau o'r teulu deimlo cywilydd os bydd anwylyd yn dioddef ac felly doeddwn i ddim am ddweud wrth fy nheulu beth roeddwn i'n ei brofi. Doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i fod yn agored am fod pobl yn meddwl mai'r rheswm dros fy anawsterau oedd nad oeddwn i'n ‘gweddïo digon’. Er fy mod i'n berson llafar ac yn fam, mae pobl wedi dweud wrtha i ac wedi gwneud i mi deimlo mai dyma oedd i'w ddisgwyl wrth gael plant. Cymerodd 4/5 mlynedd i sylweddoli faint mae hyn wedi effeithio ar fy iechyd meddwl. Petai wedi cael ei gydnabod yn gynt, efallai y byddai pethau wedi bod yn well. Oherwydd rhai o'r bobl oedd o'm cwmpas, yn diystyru'n hyn roeddwn i'n ei deimlo a ddim hyd yn oed yn fy neall, roedd pethau cymaint yn waeth. 

Deg mlynedd yn ddiweddarach, dw i wedi ailgysylltu â ffrind ac rydym yn cadw mewn cysylltiad yn fwy rheolaidd. Dw i wedi ei hadnabod drwy gydol fy mywyd, ond gwnaethon ni golli cysylltiad oherwydd bod bywyd wedi mynd yn y ffordd. Un diwrnod, siaradais i â hi yn agored a gwrandawodd arna i. Roedd yn deall ac yn gallu uniaethu â rhai o fy anawsterau. Mae'r ddwy ohonom yn famau, felly roedd hi'n fy neall i. Byddem yn siarad tan oriau mân y bore, ac er nad ydym yn siarad drwy'r amser, byddem yn ailddechrau pob sgwrs fel petaen ni wedi siarad ddoe. Mae wir wedi fy helpu drwy fy nghyfnodau mwyaf tywyll.

Fy nghyngor i felly yw siarad â rhywun – hyd yn oed os mai dim ond gydag un person. Does neb am eich gweld chi'n brifo ac ni allwch chi ddisgwyl i rywun wybod os na fyddwch chi'n dweud. Mae hefyd yn bwysig ceisio help meddygol p'un a yw hynny drwy fydwraig, ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu lleol. Rhaid i chi fynd drwy'r twnnel i ddod allan i'r golau!

Nawr, rwy'n eithaf bodlon dweud pan fydda i mewn poen neu'n dioddef. Bydda i'n rhoi gwybod i fy mhartner ac aelodau o'r teulu. Roeddwn i'n teimlo mor agored i niwed ar ôl fy meichiogrwydd ac mae'n drueni na wnes i sefyll fy nhir yn fwy. Nawr, rwy'n edrych yn ôl a meddwl, ‘gwnes i fy ngorau – da iawn’. Rwy'n gobeithio y bydd rhywun sy'n edrych fel fi ac yn gwisgo hijab (pensgarff) yn gallu uniaethu â fy stori. Fy nghymhelliant dros fod yn un o Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru yw rhoi hyder i'r genhedlaeth nesaf a mamau ifanc i fod yn agored, yn enwedig y rhai o gymunedau ethnig lleiafrifol. Rwy'n gobeithio ymgyrchu mwy yn y dyfodol a chodi ymwybyddiaeth o hyn drwy bodledu fel y gallwn chwalu'r stigma mae fy nghymuned yn ei wynebu.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy