Mae OCD yn rhywbeth rwyf wedi brwydro ag ef ers cyn cof; yn 4 oed cofiaf gael meddyliau tebyg i OCD am y tro cyntaf, a oedd yn gatalydd i mi ddatblygu gorbryder ac iselder yn fy arddegau. Yna fel oedolyn, beichiogrwydd, a'r daith i fod yn rhiant yn arbennig, sef yr adeg yn eich bywyd mae pobl yn dweud yw'r “adeg fwyaf cyffrous” neu'n dweud “does dim byd i ti deimlo'n drist amdano, mae gen ti fabi newydd hyfryd”. Ond, i mi, ni allai'r ffordd roeddwn i wir yn teimlo fod yn fwy gwahanol i'r datganiadau hynny.
Gwnaeth beichiogrwydd a rhianta ar ôl colli babanod cyn hynny, ac yna beichiogrwydd risg uchel pan fu'n rhaid i mi fynd i uned dibyniaeth fawr a bu'n rhaid i'r babi fod mewn uned gofal arbennig, fy nychryn yn llwyr. Roeddwn i'n cael crychguriadau (palpitations) bob eiliad o bob dydd. Pan oeddwn i'n feichiog roeddwn i'n dychryn bod pob poen bach yn golygu bod rhywbeth o'i le. Pan gyrhaeddodd y babi, roeddwn yn ofni gadael y tŷ, cael ymwelwyr, y germau, ac roedd meddwl am fynd i grŵp babanod neu unrhyw sefyllfa lle byddai pobl ddieithr neu grwpiau o bobl yn gwneud i mi deimlo'n sâl. Roeddwn i'n dioddef OCD a gorbryder ofnadwy. Doeddwn i ddim yn teimlo fel Mam newydd llawn bywyd o gwbl, roeddwn i'n gwbl ddideimlad.
Gwnes i gario mlaen am 2 flynedd arall, yn gwthio'r teimladau o'r neilltu, gan geisio byw bob dydd, parhau i gyflawni tasgau bob dydd, gan fynd â fy mabi i'r dosbarthiadau i gyd am mai dyna oedd y peth iawn iddi yn fy marn i. Ond yn y bôn, byddai fy nghalon yn carlamu a byddai fy meddyliau ymwthiol yn gwthio pob senario negyddol posibl i flaen fy meddwl. Yna beichiogais i am y pedwerydd tro. Hwn fyddai fy ail fabi. Roeddwn i wedi fy ngorlethu cymaint. Trawma'r tri beichiogrwydd blaenorol, ynghyd â'r OCD a'r gorbryder. Yna, un diwrnod es i i apwyntiad arferol gyda fy mydwraig, a oedd yn gallu gweld fy mod yn teimlo'n ofnadwy. Ond, ar ôl clywed am fy mhrofiadau blaenorol, cynigiodd fy atgyfeirio at y gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol.
Roeddwn i wedi fy nychryn, yn ofni teimlo fy mod yn cael fy marnu. Roeddwn i'n poeni y byddai fy ngallu fel rhiant yn cael ei amau ac roedd ofn bwydo ar y fron arna i pan oeddwn i ar feddyginiaeth gorbryder hefyd. Ar y pryd, roeddwn i'n teimlo fel y fam waethaf yn y byd. Wrth gwrs, doeddwn i ddim. Roeddwn i'n gwneud popeth i'r plant, yn gwneud yn siŵr nad oedd angen dim arnyn nhw. Ond roeddwn i'n esgeuluso fy iechyd meddwl fy hun. Doeddwn i byth yn teimlo'n hapus nac yn gallu mwynhau profiadau am fod y gorbryder bob amser yn fy llethu. Siarad am fy nheimladau yn agored oedd y penderfyniad gorau (ond mwyaf brawychus) rwyf erioed wedi'i wneud, a'r gwirionedd oedd bod gan gymaint o rieni eraill deimladau tebyg. Rhoddodd camau cychwynnol fy mydwraig, ei hagwedd garedig, anfeirniadol, y cymorth a'r sicrwydd gan fy ymwelydd iechyd, a'r cymorth sylweddol gan y tîm iechyd meddwl, gymaint o ryddhad a chysur i mi. Yn y pen draw, mae wedi golygu fy mod bellach yn gwella. Rwy'n byw i'r foment gyda fy mhlant, ac yn mwynhau fy mywyd gyda nhw. Wrth gwrs, rwy'n cael diwrnodau anodd o hyd, ond bellach rwy'n gwybod beth sydd angen i mi ei wneud bryd hynny. I mi, mae ymwybyddiaeth ofalgar, ymarferion anadlu, mynd am dro neu fynd i redeg, a bath cynnes, yn helpu i leihau'r teimladau llethol.
Mae fy mhrofiadau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig fy mydwraig a fy ymwelydd iechyd, wedi fy ysbrydoli i gymryd y cam nesa tuag at broffesiwn roeddwn i wedi breuddwydio am fod yn rhan ohono erioed ond heb gael yr hyder i fentro; felly, eleni rwyf wedi cwblhau cwrs mynediad i addysg uwch, ac ar fin dechrau fy ngradd mewn Bydwreigiaeth. Rwyf am allu grymuso menywod, gan eu helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl, gan gynnig lle diogel, gyda chymorth, cysur a thawelwch meddwl. Rwyf am ddarparu'r hyn a gafodd ei ddarparu i mi. Llwyddodd y gweithwyr proffesiynol hynny, a oedd yn gofalu amdana i, yn barod i wrando arna i a gweithredu ar fy rhan, i roi help llaw i mi newid fy mywyd er gwell. Petaech chi wedi dweud wrtha i fel mam newydd y byddwn i'n hyfforddi i fod yn fydwraig, ni fyddai byth wedi eich credu, ond dyma fi.