Mae pob un ohonon ni wedi clywed bod y cyfnod hwn yn un digynsail, yn llawn pryder, unigrwydd, gorbryder ac ansicrwydd o'r hyn sydd i ddod. Dyna pam ei bod hi'n bwysicach nag erioed nawr i ni ddod at ein gilydd fel cymuned a mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl unwaith ac am byth.
Mae'r pandemig hwn wedi arwain at ymdeimlad gwych o gymuned, ar-lein ac all-lein. Mae'n hollbwysig i ni ddod at ein gilydd fel cymuned a pharhau i drafod iechyd meddwl – gan greu ardaloedd diogel i bobl drafod yr hyn sy'n digwydd yn eu bywydau, naill ai drwy linellau cymorth, mewn fforymau neu grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn parhau i drafod y pwnc.
Straeon sydd angen eu rhannu, nid stigma. Fel Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru, ein swydd ni yw rhannu ein profiadau gyda'r gobaith o ysbrydoli newid a sicrhau nad oes neb yn teimlo'n unig ar ei daith iechyd meddwl. Mae'n bwysicach nag erioed i ni fel gwirfoddolwyr barhau i rannu straeon er mwyn ceisio torri'r stigma. Hefyd, mae angen i ni ddangos yr wynebau sydd y tu ôl i brofiadau gan nad oes angen bod ofn eu rhannu.
Drwy fod yn garedig i'n gilydd, gallwn ni dorri'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a chefnogi ein gilydd. Pwy well i gefnogi ein gilydd na'r rheini sy'n wynebu profiadau tebyg? Dylen ni wneud mwy na dim ond defnyddio'r neges ‘Byddwch yn Garedig’ ar Facebook neu mewn llun prydferth ar Instagram – mae angen gweithredu. Gwrandewch ar ffrind neu ymatebwch i neges uniongyrchol gan rywun sy'n credu eich bod yn llawn ysbrydoliaeth. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i ysbrydoli eraill.
Er bod angen i ni fod yn garedig, mae hefyd angen i ni geisio cael gwared ar bositifrwydd gwenwynig. Mae hyn yn cyfeirio at y dyfyniadau ysbrydoledig rydyn ni'n eu gweld yn aml ar y cyfryngau cymdeithasol, y bobl sy'n glamoreiddio gorbryder ac iselder, a'r ‘cyngor’ sy'n dweud wrthyn ni i fod yn gadarnhaol neu i wenu gan ei fod yn helpu. Wn i ddim amdanoch chi, ond mae'r dyfyniadau hyn yn gwneud i mi deimlo'n waeth pan fydda i'n cael diwrnod gwael. Maen nhw'n rhoi pwyslais ar fy ngwendidau ac yn gwneud i mi deimlo'n rhwystredig am fethu â mynd i'r gampfa hyd yn oed. Mae trafod gwasanaethau cwnsela, meddyginiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, dyddiaduron a sawl mater arall yn rhywbeth cadarnhaol – a wyddoch chi ddim pwy fyddwch chi'n ei helpu drwy ddweud y gwir.
Yn syml iawn, ein rôl ni fel Hyrwyddwyr yw helpu i dorri'r stigma iechyd meddwl a newid ffordd pobl o feddwl ar hyd y daith. Defnyddiwch y dewrder sydd gennych chi mewn trafodaethau gwrth-stigma a'i rannu yn eich presenoldeb ar-lein. Anfonwch neges at ffrind neu rywun rydych yn ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n ymddangos ei fod yn ei chael hi'n anodd. Er bod y pandemig hwn wedi bod yn brofiad unig i sawl un, ni ddylai unrhyw un fod ar ei ben ei hun ar ei daith iechyd meddwl.