Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd: Stori Kerry

Ar WSPD, mae Kerry yn siarad am pam ei bod yn bwysig cychwyn y sgwrs ynghylch atal hunanladdiad.

1st September 2020, 12.00pm | Ysgrifenwyd gan Kerry Flower-Fitzpatrick

**I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, byddwn yn cynnwys straeon dewr rhai Hyrwyddwyr sydd wedi goroesi meddwl am hunanladdiad. Gallai’r blogiau drafod profiadau sy’n peri gofid i chi: peidiwch â'u darllen os byddwch yn anghyfforddus.**

Heddiw byddwn ni’n rhannu straeon dewr rhai o'n Hyrwyddwyr sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl er mwyn dileu'r stigma ynghylch gofyn am help os byddwch chi’n meddwl am hunanladdiad. #WSPD2020

Rwyf wedi ei chael hi'n anodd ymdopi â fy iechyd meddwl ers cyn cof, er nad yw erioed wedi diffinio pwy ydw i. Rwyf wedi cael blynyddoedd gwych a rhai gwael hefyd, ac rwyf wedi dod i ddeall yn ystod yr amseroedd gwael pa mor bwysig yw siarad a chael y sgyrsiau hyn. 

Cymerodd amser hir i mi sylweddoli bod rhywbeth yn wahanol. Pan fyddwch chi'n byw gyda'r ffordd rydych chi’n teimlo bob dydd, fyddwch chi byth yn cydnabod yn llwyr eich bod, o bosibl, yn teimlo ac yn meddwl yn wahanol i bobl eraill. Rydych yn credu bod pawb yr un peth, ac os na fyddwch chi’n gofyn, ni fyddwch chi’n deall y gallai eich ffordd chi o feddwl fod yn wahanol. Es i drwy nifer o gyfnodau heriol gan ddechrau yn ystod fy arddegau hwyr, ac er eu bod wedi fy ngwneud i'n drist ar y pryd, sylweddolais i ddim ar y pryd eu bod yn fy ngwthio i iselder. Wnes i ddim siarad â neb byth a cheisio bod yn normal ar gyfer y rheini o'm cwmpas i. Doeddwn i ddim yn siŵr gyda phwy y dylwn i siarad na sut i ddechrau'r sgwrs honno hyd yn oed, ac roeddwn i’n teimlo cywilydd ac yn methu â dod o hyd i'r geiriau i esbonio. 

Ddeng mlynedd yn ôl, cyrhaeddais pen fy nhennyn pan fu profedigaeth yn y teulu a fyddai'n dymchwel fy myd yn llwyr. Dwi ddim wir wedi profi colled mor agos; ddwy flynedd yn ddiweddarach, chwalodd fy mhriodas fy hun a arweiniodd at ysgariad, ac anawsterau ariannol ac emosiynol. Cafodd y cyfnodau hyn effeithiau andwyol arnaf, a dechreuais ar y daith hir o iselder gwael. Dechreuais sylweddoli nad oeddwn i’n gweithredu yn yr un ffordd â'r arfer – doeddwn i ddim yn adnabod y ferch yn y drych bellach. Collais fy awch am fywyd ac anghofiais beth oedd yn fy ngwneud i'n hapus. Doeddwn i ddim yn gallu cysgu, na bwyta, doeddwn i ddim am anadlu, doeddwn i ddim am wneud nac am fod yn unrhyw beth. Eto, ddywedais i ddim wrth neb ar yr adeg yma, gan barhau i wthio fy hun, wedi blino’n llwyr ar fywyd. Roeddwn yn ceisio byw yn normal, ond roedd yn gelwydd noeth. Ar ôl rhai wythnosau fel hyn, collais ar fy hun yn llwyr yn feddyliol un noswaith yn oriau mân y bore. 

Byddaf yn cofio'r foment honno am byth, a gallaf gofio colli rheolaeth ar fy emosiynau, fy nheimladau a’m meddyliau yn llwyr. Roedd yn brofiad eithaf swreal ac ofnadwy, ac yn rywbeth y mae'n rhaid i chi ei brofi er mwyn ei ddeall yn iawn. Dechreuais deimlo'n isel iawn, gyda gorbryder nychus. Collais y gallu i gerdded am gyfnod – doedd fy nghoesau ddim yn gweithio ac roeddwn i’n teimlo mor isel fel nad oeddwn i am fod yno mwy.   Meddyliais am ladd fy hun yn aml am fod y boen yn ormod. Rwy'n cofio gofyn i fy hun sut roeddwn wedi cyrraedd y fan hon, ond roedd y cyfuniad o gynifer o ddigwyddiadau trawmatig wedi achosi difrod mawr. 

Felly cychwynais ar daith dwy flynedd o wella. Rwy'n cofio crio’n gyson am tua chwe mis ac rwy'n cofio gofyn i mam ar y pryd a fydd y  dagrau byth yn sychu gan gredu nad oedd dŵr ar ôl yn fy nghorff i grio. Cefais sawl cyfnod o iselder, ond derbyniais i nhw, gan wybod os na fydden i’n siarad â fy rhwydwaith cymorth, fasen i’n goresgyn y sefyllfa, ac roedd gen i nifer o resymau i fyw. 

Roedd yn daith hir ac araf a oedd yn gofyn am ofal timau argyfwng a mathau amrywiol o gwnsela – doeddwn i erioed wedi teimlo mor sâl â’r adeg honno. Roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd; yn un a newidiodd fy safbwynt ar fywyd yn llwyr ac un a wnaeth fy newid i fel person. Wrth ddechrau fy nhaith i wella, daeth un peth yn amlwg i mi o'r dechrau; petaswn i wedi gofyn am help yn gynt ac wedi siarad yn gynharach a pheidio â gwthio fy hun, fasen i ddim wedi cyrraedd y pwynt yma. Doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi pŵer siarad drwy gydol fy mywyd. Unwaith y dechreuais weithio gyda chwnselwyr, sylweddolais mai dyma beth fyddai'n fy achub. Er mor anodd oedd hynny, roeddwn i'n gwybod fod yn rhaid i mi fod yn agored er mwyn gwella. 

Mae'n wir dweud bod siarad wedi achub fy mywyd. Unwaith y gwnes i siarad am y ffaith nad oeddwn i am fod yma bellach, teimlais y pwysau’n codi – fel petaswn i wedi rhannu fy meddyliau a'i bod yn iawn siarad nawr am y ffordd roeddwn i’n teimlo. Newidiodd y sgwrs honno bopeth; roedd rhywun nawr yn gwybod sut roeddwn i'n teimlo a doedd y person hwnnw ddim yn fy marnu nac yn gwgu arna i – roedd am helpu, ac roedd hynny'n deimlad mor braf!  

Mae fy mywyd bellach yn un hapus iawn ac rwy'n dda iawn – ond dysgais gymaint am gael sgyrsiau am hunanladdiad. 

Rwyf bellach yn treulio fy niwrnod gwaith yn helpu eraill i deall ei fod yn iawn i beidio â bod yn iawn, a bod gofyn am help pan fo pethau’n arbennig o heriol yn iawn. Doeddwn i ddim yn gwybod pa gyfleoedd oedd ar gael yn ystod diwrnodau cynnar fy iselder, felly rwy'n deall pwysigrwydd cael yr un person hwnnw yno i'ch tywys i’r cyfeiriad cywir. Rwy'n annog pobl i ofyn am help – gan reolwr yn y gwaith, cydweithiwr, ffrind, aelod o'r teulu neu feddyg teulu. Rwyf hefyd yn cyfeirio pobl at y nifer o sefydliadau iechyd meddwl sydd gennym yn y wlad hon, sy'n cynnig yr adnoddau gorau i dywys pobl i gael help. 

Os byddwch chi'n meddwl am hunanladdiad, gofynnwch am help – mae pobl ar gael sy'n poeni amdanoch chi ac sy'n barod i'ch cefnogi a chael yr help sydd ei angen arnoch heb unrhyw feirniadaeth. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun ac, fel fi, gallwch ddod drwyddi, gwella a chael eich bywyd yn ôl fel yr oedd. 

Rwy'n brawf y gall sgyrsiau am hunanladdiad achub bywydau. 

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy