“Pan oeddwn i’n tua 14, roeddwn i’n dioddef gorbryder a ‘panic attacks’ yn yr ysgol a teimlo’n rili unig. Doeddwn i ddim yn fodlon siarad â neb, a ‘nes i ddim siarad â neb am dros flwyddyn. ‘Nes i siarad gyda Childline yn gyntaf. Roedd e’n hawdd i mi allu siarad ar-lein yn lle wyneb yn wyneb. Roedd e’n teimlo mor neis i allu siarad am bob dim a dweud pob dim ar ôl blwyddyn o gadw fe i fi fy hun. Ar ol, roedden nhw am i mi siarad â rhywun arall felly ‘nes i ysgrifennu pob dim lawr, achos roedd hynny’n hawdd i mi ei wneud, a rhoi’r llythyr i fy mentor dysgu i. Wnaeth hi fy nghefnogi i a gwrando, ac roedd hwnna’n helpu lot.
Peidio bod ofn siarad, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth, ond gwnewch ef yn y ffordd rydych chi’n cyfforddus â. Byddwch yn agored gyda’ch ffrindiau a’r bobl o’ch cwmpas chi. Os rydych chi’n cael diwrnod drwg, jyst dwedwch hynny. Mae’n iawn dweud hynny.”