Eiriolwyr

“Wrth edrych nôl, gwnes i'r hyn roeddwn i'n gallu ei wneud”

"Roeddwn i'n mwynhau fy ngwaith ond wrth i'r straen personol gynyddu, penderfynais i adael y gwaith er mwyn gofalu am fy iechyd. Rwy'n obeithiol am y dyfodol."

29th April 2022, 12.03pm | Ysgrifenwyd gan Rahila

Yn ddiweddar, rwyf wedi gorfod gadael y gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud dros y 30 mlynedd diwethaf am fod gen i sawl cyflwr iechyd. Rwy'n gweithio llawer yn y gymuned ac rwy'n gweithio yn y trydydd sector, weithiau gyda'r heddlu a Llywodraeth Cymru.

Roeddwn i'n mwynhau fy ngwaith ond wrth i'r straen personol gynyddu, penderfynais i adael y gwaith er mwyn gofalu am fy iechyd. Rwy'n obeithiol am y dyfodol.

'Doedd gen i ddim amser i fi fy hun'

Mae fy stori'n dechrau dros 35 o flynyddoedd yn ôl. Symudais i i'r DU, priodi a chael teulu. Wnes i ddim sylweddoli fy mod i'n dioddef o iselder ôl-enedigol tan ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Doedd gen i ddim amser i fi fy hun. Yn fuan ar ôl cael fy mab, fy mabi cyntaf, cymerais i gam yn ôl i sefyll i fyny drosof fi fy hun. Dysgais i sut i yrru. Es i i ddosbarthiadau Saesneg.

Tyfais i fod yn annibynnol. Wrth feddwl nôl, doedd dim grwpiau cymunedol i leiafrifoedd ethnig. Ar y pryd, doedd dim ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, felly doedd dim llawer o wasanaethau iechyd meddwl ar gael.

Rwy'n dod o deulu Pacistanaidd ac mae'n rhaid cyfaddef bod llawer o stigma yn fy nghymuned, yn enwedig fel menyw. Ar ôl priodi, y farn draddodiadol yw bod yn rhaid i fi, fel gwraig a mam, godi'n gynnar a gwneud y gwaith tŷ. Doeddwn i ddim yn teimlo bod fy rhieni yng nghyfraith yn fy ngwerthfawrogi; y syniad nad oeddwn i'n ddigon da, bod neb yn fy ngwerthfawrogi.

Dros amser, achosodd hyn lawer o loes a gofid a dechreuais golli pwysau. Er i mi fynd i weld meddyg teulu, wnaeth e ddim holi am yr agwedd hon oherwydd roedd pethau'n wahanol bryd hynny. Nawr, gallaf ddeall pam fy mod i wedi colli pwysau.

'Roedd gen i un ffrind a oedd yn gefn mawr i mi'

Yn ffodus, roedd gen i un ffrind a oedd yn gefn mawr i mi. Roeddwn i'n poeni am beth fyddai pobl yn ei feddwl ond roedd y ffrind hwn wedi gadael i mi rannu popeth heb farnu. Doeddwn i ddim eisiau gofyn am help cyn hyn oherwydd, yn fy niwylliant i, mae unrhyw ddioddefaint meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth sydd allan o'r drefn arferol neu'n arwydd eich bod chi wedi cael eich meddiannu gan ysbrydion drwg.

Yn y pen draw, ces i wybod am swydd yn gweithio gyda chymunedau amrywiol a wnaeth wir newid fy safbwynt ar bopeth. Fe wnes i hyd yn oed ddilyn gyrfa yn y maes! Gyda'r camau cadarnhaol bach hyn, dechreuodd fy mam yng nghyfraith weld beth roeddwn i'n mynd drwyddo – y straen sydyn a ymddangosodd am fy mod i'n fenyw briod mewn gwlad newydd ac yn ferch yng nghyfraith, yn wraig ac yn fam i rywun; ond dydy'r problemau hyn (a llawer mwy) byth yn cael eu trafod yn y gymuned, dim ond eu claddu. Yn y pen draw, newidiodd ein perthynas – mewn ffordd dda.

Newidiodd ei hagwedd tuag ataf i... roedd y ddwy ohonon ni'n fenywod a oedd yn gwneud y gorau i'n teuluoedd a ni ein hunain.

Mae cymryd y cam cyntaf yn bwysig iawn. Mae llawer o'r hyn rydyn ni'n ei weld yn ymddygiad sydd wedi'i ddysgu, felly mae angen i ni addysgu'r cenedlaethau hŷn ac iau yn gyson am iechyd meddwl. Mae angen i hyn gael ei wneud gan weithwyr ar lawr gwlad ac o'r brig. Does dim ateb cyflym.

Dydy pobl ddim yn gwybod beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig a dyna pam wnes i benderfynu dod yn Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru a rhannu fy stori. Y pwynt yw, rydw i yma am fy mod i wedi ymddiried yn rhywun arall ac ynof fi fy hun i gymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran iechyd meddwl. Wrth edrych nôl, gwnes i'r hyn roeddwn i'n gallu ei wneud, ac rwyf mewn lle llawer mwy cyfforddus mewn bywyd erbyn hyn.

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy