Dim ond y dechrau yw hwn...

Mae Rhiannon yn ysgrifennu am ei thaith gyda salwch meddwl a'i phrofiadau sy'n dysgu Cymraeg.

17th August 2017, 3.15pm | Ysgrifenwyd gan Rhiannon

Er fy mod i heb gael diagnosis o hyd, dechreuodd fy nhaith gyda salwch meddwl yn blentyn.

Roeddwn i wastad yn gymdeithasol nerfus ar ôl gweld pethau trawmatig fel plentyn. Ces i fy magu gan fy mam-gu garedig, ond roeddwn i wastad yn blentyn cythryblus... Roedd pawb yn yr ysgol fy ngweld i fel un oedd yn creu trwbwl - ar ôl i mi gael fy mwlio. Efallai pe bai rhywun wedi sylwi ar fy iechyd meddwl yn yr ysgol, byddai fy mywyd wedi bod yn wahanol iawn.

Wrth i mi heneiddio, dechreuais i ddefnyddio cyffuriau hamddenol i ddianc rhag bywyd go iawn. Ar ôl hynny, ces i fy ngham-drin mewn cyfres o berthnasau a dydy fy llwybr byth wedi both yn un didrafferth. Ceisiais i droi fy mywyd o gwmpas ar ôl darganfod yoga a gweithio yn y maes gofal am 12 blynedd a mwy, ond wnaeth fy iechyd meddwl gwael byth fy ngadael. Hyd yn oed pan oeddwn i'n dysgu yoga, roedd y gorbryder a'r iselder wastad yno.

Prin iawn yw'r adegau dwi'n teimlo'n gwbl rydd rhagddynt. Mae gair neu gip yn codi ofn arna i'n syth, fel pe bawn i'n gwningen ofnus. Mae fy ngorbryder cymdeithasol yn fy ngwneud i'n wan. Mae'n fy rheoli. Mae'n berchen arna i. Dwi'n gwybod fydda i byth yn rhydd rhagddo - rhaid i mi ymladd brwydrau bach neu fawr drwy'r dydd i geisio aros yn gall. Fy ofn mwyaf yw cael fy anfon i ysbyty'r meddwl. Dwi'n ofni hwn yn gyson, am ryw reswm. 

"Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n rhugl yn gyflym iawn - ond a minnau'n ddioddef gorbryder cymdeithasol, sut mae modd siarad â phobl bob dydd? Wel, does dim. Felly mae angen camau bach iawn, iawn."

Pan gewch chi'r teimlad o golli'ch cydbwysedd wrth i chi gwympo i lawr grisiau, ac yna'n ail gafael yn eich cydbwysedd, rydych chi'n teimlo'n ddiogel. Yn aml iawn, dwi'n sownd yn y chwiniad pan fydd ofn mawr arnaf. Mae fy hwyliau i'n newid fel y tywydd - dwi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Weithiau bydda i yn y gwely am ddyddiad, â gormod o ofn agor y llenni. Bydda i'n methu â golchi, coginio na glanhau. Mae'n fy ngwneud i'n wan ac yn flin - 24/7.

Ar ôl ceisio rhoi diwedd ar fy mywyd llynedd, dwi nawr yn ceisio adfer fy mywyd.

Er mai hwn yw fy mlog cyntaf, dwi am barhau i ysgrifennu mor aml â phosib. Dwi am ganolbwyntio'n bennaf ar ysgrifennu am fy nhrafferthion dysgu Cymraeg. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n rhugl yn gyflym iawn - ond a minnau'n ddioddef gorbryder cymdeithasol, sut mae modd siarad â phobl bob dydd? Wel, does dim. Felly mae angen camau bach iawn, iawn. 

Dwi'n dysgu Cymraeg ers 5 mlynedd, ond gan fod fy iechyd meddwl yn newid mor aml, mae fy ngallu i fynychu dosbarthiadau'n newid cymaint. Dwi'n cofio un o fy ngwersi cyntaf. Roeddwn i mor frwdfrydig ac ymarferais i drwy'r wythnos. Roeddwn i (fel dwedodd y tiwtor) yn frwdfrydig iawn ac yn gwneud yn dda iawn, ond dwedodd rhywun yn y dosbarth i mi, ar ôl iddyn nhw ateb cwestiwn yn anghywir, "Wel, dydyn ni gyd ddim yn swot fel ti.”

Bang. Teimlodd hynny fel cael fy mwrw yn yr wyneb. Dwi'n mynd i ddosbarth iaith i ddysgu iaith a dwi wedi'i hymarfer, a nawr dwi'n cael fy nghosbi. Es i allan o'r dosbarth, es i'r tŷ bach a chrïais i'n syth. Dydy'r paranoia canlynol o weithio gyda'r person hwnnw yn y dosbarth byth wedi fy ngadael. Yn y pen draw, rhoddodd y person hwnnw'r gorau i'r dosbarth, ac roedd hynny'n rhyddhad mawr i mi. Er mai un frawddeg oedd hi, roedd honno wedi cael effaith ar fy mywyd am bron dwy flynedd.

Dwi'n aelod o Gymdeithas yr Iaith. "Grŵp o bobl" ydyn nhw "sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg a chymunedau Cymru, ac yn cydnabod bod yr ymgyrch dros iaith unigryw Cymru'n rhan o frwydr ehangach fyd-eang dros hawliau a rhyddid lleiafrif."  Mae gweithredu'n bwysig iawn i mi. Dwi'n casáu unrhyw fath o ormes; ond sut mae modd brwydro dros rywbeth rydych chi'n teimlo mor frwd amdano pan does dim modd i chi hyd yn oed godi o'r gwely. 

Mae hi nawr yn 3:40 am. Deffrais i gydag ofn mawr arnaf ac roeddwn i'n meddwl y byddai hyn yn helpu. Dwi am ysgrifennu blog i Amser i Newid Cymru ynglŷn â fy iechyd meddwl a fy nhrafferth dysgu Cymraeg yn rhugl ers amser maith. Dim ond y dechrau yw hwn...

Efallai hoffech

Gwena a Chwyd dy Law

Mae Naomi yn siarad am bwysigrwydd dweud yn union sut rydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn gofyn ‘Sut wyt ti?’ a'r holl ffyrdd y gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.

20th February 2024, 8.47am | Ysgrifenwyd gan Naomi

Darganfyddwch fwy

Siarad, siarad, siarad!

Mae Samuel yn pwysleisio pwysigrwydd siarad am eich iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau anodd, a sut mae siarad wedi achub ei fywyd.

20th February 2024, 8.43am | Ysgrifenwyd gan Samuel

Darganfyddwch fwy