Cyflyrau iechyd meddwl
Disgrifir rhai problemau iechyd meddwl gan ddefnyddio geiriau bob dydd - er enghraifft, 'iselder' neu 'orbryder'. Y ffurfiau mwyaf cyffredin yw iselder, gorbryder, anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), ffobiâu, anhwylder deubegynol (a elwid yn iselder manig gynt), sgitsoffrenia, anhwylderau personoliaeth ac anhwylderau bwyta. Mae ymddygiad a symptomau cyffredin sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl yn cynnwys hunan-niweidio, meddwl am hunanladdiad a phyliau o banig.