Cymorth

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr i siarad am iechyd meddwl. Y cyfan sydd ei angen yw bod gerllaw. Dyma ambell gyngor i'ch helpu chi i ddechrau.

Arweiniwch

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn sâl, peidiwch ag ofni gofyn sut maen nhw.

Peidiwch ag osgoi'r broblem

Os daw rhywun atoch chi i siarad, peidiwch â'i anwybyddu - mae'n bosib bod hwn yn gam anodd iawn iddyn nhw.

Siaradwch, ond gwrandewch hefyd.

Bydd bod gerllaw yn werth llawer.

Osgowch ystrydebau

Bydd ymadroddion fel “Gwena”, “Bydd popeth yn iawn”, “Sorta dy hunan mas” yn sicr o waethygu'r drafodaeth. Ond bydd bod yn benagored, peidio â beirniadu a gwrando yn helpu.

Gwnewch fwy na dim ond siarad am iechyd meddwl

Dim ond un rhan o'r person yw iechyd meddwl a dydy pobl ddim am gael eu diffinio ganddo. Sicrhewch eich bod chi'n parhau i siarad am y pethau rydych chi'n siarad amdano drwy'r amser.

Atgoffwch nhw eich bod chi'n meddwl amdanynt

Gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr

Byddwch yn amyneddgar

Mae bywyd yn gymysgedd o lawenydd a gofid.

Mae gweithredoedd yn bwysig hefyd, felly ystyriwch gadw mewn cysylltiad gyda neges destun, e-bost neu nodyn i roi gwybod i rywun eich bod chi'n meddwl amdanyn nhw.

Os ydych yn profi problemau iechyd meddwl neu os oes angen cymorth brys arnoch, mae llawer o lefydd y gallwch fynd am help ar ein tudarlen cymorth.

Mwy o wybodaeth

Cyflyrau Iechyd meddwl

Cyflyrau Iechyd meddwl

Disgrifir rhai problemau iechyd meddwl gan ddefnyddio geiriau bob dydd - er enghraifft, 'iselder' neu 'orbryder'.

Darganfyddwch fwy
Beth yw stigma?

Beth yw stigma?

Gall y ffeithiau allweddol hyn helpu i herio'r mythau sy'n cyfrannu at y stigma mae llawer o bobl yn dal i'w wynebu.

Darganfyddwch fwy
Siarad am Iechyd Meddwl

Siarad am Iechyd Meddwl

Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl!

Darganfyddwch fwy