Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Mae gan bob un ohonom wahanol ffyrdd o feddwl, teimlo ac ymddwyn, ac mae hyn yn tueddu i lywio'r ffordd rydym yn gweld y byd a sut rydym yn rhyngweithio ag eraill.

Gallech gael eich disgrifio fel rhywun sydd ag 'anhwylder personoliaeth' os yw nodweddion eich personoliaeth yn achosi problemau rheolaidd, hirdymor, o ran y ffordd rydych yn ymdopi â bywyd, rhyngweithio ag eraill ac ymateb yn emosiynol. Fodd bynnag, mae barn amrywiol ynghylch anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), yn ogystal â chamddealltwriaeth, stigma a gwahaniaethu - hyd yn oed ymysg gweithwyr proffesiynol. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl gael y cymorth y gall fod ei angen arnynt.

Beth yw anhwylder personoliaeth ffiniol?

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) yw un o'r anhwylderau personoliaeth mwyaf adnabyddus, er y credir iddo effeithio ar lai nag un y cant o'r boblogaeth.

Gall symptomau BPD gynnwys emosiynau cryf, newidiadau cyflym mewn teimladau a hwyliau, anawsterau wrth reoli cynyrfiadau penodol, hunanddelwedd gwael, teimladau o ddiffyg perthyn ac ymdeimlad dwys o wacter ac unigedd. Gall yr holl bethau hyn achosi i gydberthnasau cymdeithasol fod yn heriol.

Gall rhywun â BPD wneud pethau eithafol er mwyn ei atal rhag teimlo bod pobl yn cefnu arno. Gall gael ei demptio i niweidio ei hun os bydd yn mynd yn anodd iddo fynegi neu ddelio â'i emosiynau a gall hefyd brofi rhithdybiau neu rithweledigaethau.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar gyfer ei reoli ar gael ar wefannau'r GIG, Rethink Mental IllnessMind.

Y stigma sy'n gysylltiedig â BDP

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny.

Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"Ffrindiau, teulu a dieithriaid ar y stryd - mae gan bawb farn ac maent yn hoff o'i mynegi. Y sylwadau mwyaf cyffredin rwy'n eu cael yw 'Callia!', 'Gad e fynd dros dy ben', 'Tyfa fyny!'... A'r un rwy'n ei gasáu fwyaf: 'Stopia dynnu sylw atat ti dy hun!"

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

Iselder

Iselder

Iselder yw'r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl

Darganfyddwch fwy
Gorbryder

Gorbryder

Anhwylderau gorbryder yw rhai o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar 16% o bobl yn y DU

Darganfyddwch fwy
OCD

OCD

Mae anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn anhwylder gorbryder lle mae meddyliau annymunol, cymelliadau a…

Darganfyddwch fwy