Iselder

Rydym i gyd yn profi amrywiaeth yn ein hwyliau - boed yn ffordd o feddwl isel yn gyffredinol neu fel ymateb i bethau penodol sy'n digwydd. Mae hefyd yn gyffredin i glywed pobl yn dweud eu bod yn teimlo'n isel os ydynt yn teimlo'n drist neu'n ddiflas. Ond mae iselder yn broblem iechyd meddwl wirioneddol. Gall ymyrryd â bywyd bob dydd - dros gyfnodau hir o amser neu mewn cyfnodau byr rheolaidd. Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, iselder yw'r cyflwr iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain.

Gall iselder fod yn salwch 'anweledig', ac o'r herwydd mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd deall yr effaith y gall ei chael. Gallant feddwl am iselder fel rhywbeth dibwys neu ei ddiystyru'n gyfan gwbl. A gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i'r rhai sy'n ei brofi siarad yn agored a cheisio'r help sydd ei angen arnynt.

Beth yw Iselder?

Iselder yw'r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl. Mae'n salwch real iawn, a gall symptomau gwanychol gynnwys teimlo'n ddiymadferth, crïo, gorbryder, hunan-barch isel, diffyg egni, anawsterau cysgu, poenau corfforol a golwg lom o'r dyfodol.

"Gwnewch gyswllt llygad, ewch â chreision iddynt, rhowch ganiad cyflym iddynt, gwrandewch arnynt. A dywedwch wrthynt y bydd popeth yn iawn - nes y byddant yn ddigon cryf i ddweud hynny eu hunain.”

Mae iselder yn ymddangos mewn llawer o wahanol ffyrdd, ond fel arfer mae'n amharu ar allu unigolyn i weithredu, teimlo pleser neu gymryd diddordeb mewn pethau. Dysgwch am symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar sut i'w reoli ar wefannau'r GIG, Rethink Mental Illness a Mind.

Y stigma sy'n gysylltiedig ag iselder

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny. Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.
 
Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"Rhan anoddaf iselder yw dweud wrth bobl amdano. Mae'n teimlo fel pe baech yn cuddio cyfrinach ofnadwy. Roeddwn i'n teimlo cywilydd am fy iselder, fel pe bawn i rywsut wedi methu. Dyna beth mae iselder yn ei wneud i chi: mae'n gwneud i chi deimlo fel methiant llwyr.""

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

Gorbryder

Gorbryder

Anhwylderau gorbryder yw rhai o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar 16% o bobl yn y DU

Darganfyddwch fwy
OCD

OCD

Mae anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn anhwylder gorbryder lle mae meddyliau annymunol, cymelliadau a…

Darganfyddwch fwy
Anhwylder Deubegynol

Anhwylder Deubegynol

Mae anhwylder deubegynol (a elwid yn iselder manig gynt) yn anhwylder hwyliau difrifol. Caiff tua un o bob cant ohonom…

Darganfyddwch fwy