OCD

Mae obsesiynau a chymelliadau yn gyffredin. Rydym i gyd yn amau weithiau a ydym wedi cloi'r drws neu wedi gadael yr haearn smwddio ymlaen gartref, ac efallai y byddwch yn clywed am bobl sydd ag 'obsesiwn' gyda'u gwaith neu chwaraeon. Ond ni fyddech yn disgrifio'r meddyliau hyn fel rhai annymunol fel arfer, ac nid ydynt yn ymyrryd yn sylweddol â bywyd bob dydd.

Mae anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) yn anhwylder gorbryder lle mae meddyliau annymunol, cymelliadau a gweithgareddau ailadroddus yn eich rhwystro rhag byw bywyd fel y mynnwch. Mae pobl ag OCD yn aml yn ceisio ymdopi tan na allant guddio'r symptomau mwyach. Gall hyn wneud iddynt deimlo'n unig iawn a'i gwneud yn anoddach trechu'r cyflwr.

Beth yw OCD?

Mae gan anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD) ddwy ran fel arfer: obsesiynau a chymelliadau. Meddyliau, syniadau neu ysfeydd annymunol yw obsesiynau, sy'n ymddangos yn y meddwl dro ar ôl tro ac yn amharu ar fywyd bob dydd.

Gweithgareddau ailadroddus rydych yn teimlo y mae'n rhaid i chi eu gwneud yw cymelliadau, fel arfer i leddfu'r gorbryder a'r trallod a achosir gan y meddyliau obsesiynol.

Credir bod gan rhwng 1 a 2 y cant o'r boblogaeth OCD sy'n ddigon difrifol i amharu ar eu bywyd arferol. Gall effeithio ar bobl o bob oedran ac o bob cefndir.

Dysgwch fwy am symptomau, triniaethau ac awgrymiadau ar gyfer ei reoli ar wefannau'r NHS a Mind.

Y stigma sy'n gysylltiedig ag OCD

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, ond mae bron i naw o bob deg o bobl sy'n wynebu problemau o'r fath yn dweud eu bod yn wynebu stigma a gwahaniaethu o ganlyniad i hynny.

Gall y stigma a'r gwahaniaethu hwn fod yn un o'r rhannau anoddaf o'r profiad, oherwydd gall olygu colli cyfeillgarwch, cael eich ynysu, cael eich allgáu o weithgareddau, anawsterau o ran cael swydd a'i chadw, methu dod o hyd i help a phroses wella arafach. Yn yr un modd, gall stigma achosi i ni fod ofn siarad â'r bobl o'n cwmpas a all fod angen ein cymorth.

Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Mae siarad am iechyd meddwl yn dangos i rywun eich bod yn poeni amdanynt. Mae'n cynorthwyo'r broses wella ac yn aml caiff cyfeillgarwch ei gryfhau.

"Caiff OCD ei stereoteipio'n aml, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn deall yn union beth ydyw, felly ceir pryderon ynghylch y farn y bydd pobl yn ei llunio oherwydd anwybodaeth."

Cyflyrau iechyd meddwl eraill

Anhwylder Deubegynol

Anhwylder Deubegynol

Mae anhwylder deubegynol (a elwid yn iselder manig gynt) yn anhwylder hwyliau difrifol. Caiff tua un o bob cant ohonom…

Darganfyddwch fwy
Sgitsoffrenia

Sgitsoffrenia

Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy'n digwydd pan fydd y rhannau o'r ymennydd sy'n gyfrifol am emosiwn a theimlad yn…

Darganfyddwch fwy
Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Anhwylderau Personoliaeth (BPD)

Mae BPD yn un o'r anhwylderau personoliaeth mwyaf adnabyddus, er ei fod yn effeithio ar lai nag un y cant o'r…

Darganfyddwch fwy