Canllawiau Fideo Amser i Newid Cymru 2020

O ystyried yr amgylchiadau presennol, rydyn ni'n newid y ffyrdd rydyn ni'n gweithio ac yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'n Hyrwyddwyr, Cyflogwyr sydd wedi Llofnodi Addewid a chefnogwyr.

Mae symud i weithio ar-lein a gweithio gartref wedi bod yn newid mawr, ac rydyn ni'n eich gwahodd chi i rannu mwy o gynnwys fideo gyda ni. Mae creu fideo ar gyfer gwefan Amser i Newid Cymru yn ffordd wych o rannu eich profiadau a gwella dealltwriaeth pobl o iechyd meddwl. Gall straeon go iawn gan bobl go iawn helpu rhywun sy'n wynebu profiad tebyg.

Mae llawer o'n fideos yn cael eu rhannu'n eang drwy'r cyfryngau cymdeithasol a gallan nhw helpu i annog pobl i siarad. Gall siarad am eich profiadau ar fideo fod yn anodd iawn os nad ydych chi wedi'i wneud o'r blaen, ond cofiwch – gallwn ni eich helpu chi! Dyma ychydig o gyngor defnyddiol i'ch helpu chi i ddechrau arni:

Rydyn ni'n derbyn fideos ar gyfer:

●      Cyfryngau Cymdeithasol (uchafswm o funud)

●      Flogiau (uchafswm o 5 munud)

●      Cyflwyniadau rhithwir (uchafswm o 20 munud)

Rydyn ni'n chwilio am fideos sy'n cynnwys y canlynol:

●      Neges neu deimlad cadarnhaol, er enghraifft, dod o hyd i'r hyder i siarad am iechyd meddwl, gwella, helpu ffrindiau drwy gyfnod anodd, cyflawniadau sy'n dangos bod pobl yn fwy na'u diagnosis;

●      Ffocws clir (rydyn ni'n ceisio osgoi gormod o hanes bywyd, oni bai bod hynny'n helpu i esbonio eich prif bwynt);

●      Herio stigma a gwahaniaethu mewn rhyw ffordd neu helpu pobl i ddeall materion penodol;

●      Dylech chi osgoi cwynion personol - gall hyn fod yn ddiflas i wylwyr;

●      Fideos sy'n addas ar gyfer cynulleidfa eang (peidiwch â rhegi ac ati);

●      Cynrychiolaeth o gymunedau amrywiol Cymru – yn arbennig rydyn ni'n croesawu fideos yn Gymraeg, neu fideos sy'n adlewyrchu profiadau pobl o rannau gwahanol o Gymru, cymunedau gwledig a chymunedau Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Cyngor technegol:

●      Dylech chi ddal eich camera ar ffurf tirwedd a'i osod ar arwyneb sefydlog fel nad yw'n ysgwyd.

Peidiwch â dal y camera ar ffurf portread a symud o gwmpas pan fyddwch chi'n ffilmio.

●      Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n glir – sicrhewch eich bod chi yng nghanol y llun a bod eich cefndir yn niwtral ac yn daclus. Yn yr un modd, ystyriwch eich dillad, ceisiwch wisgo rhywbeth heb unrhyw sloganau neu ysgrifennu amlwg arno.

Peidiwch
ag eistedd o flaen pethau amlwg na phethau preifat.

●      Gwnewch yn siŵr bod digon o olau lle rydych chi'n ffilmio er mwyn i ni eich gweld chi'n glir.


Peidiwch ag eistedd yn y tywyllwch nac o flaen ffenestr a all wneud i chi neu'r cefndir ymddangos yn rhy llachar.

●      Cyflwyno – dylech chi siarad yn araf ac yn glir – fel petai chi'n cynnal sgwrs Hyrwyddwr! Dylech ymarfer yn gyntaf a gwrando arno er mwyn gwneud yn siŵr bod eich sain yn gweithio.

Peidiwch â brysio na chael eich temtio i fynd ar drywydd arall – gall ysgrifennu sgript ymlaen llaw eich helpu i ganolbwyntio ar y fideo. 

 

Pethau eraill i'w hystyried:

●      Rydyn ni'n cadw'r hawl i olygu'r fideos ond byddwn ni ddim yn rhannu unrhyw beth rydyn ni wedi'i newid heb gadarnhau hynny gyda chi yn gyntaf.

●      Rydyn ni'n cynnwys postiadau blogiau ar Facebook, Twitter ac Instagram – rhowch wybod i ni a ydych chi'n hapus i ni eich tagio mewn postiadau.

●      Gallwch chi ddefnyddio eich enw llawn, eich enw cyntaf yn unig, neu ffugenw os hoffech chi aros yn ddienw. Rhowch wybod i ni beth sydd orau i chi.

●      Cofiwch y gall gymryd rhai diwrnodau i ni gysylltu â chi ac efallai byddwn ni ddim yn cyhoeddi eich fideo yn syth. Hefyd, dydyn ni ddim yn gallu gwarantu y bydd eich fideo yn cael ei gyhoeddi os nad yw'n cydymffurfio â'r canllawiau uchod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost at Leo, ein Swyddog Ymgysylltu Digidol, yn l.holmes@timetochangewales.org.uk.