Rhaglen Pobl Ifanc: Cinio a Dysgu

Rhaglen Pobl Ifanc Amser i Newid Cymru yw'r cynllun peilot cenedlaethol cyntaf i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

6th August 2019, 2.45pm

Rhaglen Pobl Ifanc Amser i Newid Cymru yw'r cynllun peilot cenedlaethol cyntaf i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Darparwyd y rhaglen gan Hafal a Mind Cymru.

I nodi diwedd ein rhaglen beilot tair blynedd, cynhaliwyd digwyddiad 'cinio a dysgu' ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf yn adeilad yr Urdd ym Mae Caerdydd, i ddathlu ac amlygu ei gyflawniadau, rhannu tystiolaeth a’r gwersi a ddysgwyd.

Ein cenhadaeth oedd codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles ymhlith pobl ifanc drwy ddileu'r stigma a'r gwahaniaethu y gwyddom eu bod yn eu hwynebu, gan ddefnyddio dull a arweinir gan gyfoedion i gynyddu dealltwriaeth o iechyd meddwl ac empathi tuag at y rhai sy’n profi phroblemau iechyd meddwl.

Mae cyflawniadau y rhaglen beilot yn cynnwys hyfforddi a chefnogi 54 o bencampwyr ifanc yng Nghymru, gan gyflwyno ymyriadau i 3,000 o bobl ifanc mewn lleoliadau ysgol, cefnogi 27 o gyflogwyr i lofnodi'r Adduned Cyflogwr Ieuenctid a chyrraedd dros 1,000,000 o unigolion drwy ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol #GallwnaGwnawn.

Agorodd ein prif siaradwr Leanne Wood AC ein digwyddiad gan sôn am bwysigrwydd mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Dywedodd: "Mae llwyddiant yr ymgyrch wedi helpu i hybu gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl a mwy o empathi i'r bobl hynny sydd â chyflwr iechyd meddwl. Gobeithio mai dim ond y dechrau yw hyn a bod y rhaglen i bobl ifanc, gyda'i record drawiadol dros gyfnod y prosiect peilot hwn, wedi cyfiawnhau'r achos dros ei ehangu. Mae pob plentyn ym mhob cwr o Gymru yn haeddu elwa o hyn."

Clywsom hefyd gan Osian Griffiths, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a rannodd ei brofiad ar ei agwedd ysgol gyfan tuag at godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles, a siaradodd am ba mor hanfodol yw parhau i gefnogi ein pobl ifanc yn ystod pob cam o'u hiechyd meddwl. Roedd staff a hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru hefyd yn bresennol i rannu eu profiad o gymryd rhan yn y rhaglen.

Cyflwynodd Sara Mosely, Cyfarwyddwr Mind Cymru rhai o'r prif sylwadau a ddysgwyd, gan ddweud: "Empathi yw'r hyn fydd yn newid y ffordd rydych chi'n rhyngweithio â ' r byd o'ch cwmpas a'r hyn sy'n digwydd yn eich bywyd eich hun. Mae plant a phobl ifanc am gael mwy o gymorth ac mae angen mwy o ofal arnynt. Mae'n neges bwysig iawn i'r Llywodraeth wrth iddyn nhw baratoi cynlluniau ar gyfer y Cwricwlwm newydd. "

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal wrth drafod gwaddol y rhaglen, "Rydym mewn gwirionedd yn gwybod beth sy'n gweithio. Mae'n bosibl mai ar raddfa fach y bydd hi ond y grŵp o bobl ifanc sydd wedi gallu dweud wrthym beth maen nhw'n ei deimlo, beth mae'n ei olygu a sut mae wedi effeithio arnyn nhw. Ymgyrch yw hon sydd wedi cael ei chyflawni a'i gwerthuso gan bobl ifanc. "

Datgelodd ein peilot pa mor gyffredin yw'r profiad o broblemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, gyda chymaint â 1 o bob 5 person ifanc a holwyd fel rhan o'r peilot yn nodi profiad o broblem iechyd meddwl. Trwy fabwysiadu model profiad byw yn cynnwys Pencampwyr Cymreig ifanc, llwyddodd ein peilot i gynyddu empathi ymhlith disgyblion a dangos sut y maent yn cysylltu â phrofiadau go iawn eu cyfoedion.

Bydd y rhaglen pobl ifanc yn dod i ben ym mis Awst 2019 ac yn gadael gwaddol parhaol yn nwylo'r bobl ifanc sydd yn y sefyllfa orau i'w yrru ymlaen. Y tu hwnt i fis Awst, bydd Amser i Newid Cymru yn parhau i yrru'r agenda gwrth-stigma yn ei blaen drwy ein hymgyrch oedolion yn gweithio gyda'r hyrwyddwyr i chwyddo'r neges yn erbyn stigma ar draws y gymdeithas yn gyffredinol.

Mae Amser i Newid Cymru yn ddiolchgar i gronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu'r cynllun peilot hwn ac i'n hyrwyddwyr ac ysgolion am gymryd rhan. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwil a'n mewnwelediadau yn werthfawr ar gyfer unrhyw fentrau gwrth-stigma yn y dyfodol gyda phobl ifanc yng Nghymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda phobl ifanc, cliciwch yma i ddarllen ein hadroddiad llawn.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy