Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd: Clwb Rygbi Pont-y-pŵl yn achub bywyd y Prif Weithredwr

Heddiw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Ben Jeffreys, eiriolwr Amser i Newid Cymru, yn rhannu ei stori ynglŷn â sut y byddai wedi rhoi diwedd ar ei fywyd pe na bai am Glwb Rygbi Pont-y-pŵl.

10th October 2019, 6.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Heddiw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Ben Jeffreys, eiriolwr Amser i Newid Cymru, yn rhannu ei stori ynglŷn â sut y byddai wedi rhoi diwedd ar ei fywyd pe na bai am Glwb Rygbi Pont-y-pŵl. 

Mae Ben Jeffreys, 30 oed o Gasnewydd yn dioddef o anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) a achoswyd gan emetoffobia ers ei blentyndod cynnar. Mae emetoffobia yn ffobia sy’n achosi pryder dwys i chwydu. Byddai meddwl am chwydu neu fod yng nghwmni pobl sâl yn sbarduno ei OCD a byddai’n golchi ei ddwylo am oriau lawer gyda dŵr hynod o boeth, yn brwsio ei ddannedd hyd at dri deg o weithiau’r dydd, ac ar gyfartaledd yn garglo dwy botelaid o hylif golchi ceg y dydd. Alla i o ddim gadael y sinc – roedd yn rhaid iddo ‘ddiogelu’ ei hun rhag mynd yn sâl.

Mae OCD Ben wedi arwain at iselder a hel meddyliau am hunanladdiad. Teimlai ei fod wedi’i gaethiwo gan y meddyliau cyson y byddai’n mynd yn sâl. Roedd hynny’n golygu bod gwneud tasgau bob dydd bron yn amhosibl, nes iddo gael ei benodi’n Brif Weithredwr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl. Newidiodd hyn ei fywyd gan roi rhywbeth ystyrlon iddo ganolbwyntio arno.

Eglura Ben, “Roedd clwb rygbi fy nhad yn ei blentyndod, Cwb Rygbi Pont-y-pŵl, yn wynebu mynd yn fethdalwyr felly penderfynodd dalu’r holl ddyledion oedd heb eu talu a chymryd rheolaeth lawn o’r clwb. Gwaetha’r modd, yn ystod yr wythnosau’n dilyn ei benderfyniad, cafodd strôc oedd yn golygu na allai weithio. Ar ôl gwirfoddoli am nifer o fisoedd i godi’r clwb yn ôl ar ei draed, cefais fy mhenodi’n Brif Weithredwr. Teimlwn nad oeddwn yn haeddu’r swydd o gwbl ar y pryd, yn arbennig a minnau’n dod i delerau â salwch fy nhad, yn ogystal â brwydro yn erbyn fy iechyd meddwl fy hun. Serch hynny credais i'r cynnig ddod ar yr adeg iawn. Roedd angen ymdeimlad  bwrpas arna i a chyfle i dyfu fel unigolyn. Yn fyr, achubodd Clwb Rygbi Pont-y-pŵl fy mywyd.

“Yn ffodus, mae fy OCD a fy iselder bellach dan reolaeth, ond rwy’n dal i fynd yn rheolaidd i sesiynau therapi gan fod cynnydd i’w wneud o hyd, a bellach rwy’n gwybod fod cymaint o bobl yn poeni am les meddwl eraill, felly ni ddylid teimlo cywilydd o fath yn y byd wrth ofyn am gymorth.

Mae gan rygbi enw o fod yn gêm galed sy’n gofyn i chi fod yn wydn a digyfaddawd - ar y cae ac oddi arno. Mae hyn wedi creu rhwystr sy’n darbwyllo pobl i beidio â dangos eu bregusrwydd ac mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei newid dros amser. Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd Clwb Rygbi Pont-y-pŵl yn arwyddo Addewid Cyflogwr Amser i Newid Cymru i roi’r diwedd ar stigma iechyd meddwl yn y gweithle. Mae'n bwysig gadael i gydweithwyr, chwaraewyr a chefnogwyr wybod bod ganddynt uwch dîm rheoli ymroddedig sydd wedi ymrwymo i achos iechyd meddwl, yn enwedig o fewn chwaraeon.”

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw oherwydd hunanladdiad – mae hyn bron i deirgwaith yn fwy na’r nifer a gaiff eu lladd mewn damweiniau ffyrdd. Hunanladdiad hefyd yw prif achos marwolaeth ymysg dynion o dan 50 oed yn y DU a thrwy’r byd., mae'n gyfrifol am 800,000 o farwolaethau ac mae'n cyfateb i un hunanladdiad bob 40 eiliad.

Un ffordd o atal hunanladdiad yw siarad yn agored am eich iechyd meddwl a gofyn am gymorth os ydych yn hel meddyliau am hunanladdiad. Pwrpas Amser i Newid yw rhoi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig â phwnc iechyd meddwl.

Meddai Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid : “Ein nod yw annog cymaint â phosibl o bobl i deimlo’n ddigon cyfforddus i siarad am eu hiechyd meddwl trwy fod yn agored gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr er mwyn osgoi sefyllfaoedd o argyfwng fel ystyried hunanladdiad. Pwrpas Diwrnod iechyd Meddwl y Byd yw dechrau siarad am hunanofal, atal a chodi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl. Mae angen i bawb gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb i reoli ein hiechyd meddwl a’n lles ein hunain trwy gymryd camau bach fel galw heibio i rywun, neu fod yn glust i wrando. Gall hyn achub rhywun sy’n cael problemau.”

Mae gwefan Amser i Newid Cymru - timetochangewales.org.uk - yn llawn gwybodaeth a chyngor am iechyd meddwl ac mae cefnogaeth ar gael ar gyfer yr ymgyrch trwy lawrlwytho adnoddau o’r wefan. Gallwch ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram.

- DIWEDD -

Cyfweliadau gyda siaradwyr ac astudiaethau achos

Mae cyfweliadau gyda siaradwyr Amser i Newid  Cymru ar gael ar gais. Mae astudiaethau achos o bobl sydd wedi byw gyda phroblemau iechyd meddwl hefyd ar gael (yn cynnwys Ben Jeffreys).

Cyswllt: Hanna Yusuf, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, 02920 105004, h.yusuf@timechangewales.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf i ganolbwyntio ar leihau’r stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yng Nghymru.
  • Mae Amser i Newid Cymru yn cael ei harwain gan ddwy o brif elusennau iechyd meddwl Cymru: Hafal a Mind Cymru.
  • Mae ymgyrch Amser i Newid Cymru’n cael ei hariannu gan Comic Relief a Llywodraeth Cymru.

 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy