Eiriolwyr

Hyforddiant Hyrywddwyr 23 Mehefin

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf yn digwydd ar 23 Mehefin 2022.

26th April 2022, 8.41pm | Ysgrifenwyd gan Alex Peel

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf yn digwydd ar 23 Mehefin rhwng 09.30-12:00, a 13:00-15:00 drwy Zoom. Cysylltwch â thîm Amser i Newid Cymru os hoffech ddod neu gael gwybod mwy am yr ymgyrch: info@timetochangewales.org.uk. 

Pam dod yn Eiriolwyr

Mae gan bob un ohonon ni iechyd meddwl yn yr un ffordd ag y mae gan bob un ohonon ni iechyd corfforol, ac yn union fel ein hiechyd corfforol, byddwn ni'n teimlo'n fwy iach yn feddyliol ar rai diwrnodau nag eraill. Pan fyddwn ni'n dechrau teimlo'n sâl yn feddyliol yn fwy rheolaidd, efallai y byddwn ni'n ymweld â'n meddyg teulu i gael diagnosis o salwch meddwl  – efallai y byddwn ni'n profi wythnosau o deimlo'n drist, yn teimlo'n isel, yn crïo'n aml a/neu'n poeni drwy'r amser.

Mae pobl sy'n cael profiad o salwch meddwl yn aml yn wynebu stigma  a gwahaniaethu yn y gweithle, yn gymdeithasol ac o fewn teuluoedd. Gall hyn wneud bywyd gyda phroblem iechyd meddwl yn anoddach na'r symptomau eu hunain. Mae Amser i Newid Cymru am wella gwybodaeth am salwch meddwl a dealltwriaeth ohono ac, yn bwysicaf oll, cael pobl i siarad am iechyd meddwl. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn normaleiddio sgyrsiau am iechyd meddwl, gallwch chi ein helpu i gyflawni hyn drwy ymuno ag Amser i Newid Cymru fel Hyrwyddwr!

Gan weithio gyda'n sefydliad partner, EYST Cymru, nod Amser i Newid Cymru yw rhoi diwedd ar stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn cymunedau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd yng Nghymru. Caiff yr ymgyrch ei chyflwyno gan bartneriaeth o ddwy elusen iechyd meddwl flaenllaw yng Nghymru, sef Adferiad Recovery a Mind Cymru a chaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Beth mae Hyrwyddwyr yn ei wneud?

Mae Hyrwyddwyr yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad o fyw gyda phroblem iechyd meddwl neu o gefnogi rhywun. Maen nhw'n helpu i herio stigma drwy rannu eu meddyliau a'u profiadau sy'n helpu i wella gwybodaeth pobl, yn chwalu mythau cyffredin am salwch meddwl ac yn dangos i eraill “mae'n iawn i beidio â bod yn iawn” ac “mae'n iawn siarad”

Mae ein Hyrwyddwyr yn rhannu eu straeon am fyw gyda salwch meddwl gan herio stigma mewn nifer o ffyrdd, megis ysgrifennu blogiau (a all fod yn ddienw i amddiffyn hunaniaeth). Gall Hyrwyddwyr ddewis bod yn ddienw a rhannu eu stori heb ofni cael eu beirniadu gan bobl y gallen nhw fod yn eu hadnabod. Gall Hyrwyddwyr ddewis siarad yn fwy cyffredinol am stigma os nad ydyn nhw am siarad am brofiadau personol. Gallwch chi ddarllen rhai o flogiau ein Hyrwyddwyr yma: Straeon Personol | Amser i Newid Cymru.

Mae Hyrwyddwyr hefyd yn helpu drwy rannu cynnwys Amser i Newid Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, rhoi cyflwyniadau gwrthstigma neu gymryd rhan mewn cyfweliadau â'r cyfryngau - mae rhywbeth i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud! Mae Hyrwyddwyr naill ai yn siarad am eu profiadau eu hunain, neu rywbeth maen nhw wedi'i weld yn fwy cyffredinol os bydd hyn yn fwy cyfforddus.

Beth yw'r ymrwymiad?

Heblaw am ymuno â sesiwn hyfforddiant cychwynnol, nid oes isafswm nifer o oriau rydyn ni'n eu disgwyl gan ein Hyrwyddwyr. Mae rhai yn rhoi help llaw ychydig o weithiau y mis, rhai ychydig o weithiau y flwyddyn a rhai bob nawr ac yn y man, pan fydd y cyfle cywir yn codi. Caiff pob cyfraniad ei werthfawrogi yr un fath, am mai Hyrwyddwyr sydd wrth wraidd ymgyrch Amser i Newid Cymru!

Beth mae'r hyfforddiant yn ei gynnwys?

Er na allwn ni gwrdd wyneb yn wyneb o hyd, rydyn ni wedi addasu ein hyfforddiant fel y gallwn ni ei gyflwyno yn rhithwir. Mae'r hyfforddiant rhyngweithiol hwn yn digwydd dros ddau ddiwrnod yn olynol mewn dwy sesiwn dwy awr a hanner yr un (gydag egwyl hanner ffordd!) a bydd yr hyfforddiant yn rhoi'r canlynol i chi:

  • Trosolwg o ymgyrch Amser i Newid Cymru a'r ffordd y gallwch chi gymryd rhan fel Hyrwyddwr
  • Gwybodaeth am y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a'r ffordd y gallwn ni eu herio
  • Cipolwg ar ein hadnoddau a sut i'w defnyddio
  • Cyfle i gwrdd ag un o'n Hyrwyddwyr sefydledig, a fydd yn rhannu ei stori â chi ac a fydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am wirfoddoli
  • Canllawiau ar sut i ysgrifennu blog neu ffilmio flogiau ar gyfer ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol
  • Cyflwyniad i roi cyflwyniadau gwrthstigma*

* Bydd Hyrwyddwyr sydd am roi cyflwyniadau gwrthstigma yn cael cynnig diwrnod pellach o hyfforddiant, unwaith y byddwn yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb. Bydd hyn ar gyfer Hyrwyddwyr sydd am roi sgyrsiau i fusnesau a sefydliadau er mwyn rhannu eu straeon eu hunan o stigma a gwahaniaethu

Bydd ein diwrnod hyfforddi hyrwyddwyr nesaf yn digwydd ar 23 Mehefin rhwng 09.30-12:00, a 13:00-15:00 drwy Zoom. Cysylltwch â thîm Amser i Newid Cymru os hoffech ddod neu gael gwybod mwy am yr ymgyrch: info@timetochangewales.org.uk. 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy