Estyn Llaw

Estynnwch Allan heddiw i helpu rhywun rydych chi'n ei adnabod. Mae pethau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Lansiwyd Amser i Newid Cymru ymgyrch newydd i annog y cyhoedd i estyn llaw at ffrindiau, teulu a chydweithwyr sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn Medi 2016. Wrth bwysleisio'r neges nad oes angen bod yn arbenigwr i siarad am iechyd meddwl, mae'r ymgyrch Estyn Llaw yn dangos sut mae pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl, llesiant a gwellhad pobl.

Ewch i www.estynllaw.cymru i weld y straeon a chael gwybod sut y gallwch #EstynLlaw

Yn ôl ymchwil, mae naw o bob deg o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu stigma neu gamwahaniaethu a dywed llawer fod hyn yn gallu bod yn waeth na'r salwch ei hun. Mae'n gallu rhwystro pobl rhag siarad am eu hiechyd meddwl a cheisio cymorth, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gwaith neu weithgareddau cymdeithasol. Mae un ymhob pedwar ohonom yn wynebu problem iechyd meddwl ac felly bydd yr ymgyrch yn dangos mae'n gallu effeithio ar bobl o bob demograffig a chefndir. Y thema gyffredin yw bod pethau bychain yn gallu golygu llawer.

Lisa a'i chydweithiwr

Matt a ffrindiau

Bod gerllaw rhywun. Mae'n rhywbeth gall pawb ei wneud. Does dim rheolau, mae pethau gwahanol yn helpu pobl wahanol. Rhoi gwybod i rywun eich bod chi gerllaw a'ch bod chi'n deall. Dod ynghyd a gwel ffrindiau, chwerthin gyda'ch gilydd. Anya

Gan barhau â thema ymgyrchoedd blaenorol Amser i Newid Cymru, y rheiny sydd wedi cael profiad go iawn sydd wrth graidd yr ymgyrch Estyn Llaw. Bydd cyfres o fideo yn cael eu darlledu ar y teledu, mewn sinemâu ac ar gyfryngau cymdeithasol, a'r cyfan yn cynnwys pobl o Gymru sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dweud wrth y gynulleidfa beth mae estyn llaw yn ei olygu iddynt. Mae pob person yn disgrifio sut mae'r pethau bychain mae eu ffrindiau, teulu neu gydweithwyr yn eu gwneud – fel gofyn sut ydyn nhw, treulio amser gyda'r teulu, mynd allan am goffi, mynd i'r sinema neu i'r gampfa – yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywyd.

Ymhlith sêr y fideos, mae nifer o Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru, sy'n gwirfoddoli'n rheolaidd ac yn cyflwyno sesiynau siarad gwrth-stigma i fusnesau ac i gymunedau ledled Cymru ynglŷn â'u profiadau. Mae'r fideos hefyd yn cynnwys wynebau cyfarwydd gan gynnwys y cyflwynydd teledu Matt Johnson a Hywel Gwynfryn oddi ar BBC Radio Cymru. 

Anya a Hywel

Sut i gymryd rhan

Adnoddau: Estyn Llaw

Adnoddau: Estyn Llaw

Lawrlwythwch ein hadnoddau 'Estyn Llaw' a helpwch ni i ledu’r gair!

Darganfyddwch fwy
Siarad am Iechyd Meddwl

Siarad am Iechyd Meddwl

Gall ychydig eiriau wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch â bod ag ofn siarad am iechyd meddwl!

Darganfyddwch fwy