Rhoi iechyd meddwl ar yr agenda

Mae rhoi iechyd meddwl ar yr agenda yn rhan bwysig iawn o'r ymgyrch. Wedi'r cwbl, gydag un o bob pedwar ohonom yn wynebu problemau iechyd meddwl bob blwyddyn, mae'n rhywbeth a fydd yn effeithio ar bob teulu, pob gweithle a phob cymuned yng Nghymru.

Stigma a gwahaniaethu ar yr agenda wleidyddol

Ym mis Tachwedd 2012, rhannodd pedwar Aelod Cynulliad, un o bob plaid, eu profiadau o broblemau iechyd meddwl mewn dadl bwerus ac emosiynol yn y Cynulliad, wedi'i threfnu ar y cyd ag Amser i Newid Cymru, ac mewn cyfres o flogiau a gyhoeddwyd ar ein gwefan.

Rydym yn dal i weithio gyda'r pedwar AC - Ken Skates, Eluned Parrott, Llyr Huws Gruffydd a David Melding - sydd bellach yn Eiriolwyr Amser i Newid Cymru - a ffigyrau blaenllaw eraill yn y byd gwleidyddol er mwyn cadw iechyd meddwl ar yr agenda.

Gallwch wylio'r ddadl yma a darllen y blogiau yma.