Ymgyrch iechyd meddwl newydd Mae Siarad yn Hollbwysig i ddynion

Mae Amser i Newid Cymru wedi lansio ymgyrch newydd heddiw i annog dynion i drafod eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu beirniadu.

21st February 2019, 12.01am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae Amser i Newid Cymru wedi lansio ymgyrch newydd heddiw i annog dynion i drafod eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu beirniadu. Mae ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yn pwysleisio'r ffaith mai trafod iechyd meddwl yw un o'r pethau mwyaf dewr y gall dyn ei wneud.

Nod yr ymgyrch yw grymuso dynion i drafod eu trafferthion ag iechyd meddwl yn agored. Dangosodd ymchwil gan Amser i Newid Cymru fod hunan stigma a diffyg dealltwriaeth o iechyd meddwl yn atal dynion rhag trafod eu problemau iechyd meddwl â'u teuluoedd a'u ffrindiau gan eu bod yn ofni ac yn poeni am y canlyniadau negyddol. Mae llawer o ddynion wedi dweud wrth Amser i Newid Cymru fod y pwysau i beidio â mynegi eu teimladau ac i fod yn gryf yn golygu eu bod wedi ddioddef yn dawel.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys cyfres o fideos byr yn dangos pwysigrwydd trafod eich teimladau â'r bobl o'ch cwmpas pan fyddwch yn teimlo'n anhwylus.

Dywedodd June Jones, Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth ar gyfer yr ymgyrch, "Mae ymchwil yn dangos bod dynion yng Nghymru yn llai tebygol o gyfaddef eu bod yn adnabod rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl a bod ganddynt farn fwy negyddol am iechyd meddwl.

Mae gwrywdod niweidiol (toxic masculinity) yn broblem fawr sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddynion drafod problem iechyd meddwl yn agored: Caiff ymadroddion fel 'bod yn gryf', 'peidio â dangos teimladau' ac 'nid yw dynion yn crio' eu defnyddio mewn ffordd negyddol i feirniadu dynion sy'n cydnabod bod ganddynt iechyd meddwl gwael."

Mae Peter, 66, o Gaerdydd yn egluro sut y gwnaeth drafod ei iselder yn agored: "Roedd y salwch yn gwneud i mi deimlo'n drist ac yn ofnus o hyd, a hyd yn oed mewn poen. Es i at fy meddyg teulu a chefais ddiagnosis ffurfiol o iselder. Dim ond ar ôl trafod hyn yn agored â fy ngwraig, sef y peth anoddaf i gyd, y dechreuais deimlo fy mod yn gallu dringo allan o'r twll tywyll hwn gyda'r cymorth a'r arweiniad cywir."

Mae Lee, 40, o Bont-y-pŵl yn egluro ei fod wedi brwydro yn erbyn iechyd meddwl gwael ers ei arddegau ac yn trafod y cymorth cywir a gafodd gan ei deulu a'i ymarferwyr iechyd meddwl: "Roeddwn yn arfer yfed llawer i guddio fy mhroblemau iechyd meddwl. Ar ôl graddio o'r brifysgol, roeddwn yn teimlo o dan lawer o bwysau yn y gwaith a gartref. Chwaraeodd fy mam yng nghyfraith ran enfawr yn fy nhaith i wella fy iechyd meddwl. Gwnaeth sylwi ar y ffaith nad oeddwn eisiau gadael y tŷ, aeth hi a fy ngwraig ati i fy helpu i adael y tŷ yn fwy aml."

Mae gan Stuart, 59, o Gaerdydd orbyrder ac iselder a dywedodd: "Ceisiais ganolbwyntio ar fy mhlant a gweithio ar yr un pryd ond roeddwn yn ei gweld hi'n anodd iawn delio gyda phopeth. Es i at fy meddyg teulu yn y pen draw a gwnaeth gynnig sesiynau cwnsela i mi. Roedd fy nghwnselydd yn gwrando arnaf ac yn dweud wrtha i fod fy nheimladau yn normal, o gofio'r hyn roeddwn i wedi bod drwyddo. Yna dechreuais sylweddoli ei bod yn IAWN i beidio â bod yn IAWN. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud iechyd meddwl yn bwnc cyffredin i'w drafod ac annog dynion i geisio cymorth os bydd ei angen arnyn nhw."

Ychwanegodd June Jones, "Dim ond 55% o'r dynion a ddywedodd eu bod yn teimlo'n isel wnaeth drafod hynny â rhywun, ond bydd 1 o bob 4 ohonom yn cael problem iechyd meddwl ar ryw adeg. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr i helpu person sydd â phroblem iechyd meddwl.

Os ydych yn poeni am ffrind neu anwylyn sy'n ddyn, dechreuwch sgwrs ag ef a gofynnwch, 'wyt ti'n iawn?' a byddwch yn barod i wrando. Nid oes angen i chi arbenigo ar iechyd meddwl i fod yn ffrind Mae'n bwysig iawn bod dynion sy'n poeni am eu hiechyd meddwl yn trafod hyn â rhywun mae'n nhw'n ei garu ac yn ymddiried ynddyn nhw, neu eu meddyg teulu."

#MaeSiaradYnHollbwysig

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy