Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref)

Er bod agweddau'r cyhoedd wedi gwella tuag at iechyd meddwl, mae Amser i Newid Cymru yn cydnabod bod y stigma yn parhau i fod yn anodd i sawl person sy'n byw gyda phroblem iechyd meddwl.

6th October 2020, 7.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) eleni ar adeg lle y mae ein bywydau o ddydd i ddydd wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Yng Nghymru a ledled y byd, mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn problemau iechyd meddwl ac mae trafod iechyd meddwl yn agored yn parhau i fod yn fater pwysig.  

Er bod agweddau'r cyhoedd wedi gwella tuag at iechyd meddwl, mae Amser i Newid Cymru yn cydnabod bod y stigma yn parhau i fod yn anodd i sawl person sy'n byw gyda phroblem iechyd meddwl.  

Mae sawl math gwahanol o stigma, (pryfocio, cam-drin, diffyg ymddiriedaeth, colli ffrindiau a theulu, colli swydd neu fethu cael swydd newydd, gwahardd o addysg, hyfforddiant, gweithgareddau cymdeithasol a chlybiau). Mae stigma wedi datblygu i fod yn rhwystr sy'n atal pobl rhag ceisio cael cymorth, ond gyda help ein Hyrwyddwr a lleisiau'r rheini sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, gallwn ni fynd i'r afael â hyn gyda'n gilydd.  

Mae'n bwysicach nag erioed nawr i ymuno ag Amser i Newid Cymru er mwyn helpu i dorri stigma iechyd meddwl a chael gwared ar wahaniaethu unwaith ac am byth yng Nghymru.  

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy