Gwyliwch Ein Digwyddiad Symposiwm Stigma 2021

26th October 2021, 9.00am

Cynhaliodd Amser i Newid Cymru ei Symposiwm Stigma ar 15 Medi 2021 – digwyddiad rhithwir oedd hwn a drefnwyd gan Amser i Newid Cymru gyda thrafodaeth panel a gadeiriwyd gan ei phartner, EYST. Rhannodd Amser i Newid Cymru ganfyddiadau o'r ymchwil cwmpasu a gynhaliwyd i archwilio'r stigma iechyd meddwl a wynebir gan gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Trafododd siaradwyr o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BMHS), Diverse Cymru a Chanolfan Cymuned Affricanaidd (ACC) Cymru y modd y gall diffyg sensitifrwydd diwylliannol a stigma iechyd meddwl arwain at oedi wrth chwilio am help. 

Yn y Symposiwm Stigma, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle AS yr anerchiad agoriadol lle bu'n siarad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i herio stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu ledled Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd gwella canlyniadau mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ardaloedd o dlodi ac amddifadedd, yn ogystal â chynnig ei myfyrdodau ar y themâu allweddol a godwyd yn ymchwil Amser i Newid Cymru. 

Cafodd gwaith cwmpasu Amser i Newid Cymru ei wneud dros y chwe mis diwethaf a chyflwynwyd y canfyddiadau yn y digwyddiad. Diolch i'r Symposiwm Stigma, llwyddodd Amser i Newid Cymru i ddangos y cynnydd a wnaed hyd yma yn ogystal â'i dyhead ar gyfer y dyfodol. Yn ystod y digwyddiad, rhannodd Hyrwyddwr Amser i Newid Cymru, Brian Fakhir, ei stori bersonol o pam mae'n bwysig i ddynion siarad yn agored am broblemau iechyd meddwl, a siaradodd Ashton Hewitt, sy'n chwarae rygbi’r undeb dros Gymru a'r Dreigiau, am ei brofiad â hiliaeth, yn enwedig yng nghyd-destun rygbi yng Nghymru, a rhannodd neses bwysig ynghylch mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl mewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Amser i Newid Cymru yw'r unig ymgyrch wrthstigma yng Nghymru sy'n cyflawni ar raddfa genedlaethol ac mae ganddi hanes gwych o gynnal ymgyrchoedd sydd wedi'u harwain gan dystiolaeth ac sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth o'r maes. Rhwng 2019 a 2021, sicrhaodd yr ymgyrch gynnydd o 5% mewn agweddau cadarnhaol, gan gynrychioli tua 120,000 o unigolion yng Nghymru a, diolch i'w phroffil a'i chredadwyedd ymysg cyflogwyr, mae bron i 200 o gyflogwyr wedi cofrestru i fynd i'r afael â stigma. Mae hyn yn cyfrif am fwy na 300,000 o gyflogeion yng Nghymru – bron i chwarter y gweithlu yng Nghymru. 

Diolch i'r holl siaradwyr nodedig ac aelodau'r gynulleidfa am wneud y symposiwm yn llwyddiant. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus ym mynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru. 

Dilynwch y ddolen hon i wylio'r Symposiwm Stigma. 

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy