Eiriolwyr

Eiriolwyr - mynegwch eich barn!

Mae Eiriolwyr Amser I Newid Cymru yn ganolog i bopeth mae’r ymgyrch yn gwneud.Dyna pam fod angen i ni wybod beth yw eich barn o'r ymgyrch hyd yma, a sut y dylai ddatblygu.

1st April 2014, 2.40pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Mae Eiriolwyr Amser I Newid Cymru yn ganolog i bopeth yr ydym yn gwneud.

Mae Eiriolwyr yn pobl sydd a phrofiad o broblemau iechyd meddwl sydd yn ymgyrchu o fewn cymunedau a gweithleoedd. Mae Eiriolwyr yn ysgrifennu blogiau, cymeryd rhan mewn ymgyrchoedd marchnata, cyflwyno sesiynnau Addysg, arwain prosiectau cymunedol ac yn bwysycach oll, yn annog pobl i siarad am iechyd meddwl.

Fel Eiriolwr, rydych yn rhan hanfodol o Amser I Newid Cymru. Rydym am wybod pa fath o effaith mae’r ymgyrch wedi cael ar eich bywyd. I wneud hyn, rydym wedi trefu I gwmni o’r enw RMG I gynnal arolwg annibynnol .

Pwrpas yr arolwg yw i hel eich barn, i ddarganfod pa effaith mae Amser i Newid Cymru yn cael, ac i gael gwybod os mae’r ymgyrch yn eich helpu i siarad am eich profiadau ac i herio stigma a gwahaniaethu.

Mae’r gwaith hyn yn cyfrannu at werthusiad eang Amser i Newid Cymru, sydd yn cael ei gyflawni gan WHISC, ac efallai eich bod wedi cyyfrannu at hyn yn barod. Mae’n holl bwysig i ni arolygu gymaint o Eiriolwyr a phosib, i gael llun cywir o gryfderau Amser i Newid Cymru – a beth gallen ni wella. Dyma eich cyfle i fynegi barn a dylanwadu ar ddyfodol yr ymgyrch!

Os ydych yn fodlon cymeryd rhan, mi allwch ddewis cwblhau’r arolwg dros y ffon, arlein neu trwy’r post, twry gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Oes oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch a Sara Powys

Mi fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei ddarpar yn hollol gyfrinachol a ni fydd unrhyw wybodaeth personol yn cael ei rhannu mewn adroddiadau, neu ag unrhyw sefydliad arall. Mae cyfraniadau yn hollol wirfoddol.

Hoffwn ddiolch o flaen llaw i Eiriolwyr sydd yn cymeryd rhan yn yr arolwg. Rydych yn gwneud gwahaniaeth mawr – mi fydd eich cyfraniad yn helpu ni i wneud mwy i herio stigma a gwahanieathu yn y dyfodol.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy