Stori lwyddiant ar gyfer grŵp ysgrifennu Powys

Yn ddiweddar, bu Amser i Ysgrifennu, y grŵp ysgrifennu creadigol o Bowys sy'n gymysgedd o bobl gyda phrofiad a heb brofiad o broblemau iechyd meddwl, yn dathlu eu cyflawniadau mewn digwyddiad yng…

10th February 2014, 10.07am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Yn ddiweddar, bu Amser i Ysgrifennu, y grŵp ysgrifennu creadigol o Bowys sy'n gymysgedd o bobl gyda phrofiad a heb brofiad o broblemau iechyd meddwl, yn dathlu eu cyflawniadau mewn digwyddiad yng Ngwesty'r Commodore, Llandrindod.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau o waith personol gan bobl sy'n rhan o'r prosiect.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r grŵp wedi annog pobl ym Mhowys i roi pin ar bapur ac archwilio eu talentau llenyddol, ac mae wedi creu man i bobl gyda phrofiad a heb brofiad o broblemau iechyd meddwl i ddod at ei gilydd, i gymdeithasu a datblygu eu sgiliau creadigol.

Mae'r grŵp hwn bellach yn cwrdd yng Nghwessty'r Commodore, Llandrindod ar ddydd Iau cyntaf y mis ac maent hyd yn oed wedi trefnu i'r gwaith a gaiff ei greu gael ei arddangos yn llyfrgell Trefyclo (7- 13 Chwefror), canolfan hamdden Llanandras (14- 20 Chwefror), llyfrgell Llandrindod (21 - 27 Chwefror), llyfrgell Rhaeadr Gwy (28 Chwefror - 6 Mawrth) ac yn olaf, yn llyfrgell Llanfair-ym-Muallt ar 28 Mawrth.

Mae'r trefnydd, Philip Moisson, yn gobeithio y bydd yr arddangosfeydd yn annog awduron eraill yn yr ardal i gymryd rhan. Dywedodd:

"Rydym yn hynod falch o'r gwaith a wneir drwy Amser i Ysgrifennu ac yn falch ein bod wedi rhoi cyfle prin i bobl ym Mhowys roi cynnig ar rywbeth sydd ychydig yn wahanol.

Roedd hi hefyd yn bwysig i ni helpu i chwalu'r stigma a'r tabŵ sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl a chreu amgylchedd cefnogol, fel y byddai'r grŵp yn agored i bobl gyda phrofiad a heb brofiad o broblemau iechyd meddwl ac y byddai pawb yn teimlo bod croeso iddynt. Os hoffech roi gynnig ar ysgrifennu creadigol neu alw draw, cysylltwch â ni ar timetowrite@live.co.uk.”

Ychwanegodd y cyd-drefnydd prosiect, Nic Williams:

"Mae'r holl brofiad o ddysgu am ysgrifennu creadigol wedi bod yn agoriad llygad. Rwyf wedi mwynhau popeth yn fawr, o chwilio am leoliadau i ysgrifennu stori. Yn bendant, gallaf ei argymell fel ffordd o gydnabod anawsterau mewnol."

Ariennir y prosiect gan Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r noson ar gyfer y prosiect lleol yn cynnwys bwffe, pobl yn darllen eu gwaith eu hunan, gwybodaeth am yr ymgyrch gan y Rheolwr Rhaglen cenedlaethol, Ant Metcalfe, a manylion am y grŵp ysgrifennu sy'n dal i gwrdd yn Llandrindod.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

"Mae'n wych gweld yr hyn mae Amser i Ysgrifennu wedi'i gyflawni ym Mhowys ac mae mor bwysig rhoi cyfleoedd i bobl gyda phrofiad a heb brofiad o broblemau iechyd meddwl weithio a chymdeithasu gyda'i gilydd. Wedi'r cyfan, mae un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl a gall gwneud pethau syml fel gofyn 'sut wyt ti heddiw?' wneud gwahaniaeth mawr. Mae Amser i Ysgrifennu yn rhoi cyfleoedd i bobl gael sgyrsiau am iechyd meddwl mewn ffordd naturiol ac rydym yn falch o gefnogi'r prosiect."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Amser i Ysgrifennu yn http://timetowritemidwales.blogspot.co.uk/

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy