Ymateb Amser i Newid Cymru i COVID-19

Rydyn ni am i chi wybod ein bod ni yma i chi a gobeithiwn eich bod chi a'ch anwyliaid yn cadw'n ddiogel yn ystod yr amseroedd anodd dros ben hyn.

30th March 2020, 10.08am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Ymateb Amser i Newid Cymru i COVID-19

Gobeithiwn eich bod chi a'ch anwyliaid yn cadw'n ddiogel yn ystod yr amseroedd anodd dros ben hyn. Rydym yn gwybod y bydd yr achos hwn yn cael effaith sylweddol ar y rhai sydd eisoes yn cael trafferth â'u hiechyd meddwl ac y bydd effaith cryfach i'w deimlo am fisoedd lawer i ddod o ganlyniad i'r argyfwng byd-eang hwn. Rydym yn eich annog i estyn allan at anwyliaid, cysylltu a chynnig cefnogaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd gweithredoedd bach o garedigrwydd yn helpu pobl i deimlo'n gysylltiedig a nad bod nhw ar eu pennau eu hunain.

Rydyn ni am i chi wybod ein bod ni yma i chi o hyd yn yr amseroedd anodd a digynsail hyn. Yn awr, yn fwy nag erioed, rhaid inni gofio pwysigrwydd cefnogi ein gilydd ag iechyd meddwl . Mae yna nifer o ffyrdd o hyd i gymryd rhan yn ymgyrch Amser i Newid Cymru - boed hynny trwy lofnodi’r addewid yn ddigidol, sgyrsiau gwrth-stigma arlein, Gweithdai cyflogwyr arlein, ysgrifennu blog, lawrlwytho ein hadnoddau am ddim neu ddangos eich cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

O ystyried yr amgylchiadau presennol, rydym yn gohirio gweithgaredd wyneb-yn-wyneb. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn agos ac yn dilyn canllawiau'r llywodraeth yn llym. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel inni ddychwelyd i'n gweithgareddau arferol byddwn yn gwneud hynny a bydd ein llais yn dod yn ôl yn gryfach nag erioed.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

Cysylltwch â info@timetochangewales.org.uk os oes gennych gwestiynau neu syniadau yr ydych am eu rhannu â ni yn ystod yr amser hwn.

Os oes angen cefnogaeth frys arnoch, cofiwch fod gennym ein tudalen gymorth i gael help.

Trefnwch eich sgwrs gwrth-stigma

Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl wrth i ni addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau – mae hyn yn arbennig o wir yn y gweithle, lle mae llawer ohonon ni wedi gorfod gweithio gartref neu heb fod yn gweithio o gwbl. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae wedi bod yn bwysicach nag erioed gofalu am ein gilydd a chefnogi iechyd meddwl ein gilydd. Ffordd allweddol o wneud hyn yw drwy annog pobl ei bod yn ‘iawn peidio â bod yn iawn’ ac estyn allan a siarad â rhywun.
 
Beth am roi sicrwydd i'ch cydweithwyr ei bod yn iawn i siarad, drwy eu gwahodd i glywed un o'n Hyrwyddwyr yn rhoi cyflwyniad gwrth-stigma rhithwir? Mae cyflwyniadau gwrth-stigma yn ffordd wych o dynnu sylw at rai o'r ffeithiau allweddol am iechyd meddwl a salwch meddwl, herio stigma (gan gynnwys hunan-stigma) a chlywed am brofiadau personol yr Hyrwyddwr o salwch meddwl a'r heriau y mae wedi'u goresgyn.
 
Gall ein Hyrwyddwyr gynnal sgyrsiau drwy lwyfannau fel Zoom, Microsoft Teams a llwyfannau tebyg, neu mae gennym ni rai sgyrsiau sydd wedi'u recordio ymlaen llaw a sgyrsiau sain i chi eu rhannu hefyd! Mae'r sgyrsiau yn para tua 20 – 30 munud wedi'u dilyn gan gyfle am sesiwn holi ac ateb ac maent yn rhad ac am ddim. Os hoffech chi drefnu sgwrs, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â c.williams@timetochangewales.org.uk.

Hyfforddiant Hyrwyddwr Ar-lein

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig Hyfforddiant Hyrwyddwyr i Gyflogeion rhithwir drwy Zoom i Sefydliadau Ymrwymedig.
 
Bydd y sesiynau hyfforddiant hyn yn cynnwys:

  • Naill ai sesiwn dwy awr neu ddwy sesiwn awr dros ddiwrnodau olynol
  • Sesiynau hollol ryngweithiol gan gynnwys cwis drwy Kahoot
  • Grwpiau llai er mwyn galluogi trafodaeth


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu hyfforddiant, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i pledge@timetochangewales.org.uk.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy