Modiwl Hyfforddiant Gwrth-stigma Amser i Newid Cymru – Adroddiad Gwerthuso

Darllenwch yr adroddiad gwerthuso yma.

14th June 2023, 2.00pm | Ysgrifenwyd gan Amser i Newid Cymru

Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar yr hyfforddiant gwrth-stigma a ddyluniwyd gan Amser i Newid Cymru yn benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn dangos canlyniad eithriadol o gadarnhaol o ran helpu staff i adnabod arwyddion ymddygiad sy’n stigmateiddio a’u rôl yn lleihau stigma iechyd meddwl o fewn gwasanaethau.

Cyn cael yr hyfforddiant, dim ond 7% o bobl oedd yn teimlo'n eithriadol o hyderus wrth adnabod arwyddion stigmateiddio. Ar ôl yr hyfforddiant, roedd bron i hanner yr hyfforddeion (47%) yn teimlo'n eithriadol o hyderus wrth adnabod arwyddion stigma iechyd meddwl.

Roedd bron pob un (99%) o’r rhai a gafodd yr hyfforddiant o'r farn ei fod yn egluro rôl gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau stigma iechyd meddwl cleifion, ac roedd 96% arall o’r hyfforddeion o’r farn bod cynnwys yr hyfforddiant yn berthnasol i'w rôl/gweithle.

Mewn meysydd eraill, dywedodd 98% o’r hyfforddeion fod eu dealltwriaeth o effaith stigma iechyd meddwl wedi gwella ar ôl cael yr hyfforddiant, ac roedd 90% o’r rhai a gafodd yr hyfforddiant yn teimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi cleifion yn effeithiol mewn ffordd nad yw'n stigmateiddio.

Ymysg yr uchafbwyntiau allweddol eraill mae:

  • Roedd 88% o'r hyfforddeion yn teimlo'n eithriadol o hyderus neu'n weddol hyderus bod ganddynt yr adnoddau/dulliau i leihau stigma cleifion ar ôl cael yr hyfforddiant.
  • Yr agweddau mwyaf defnyddiol ar yr hyfforddiant a nodwyd gan yr hyfforddeion oedd y senarios/syniadau profiad uniongyrchol, y trafodaethau rhyngweithiol a'r cwis.
  • Gwellodd gwybodaeth yr hyfforddeion am effaith stigma ar iechyd meddwl eu cleifion ar ôl cael yr hyfforddiant.
  • Gwellodd hyder yr hyfforddeion bod ganddynt yr adnoddau/dulliau i leihau stigma iechyd meddwl cleifion ar ôl cael yr hyfforddiant gyda’r hyfforddeion yn dod yn fwy hyderus ar y cyfan.

 Cynhaliwyd yr adroddiad gwerthuso hwn gan Mind i archwilio canfyddiadau'r modiwl hyfforddiant gwrth-stigma ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac i fesur ei effaith ar draws y sector gofal iechyd yng Nghymru. Er mwyn casglu data ansoddol ar gyfer yr adroddiad, gweinyddodd tîm Gwerthuso a Pherfformiad Mind arolwg ar-lein i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ei gwblhau ar ôl iddynt fod ar y cwrs hyfforddi i ddysgu mwy am eu profiadau. Cafwyd o leiaf 181 o ymatebebion i'r arolwg gan gyfranogwyr.

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid: “Mae’n wych gweld ymateb y rhai a gafodd yr hyfforddiant gwrth-stigma. Bydd yr adborth cyffredinol yn ein galluogi i adeiladu ar wella’r hyfforddiant a sicrhau bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yr adnoddau cywir i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl yn y sector gofal iechyd yng Nghymru.”

Cafodd yr hyfforddiant ei gynnal rhwng mis Medi 2022 a mis Mawrth 2023 ac amlinellir yr holl ganfyddiadau yn yr adroddiad.

Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad llawn yma.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy