Sgitsoffrenig

Mi fydd y canwr a chyfansoddwr Dai Sharkey yn cyflwyno noson o adloniant am ddim yn Theatr Riverfront Casnewydd ar nos Sadwrn yr 2il o Dachwedd, mewn digwyddiad unigryw o’r enw Sgitsoffrenig, sy’n…

29th October 2013, 12.08pm | Ysgrifenwyd gan Dai

 “Sgitsoffrenig”: Canwr a chyfansoddwr yn herio stigma iechyd meddwl ar lwyfan theatr

Mi fydd y canwr a chyfansoddwr Dai Sharkey yn cyflwyno noson o adloniant am ddim yn Theatr Riverfront Casnewydd ar nos Sadwrn yr 2il o Dachwedd, mewn digwyddiad unigryw o’r enw Sgitsoffrenig, sy’n cyfuno ei gerddoriaeth ‘gwerin tywyll’ gyda hanesion ag atgofion gen Dai a cherddorion eraill am fyw gyda salwch meddwl.  

Fel y mae Dai yn egluro:

“Mi fydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth byw gan rhai o dalentau orau Cymru, yn ogystal a thystiolaeth personol gen yr artistiaid ac y gynulleidfa gan rhannu eu profiadau o fyw gyda salwch meddwl â’r rhwystrau cymdeithasol sy’n dod gyda hynny.

Rwyf wedi galw fy holl brosiectau hyd yn hyn yn ‘Sgitsoffrenig’ – fy record diweddaraf, fy nhaith a nawr y brosiect Amser i Newid Cymru yma – gan fod y gair yn brofoclyd ac yn cael ei gamddaeall ond hefyd i ddad-senseteiddio pobl i’w weld, ei defnyddio a’i drafod. Mae’n grêt, rwyf wedi derbyn llawer o adborth gan bobl yn dweud eu bod bellach yn gallu eu sillafu, o leiaf!”

Hefyd yn perfformio yn y digwyddiad y mae Mad Tom’s Crowd, Bel and the Hangdogs a Space Otter. Mae gigs Sgitsoffrenig blaenorol wedi cynnwys cyfranogiad y gynulleidfa trwy canu ar y cyd neu galw-ag-ateb, a cyfnodau doniol iawn, yn ogystal a chyfnodau emosiynol wrth i gerddorion rhannu eu profiadau o fyw gyda salwch meddwl.  

Mae Dai a’i gyfaill Peter hefyd yn rhan o ymgyrch diweddaraf Amser i Newid Cymru, sy’n dangos nad oes rhaid bod yn archarwr, na’n wyddonydd o fri, na’n ofotwr i fod yn arbennig, dim ond bod yn ffrind. I brofi’r pwynt, mae Peter yn ymddangos mewn gwisg archarwr, gan gynnwys clogyn. Mi fyddwch yn gweld Dai a Peter ar bosteri, bocsys byrbrydion ac mewn fideo, sy’n pwysleisio y gall ambell air bach fel ‘sut wyt ti?’ wneud gwahaniaeth mawr.

Mae Dai Sharkey yn cyflwyno ‘Sgitsoffrenig’ yn y Riverfront yng Nghasnewydd ar yr 2il o Dachwedd. Mae tocynnau am ddim ond dim ond nifer cyfyngiedig sydd ar gael o www.eventbrite.co.uk

Gweler sgwrs rhwng Dai a Peter yn trafod iechyd meddwl yma.

Gweler lluniau o gig ‘Sgitsoffrenig’ blaenorol Dai yma.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy