Mae canfyddiadau newydd o arolwg Agweddau'r Cyhoedd at Salwch Meddwl Amser i Newid Cymru yn datgelu cynnydd brawychus mewn stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ers dechrau pandemig y coronafeirws. Mae'r arolwg yn rhoi cipolwg o'r agweddau a'r profiadau sydd fwyaf amlwg mewn perthynas â salwch meddwl yng Nghymru.

Un o brif ganfyddiadau'r arolwg yw bod cryn dipyn o bobl yn dal i stigmateiddio pobl, er gwaethaf y sgwrs am iechyd meddwl yn ystod y pandemig; dim ond 1 person ym mhob 2 yng Nghymru sy'n dweud y bydden nhw'n teimlo'n gyfforddus yn siarad am eu problem iechyd meddwl â ffrindiau a theulu, a dim ond 1 ym mhob 4 fyddai'n siarad â chyflogwr presennol neu ddarpar gyflogwr am ei iechyd meddwl.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod yr arolwg yn dangos gwelliant cyffredinol yn agwedd y cyhoedd yng Nghymru at salwch meddwl, gyda 5% o oedolion yn dangos mwy o ddealltwriaeth a goddefiant, sy'n cynrychioli tua 129,000 o oedolion. 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae'n glir o ganfyddiadau'r arolwg bod y pandemig wedi gwaethygu'r profiadau o stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yng Nghymru ymhellach, ac mae'n bryderus clywed bod hyn wedi atal pobl rhag ceisio'r cymorth cywir.”

Mae'r ymchwil yn dilyn arolwg stigma Amser i Newid Cymru ym mis Mai 2020, lle y dywedodd 54% o bobl fod hunanstigma wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau symud yng Nghymru. Mae'r ddau arolwg yn nodi tebygrwydd pryderus am yr amharodrwydd i drafod materion iechyd meddwl yn agored â ffrindiau, teulu a chydweithwyr a sut y gallai hyn wneud pethau'n waeth. 

Roedd Mark, sy'n 32 oed o Ferthyr Tudful, yn teimlo na allai siarad yn agored â'i ffrindiau a'i deulu am ei iselder a'i orbryder oherwydd roedd yn ofni y byddai'n cael ei alw'n wan ac yn ansefydlog yn emosiynol. Dywedodd: “Roeddwn i'n teimlo bod rhaid i mi gyflwyno fy hun yn y fath fodd fel na fyddai pobl yn amau bod rhywbeth wir yn fy mhoeni. Roedd fy mhryder mwyaf yn deillio o ganfyddiad, ac roeddwn yn ofni y gallai pobl fy nhrin i mewn ffordd negyddol petaen nhw'n clywed am fy mhroblemau iechyd meddwl. 

Er fy mod yn brwydro yn erbyn fy nemoniaid fy hun, roeddwn i'n barod i gadw'n dawel a chanolbwyntio ar fod yno i fy ffrindiau a fy nheulu. Allwn i ddim mentro dweud wrth unrhyw un am fy nhrafferthion fy hun oherwydd roeddwn i'n ofni y byddai'n gwneud iddyn nhw deimlo hyd yn oed yn waeth. Roeddwn i'n teimlo bod digon ganddyn nhw i feddwl amdano heb fy mhroblemau i, felly dechreuais i ddirywio yn feddyliol ar ôl i mi ei chael hi'n anodd delio â'r hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. 

Ym mis Rhagfyr 2020 roeddwn i ar fy ngwaethaf. Pan gyhoeddodd ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyfyngiadau pellach ar gyfer cyfnod y Nadolig, gwnaeth hynny effeithio'n fawr arna i. Roeddwn i wir yn edrych ymlaen at ein holl gynlluniau fel teulu ac yna, yn sydyn, diflannodd y cyffro hwnnw. Un diwrnod, gwnes i ffrwydro o flaen fy nyweddi, a siaradais i am lawer o'r pethau roeddwn i wedi'u cadw i mi fy hun. Roedd yn rhyddhad gallu siarad amdano a chael cysur gan rywun. Rwy'n ei gweld hi'n haws gwisgo'r arfwisg, ond efallai y bydd angen ychydig o help arna i i'w thynnu i ffwrdd. Gwnaeth y gydnabyddiaeth a'r sicrwydd roi hwb i mi barhau i frwydro yn erbyn fy nemoniaid a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofalu am ein hiechyd meddwl a siarad amdano.”

Er gwaethaf y sgwrs sylweddol am iechyd meddwl yn ystod y pandemig, mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghyfran y bobl sy'n teimlo'n anghyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl. Mae'r rhai sy'n teimlo'n anghyfforddus yn siarad â ffrindiau a theulu am iechyd meddwl wedi dyblu o 20% yn 2019 i 43% yn 2021. Mae'r sefyllfa yn waeth yn y gweithle, gyda 69% o bobl yn dweud eu bod yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad am iechyd meddwl â chyflogwr presennol neu ddarpar gyflogwr o gymharu â 37% yn 2019.

Mae'r arolwg hefyd yn datgelu bod gan fwy o bobl broblemau iechyd meddwl, am fod 1 ym mhob 4 yn dweud fod ganddyn nhw aelodau uniongyrchol o'r teulu sydd wedi cael problem iechyd meddwl yn y flwyddyn ddiwethaf (o gymharu ag 1 ym mhob 5 yn 2019). Hefyd, mae ychydig dros hanner yr ymatebwyr naill ai wedi cael problem iechyd meddwl neu maent yn adnabod rhywun sydd wedi cael problem o'r fath yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae gan Lisa, sy'n 48 oed o'r Canolbarth, gyflyrau iechyd meddwl cymhleth, megis anhwylder deubegynol, anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) ac anhwylder bwyta. Mae'n ofni nodi ei chyflyrau iechyd meddwl ar geisiadau am swyddi rhag ofn y bydd yn destun stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl; rhywbeth y mae eisoes wedi'i brofi mewn swyddi blaenorol. Dywedodd: “Yn fy swydd ddiwethaf, roedd y gwahaniaethu mor wael bu'n rhaid i mi fynd â fy nghyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth. Roedd y stigma a'r gwahaniaethu a ddioddefais gan fy nghydweithwyr mor wael gwnes i ystyried lladd fy hun. Roeddwn i'n teimlo na allwn i fod yn agored na bod yn fi fy hun. Roedd yn gyfnod erchyll, ac ers hynny mae ofn wedi bod arna i i ddatgelu fy nghyflyrau iechyd meddwl ar geisiadau am swyddi rhag ofn y byddwn i'n cael fy nhrin yn annheg neu'n dioddef yr un stigma a gwahaniaethu. 

Nawr dw i'n fwy brwdfrydig nag erioed ynghylch ymuno ag Amser i Newid Cymru a chodi fy llais yn erbyn y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl y mae llawer o gyflogeion yn eu hwynebu yn y gweithle. Mae angen i ni greu amgylcheddau mwy diogel er mwyn i bobl deimlo eu bod wedi'u grymuso a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi fel nad yw bod yn ni ein hunain yn broblem ond yn rhywbeth y cawn ein cefnogi i'w wneud.”

Canfyddiad sylweddol arall yw'r gostyngiad yn nifer y bobl a fyddai'n debygol o gysylltu â'u meddyg teulu am help pe bai ganddyn nhw broblem iechyd meddwl. Yn 2019, dywedodd 8 person ym mhob 10 y bydden nhw'n gofyn i'w meddyg teulu am help pe baen nhw'n teimlo bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl; mae hyn bellach wedi gostwng yn sylweddol i lai na 7 ym mhob 10 (66%). Mae'r arolwg hefyd yn nodi bod 1 person ym mhob 5 yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg mewn rhyw ffordd gan staff iechyd meddwl (o 4% yn 2019 i 15%).

Ychwanegodd Lowri Wyn Jones, “Mae gan Amser i Newid Cymru rôl allweddol yn y gwaith o gefnogi sgyrsiau agored am iechyd meddwl mewn lleoliadau gwahanol fel mannau cymdeithasol ac yn y gweithle. Mae bellach yn bwysicach nag erioed i Amser i Newid Cymru barhau i gefnogi unigolion, cymunedau a chyflogwyr i herio stigma a chreu diwylliant o newid, a sicrhau nad yw neb yn dioddef problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.”  

Gellir gweld yr arolwg o Agweddau'r Cyhoedd at Salwch Meddwl yn adroddiad effaith Amser i Newid Cymru (2018-2019). Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed i wireddu gweledigaeth o Gymru fel gwlad gynhwysol lle nad yw stigma na gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn cyfyngu ar fywydau pobl. Mae'r adroddiad effaith yn barod i'w lawrlwytho drwy glicio yma.  

Efallai hoffech

Hyfforddiant Hyrwyddwyr ar gyfer Cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Ym mis Tachwedd, roeddem yn gyffrous iawn i gyflwyno sesiwn hyfforddi Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru gyda chymorth ein partner EYST.

6th December 2021, 1.00pm | Ysgrifenwyd gan Community Engagement Team

Darganfyddwch fwy

Modiwl peilot sy'n anelu at fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Amser i Newid Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu a chyflwyno modiwl peilot sy'n anelu at fynd i'r afael â'r stigma sy'n…

2nd December 2021, 9.30am | Ysgrifenwyd gan Ceri

Darganfyddwch fwy