Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU

Mae Amser i Newid Cymru wedi dysgu bod o leiaf un ffermwr sydd â phroblem iechyd meddwl yn cymryd eu bywyd eu hun bob wythnos yn y DU (SYG, 2018).

30th July 2018, 2.24pm | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Mae Amser i Newid Cymru wedi dysgu bod o leiaf un ffermwr sydd â phroblem iechyd meddwl yn cymryd eu bywyd eu hun bob wythnos yn y DU (SYG, 2018).

Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymhlith y rheini sy'n gweithio mewn rolau amaethyddol penodol megis cynaeafu cnydau a magu anifeiliaid (SYG, 2018). Er bod ffermwyr y DU ymhlith y gorau yn y byd, ffermio yw un o ddiwydiannau mwyaf peryglus y DU o hyd; yn cyfrif am 1.5% o weithwyr, ond 15-20% o'r holl farwolaethau ymhlith gweithwyr (HSE, 2017).

Dywedodd Karen Roberts, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, "Mae'n bryder mawr bod mwy nag un ffermwr yr wythnos yn cymryd eu bywyd eu hun yn y DU. Ein nod yw annog cynifer o bobl â phosibl i drafod eu problemau a siarad â ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion er mwyn sicrhau ein bod yn osgoi'r sefyllfaoedd argyfyngus hyn. Mae angen i ni gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb cyfunol am reoli ein hiechyd a'n lles ein hunain. Pe byddem yn gweld rhywun a oedd wedi torri ei fraich, byddem yn gofyn sut mae'n teimlo - ond oherwydd y stigma - yn ogystal â'r ofn y byddwch yn ymddangos yn rhy fusneslyd neu'n sarhau rhywun drwy ddefnyddio'r iaith anghywir - rydym yn aml yn amharod i ofyn i bobl am eu hiechyd meddwl - hyd yn oed pan fydd arwyddion straen a gorbryder yn amlwg. Gall cymryd camau bach megis gofyn sut mae rhywun neu fod yn barod i wrando fod yn gymorth mawr i rywun sy'n cael anawsterau."

Yn ôl y Farm Safety Foundation, mae straen yn aml yn ffactor allweddol sy'n cyfrannu at lawer o'r damweiniau, anafiadau a salwch sy'n digwydd ar ffermydd. Mae straen yn rhywbeth y mae llawer o ffermwyr yn ei wynebu ar ryw adeg ac mae'n ffactor pwysig sy'n cyfrannu at broblemau iechyd meddwl. Gall llawer o bethau achosi straen megis pwysau ariannol o ganlyniad i'r farchnad yn amrywio, clefydau anifeiliaid neu gnydau gwael, ond gall pryderon ynghylch Brexit, polisïau, gweinyddiaeth a deddfwriaeth hefyd gael effaith niweidiol.

Mae Aaron Davis sy'n 32 oed o Bowys, yn esbonio ei anawsterau ef yn byw gyda phroblem iechyd meddwl yn y gymuned ffermio, "Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n teimlo'n isel ac yn ystyried lladd fy hun. Cefais ddiagnosis o iselder yn 2015. Rwy'n ffermwr mewn ardal wledig iawn ym Mhowys lle nad oes fawr ddim grwpiau cymorth na digwyddiadau cymdeithasol. Roeddwn i ond yn adnabod ychydig iawn o bobl yn fy nhref ond ar y pryd, doeddwn i ddim am eu poeni gyda fy mhroblemau. Fel dyn, doeddwn i ddim am ymddangos yn fregus o flaen pobl a oedd yn credu fy mod yn berson cryf a chadarn.

Cefais anawsterau ariannol yn 2015 yn ogystal â theimlo'n unig ac yn ynysig iawn. Roeddwn i'n teimlo nad oedd unrhyw ffordd o ddianc ac roeddwn i'n ystyried lladd fy hun. Roeddwn i dan lawer o straen ac yn teimlo mor ynysig tan i mi siarad â dieithryn a wnaeth fy mherswadio nad lladd fy hun oedd yr ateb a bod pobl ar gael a allai fy helpu. Gwnes i fagu'r hyder i siarad â'm teulu a ffrindiau a wnaeth roi'r sicrwydd roedd ei angen arnaf ei bod hi'n iawn i rannu'r adegau anodd gyda'r rhai sy'n poeni amdanoch chi. Dydw i ddim yn credu y byddwn i'n fyw nawr heb eu cymorth anhygoel nhw.

Rwy'n cefnogi Amser i Newid Cymru a'r gwaith mae'n ei wneud i fynd i'r afael â phwysigrwydd siarad am iechyd meddwl, yn enwedig yn y gymuned ffermio lle mae iselder a hunanladdiad yn broblemau does neb yn siarad amdanyn nhw.  Byddwn yn annog unrhyw un sydd am rannu eu profiadau neu sy'n frwd dros annog eraill i siarad am eu hiechyd meddwl i ddod yn Hyrwyddwyr Amser i Newid Cymru. Gorau po fwyaf o bobl sy'n siarad am eu problemau."

Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch genedlaethol gyntaf sy'n canolbwyntio ar leihau'r stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae pobl sydd â salwch meddwl yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu o fewn cymunedau, lleoliadau cymdeithasol a theuluoedd, ac i lawer ohonynt, mae hyn yn aml yn anoddach na byw gyda'r symptomau a'u rheoli eu hunain. Nod ymgyrch Amser i Newid Cymru yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am salwch meddwl ac, yn bwysicach, annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl.

Ychwanegodd Karen Roberts, "Bydd un o bob pedwar yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg - mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dweud nad ydynt yn ymdopi ac mae'r rhai y maent yn siarad â nhw yn aml yn ei chael hi'n anodd trafod y peth gan eu bod nhw eu hunain yn aml wedi drysu ac yn poeni am sut i roi'r cymorth cywir i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl."

Ystadegau

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy