Gwaith cenhedlaeth i roi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl

Wrth i Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ddathlu ei hail ben-blwydd gydag arddangosfa yn…

7th February 2014, 11.23am | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Wrth i Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ddathlu ei hail ben-blwydd gydag arddangosfa yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd yr wythnos hon, dywedodd rheolwr yr ymgych, Ant Metcalfe, fod yr ymgyrch wedi sefydlu sail ar gyfer newid agweddau tuag at salwch meddwl a bod cynnydd gwirioneddol i'w weld.

Ond, dywedodd mai gwaith cenhedlaeth oedd rhoi diwedd ar y stigma a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad yn pwysleisio llwyddiannau'r ymgyrch, sy'n cynnwys creu rhwydwaith o ddau gant o 'Eiriolwyr', pobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl sy'n ymgyrchu yn weithgar yn eu cymunedau a'u gweithleoedd eu hunain er mwyn newid agweddau a chwalu'r tabŵ sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, sy'n effeithio un o bob pedwar o bobl bob blwyddyn.

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, Ant Metcalfe:

"Fel y clywsom yn uniongyrchol gan Eiriolwyr Amser i Newid Cymru a siaradodd yn ein digwyddiad yn adeilad y Pierhead, mae stigma a gwahaniaethu yn dal i fod yn broblemau anferth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru. Gall stigma ei gwneud hi'n anoddach gwneud gweithgareddau bob dydd fel cael bywyd cymdeithasol prysur neu ddod o hyd i waith, yn ogystal â rhwystro pobl rhag cael help a gwella.

Mae cynnydd gwirioneddol yn digwydd er mwyn rhoi diwedd ar stigma a gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, a hynny dan arweiniad ein Heiriolwyr Amser i Newid Cymru, sy'n weithgar mewn cymunedau ledled Cymru, o fewn sefydliadau ac ar-lein, yn ffurfio mudiad gwirioneddol dros newid. Bydd yn cymryd cenhedlaeth i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ond drwy rannu eu profiadau,  mae Eiriolwyr Amser i Newid Cymru yn dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl ledled Cymru gan sicrhau ein bod yn agosach at gyfnod lle bydd pobl yn siarad yr un mor agored am broblemau iechyd meddwl ag y byddent am dorri eu coes."

Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford AC, anerchiad yn y digwyddiad yn adeilad y Pierhead, gan dalu teyrnged i'r ymgyrch a thrafod yr angen i herio stigma yn y gweithle.

Gan siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd:

"Mae'r digwyddiad heddiw yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd y sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl, sut maent yn wynebu'r her o drechu stigma a gwahaniaethu yn y gweithle ac yn eu bywydau personol. Y profiad uniongyrchol hwn sydd wrth wraidd popeth y mae Amser i Newid yn ei wneud, ac mae'n adnodd defnyddiol i ymladd yn erbyn gwahaniaethu.

"Mae'r gwaith a wnaed gan Amser i Newid Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf i fynd i'r afael â'r stigma sy'n dal i fodoli o ran salwch meddwl yn hollbwysig ar gyfer datblygu cymdeithas ddeallgar, iach, ac maent yn haeddu clod am eu holl ymdrechion i gyflawni'r nod hwnnw.

Roedd gwaith Eiriolwyr Amser i Newid Cymru yn rhan amlwg o'r digwyddiad. Ymysg y siaradwyr roedd Mark Smith, sydd wedi gweithio gyda'r ymgyrch ers bron i ddwy flynedd. Gan siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd:

"I mi, roedd yn ddigwyddiad unigryw gan fod cymaint o bobl y mae salwch meddwl wedi effeithio ar eu bywydau mewn rhyw ffordd wedi dod at ei gilydd. Ond, er gwaethaf hynny, mae llawer o'r sawl oedd yn bresennol wedi dewis bod yn rhan o'r mudiad cymdeithasol hwn. Roedd yn fraint rhannu'r llwyfan gyda phobl anhygoel a chael cyfle i rannu fy mhrofiad i o fod yn rhan o'r ymgyrch. Cefais lawer o sgyrsiau cadarnhaol â phobl, roedd teimlad y gallai fod wedi para llawer hirach.

Roedd hefyd yn bleser cwrdd â'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, a sôn wrtho'n gyflym am y prosiect y mae Amser i Newid Cymru yn ei ariannu gyda  Making Minds - sefydliad iechyd meddwl celfyddydol rwy'n helpu i'w ddatblygu.

Mae'n anodd crynhoi'r gwahaniaeth y mae Amser i Newid Cymru yn ei wneud gan ei fod yn symud mor gyflym ac yn torri tir newydd o hyd. Mae'n bendant yn newid agweddau pobl tuag at iechyd meddwl, gan addysgu a hysbysu pobl wrth wneud hynny. Mae iechyd meddwl yn dod yn bwnc trafod mwy derbyniol yn gymdeithasol yng Nghymru."

Mi allwch weld lluniau o'r digwyddiad ar ein tudalen Flickr.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy