Diwrnod Amser i Siarad

Dim ond 2 o bob 5 o bobl yng Nghymru sy'n teimlo'n gyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl

7th February 2019, 12.01am | Ysgrifenwyd gan Hanna Yusuf

Dim ond 2 o bob 5 o bobl yng Nghymru sy'n teimlo'n gyfforddus
yn trafod eu hiechyd meddwl

Mae ffigurau newydd, a ryddheir ar Ddiwrnod Amser i Siarad (7 Chwefror), yn datgelu bod llai na hanner (39%) o bobl yng Nghymru yn teimlo'n gyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl gyda'u ffrindiau a'u teulu, a dim ond 7% sy'n teimlo'n gyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl mewn sgyrsiau grŵp ar-lein.

Mae Amser i Newid Cymru yn annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i ymgysylltu â ffrindiau a theulu mewn ffordd wirioneddol ac ystyrlon - trwy gael sgwrs am iechyd meddwl. Mae'r ymgyrch yn honni bod sgwrsio a'r pŵer i newid bywydau, fodd bynnag maen nhw'n digwydd - wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar gyfryngau cymdeithasol.

Comisiynwyd yr arolwg annibynnol o dros 5,300 o oedolion yn y DU, sy'n cynnwys 1,260 o oedolion yng Nghymru, i nodi Diwrnod Amser i Siarad - ymgyrch ledled y wlad i annog pobl I siarad yn fwy agored am iechyd meddwl. Mae'r arolwg hefyd yn datgelu data sy'n dangos bod dros hanner (51%) o bobl yn y DU yn meddwl nad oes angen i ni siarad â ffrindiau 'mewn bywyd go iawn' oherwydd ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf o’r cyfryngau cymdeithasol.

Sefydlwyd Diwrnod Amser i Siarad chwe blynedd yn ôl. Bob blwyddyn mae'n gofyn i'r genedl gael sgwrs am iechyd meddwl er mwyn helpu i dorri'r stigma sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Unwaith eto eleni, mae'r ymgyrch yn bartneriaeth rhwng Amser i Newid Cymru, Amser i Newid yn Lloegr, See Me yn yr Alban a Change Your Mind yng Ngogledd Iwerddon.

"Efallai y byddwn ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod sut mae ein ffrindiau'n teimlo oherwydd ein bod wedi gweld eu diweddariad diwethaf ar gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mewn byd lle mae llawer o bobl ond yn rhannu ein 'darnau gorau' ar-lein, rydym yn annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i chwalu'r rhwystrau a chael sgyrsiau go iawn ac ystyrlon am eu hiechyd meddwl."

Mae Alex, 28 oed o Gaerffili, yn byw gyda phryder ac iselder ac yn sôn am bwysigrwydd cael sgyrsiau bywyd go iawn am iechyd meddwl: "Pan fydd gen i hwyliau isel, rwy'n siarad â 'm ffrindiau. Gall tecstio tanseilio'r nodwedd bersonol ar bwnc difrifol, a dyna pam rwy'n tueddu i gwrdd neu ffonio fy ffrindiau i siarad am fy mhrofiadau ac rwy'n teimlo'n llawer gwell ar unwaith. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn holl bwysig oherwydd gall ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy'n gwynebu problemau iechyd meddwl."

Mae Dinah, 22, o Ogledd Cymru, sydd ag AGO (Anhwylder Gorfodol Obsesiynol) a phryder, yn sôn am sut all ddechrau sgwrs o amgylch iechyd meddwl annog eraill i ofyn am gymorth a chefnogaeth: "Mae sgyrsio yn f’atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun a bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn. Mae fy nghyflyrau iechyd meddwl wedi gwneud i mi deimlo'n unig yn y gorffennol, ond ers siarad â'm gymuned gefnogol, agos, sylweddolais fod fy nghyflyrau iechyd wedi creu'r person y rydw i heddiw, ac rwy'n gryfach oherwydd hynny. Rwy'n credu fod Diwrnod Amser i Siarad yn sbardun i ddod â phobl at ei gilydd, ac rwy'n cefnogi'r ymdrechion yma i bennu'r stigma ynghylch iechyd meddwl."

Disgwylir i filoedd o sgyrsiau am iechyd meddwl ddigwydd ar Ddiwrnod Amser i Siarad yng Nghymru eleni, a digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y wlad mewn sefydliadau sy'n amrywio o ysgolion a phrifysgolion i fyrddau iechyd a busnesau o bob faint. Bydd sgwrs anferth yn digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod gan ddefnyddio'r hashtag #TimetoTalk ac #AmseriSiarad.

Meddai Karen Roberts, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: "Efallai y byddwn ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod sut mae ein ffrindiau'n teimlo oherwydd ein bod wedi gweld eu diweddariad diwethaf ar gyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mewn byd lle mae llawer o bobl ond yn rhannu ein 'darnau gorau' ar-lein, rydym yn annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i chwalu'r rhwystrau a chael sgyrsiau go iawn ac ystyrlon am eu hiechyd meddwl."

Ymunwch â'r sgwrs ar-lein ar ein tudalennau Facebook, Twitter a Instagram gan ddefnyddio'r hashtag #AmseriSiarad

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy