Gweithgaredd Chwarae Rôl Tŷ'r Cwmnïau

Yn Amser i Newid Cymru, rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i'n Hyrwyddwyr helpu i herio'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

31st March 2021, 9.30am | Ysgrifenwyd gan Ceri

Yn Amser i Newid Cymru, rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i'n Hyrwyddwyr helpu i herio'r stigma a'r gwahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Felly, pan gysylltodd Natalie, un o'n Hyrwyddwyr hirsefydledig ac Arweinydd Llesiant yn un o'n Sefydliadau Ymrwymedig, Tŷ'r Cwmnïau, â ni â syniad arloesol, roedd yn bleser gennym ei helpu!

Cymerodd 5 o'n Hyrwyddwyr ran mewn 12 o sgyrsiau chwarae rôl gydag aelodau o Rwydwaith Iechyd Meddwl Tŷ'r Cwmnïau. Roedd pob Hyrwyddwr wedi cael senario a oedd yn cyfateb i rôl un o Aelodau'r Rhwydwaith, naill ai fel Eiriolwr Iechyd Meddwl neu Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Roedd ein Hyrwyddwyr yn actorion arbennig, gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain i gynnal sgyrsiau realistig yn seiliedig ar y senario a roddwyd iddynt, a gwnaeth Aelodau'r Rhwydwaith roi cymorth a'u cyfeirio'n briodol.

“Fel Sefydliad, rydyn ni am wella sgiliau Aelodau ein Rhwydwaith Iechyd Meddwl a'u grymuso i ddod yn fwy hyderus a medrus wrth gefnogi cydweithwyr sy'n gofyn am help.” – Tŷ’r Cwmnïau

Yna, roedd yr Hyrwyddwyr yn gallu rhoi adborth ar lafar a thrwy ffurflen adborth ar sut aeth y sgwrs yn eu barn nhw, e.e. a wnaeth yr unigolyn wrando mewn modd anfeirniadol gan gyfeirio'n briodol a rhoi cymorth priodol? Gweithiodd y gweithgaredd hwn yn dda iawn gan roi cyfle i Aelodau'r Rhwydwaith ymarfer a magu'r hyder roeddent yn gobeithio ei gael. Wrth wrando ar y sgyrsiau roedd yn glir iawn bod y staff yn Nhŷ'r Cwmnïau wedi cael hyfforddiant da am eu bod yn gofyn y math cywir o gwestiynau, yn dangos empathi a dealltwriaeth, yn gwrando mewn ffordd anfeirniadol ac yn cyfeirio unigolion at rwydweithiau mewnol ac allanol, ac roedd hynny'n wych. Dywedodd pob un o'n Hyrwyddwyr fod y ffordd y gwnaeth pob Eiriolwr a Swyddog Cymorth Cyntaf ymdrin â'r sefyllfa, a'r cymorth a oedd ar gael i'r staff yn Nhŷ'r Cwmnïau, wedi creu argraff. Roedd pawb a oedd yn rhan o'r gweithgaredd wedi'i fwynhau ac wedi dweud ei fod yn ddefnyddiol, felly rydyn ni'n gobeithio ystyried gwneud yr un peth eto yn y dyfodol.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy