Astudiaeth Achos: Careers Wales

Gall addasu i weithio gartref fod yn anodd iawn i rai pobl, ac mae risg y bydd y staff yn teimlo'n unig iawn, a all gael effaith negyddol ar iechyd meddwl.

11th May 2020, 9.10am | Ysgrifenwyd gan Sue

Mae Gyrfa Cymru'n egluro sut mae'r sefydliad wedi bod yn cefnogi ei staff yn ystod pandemig y Coronafeirws. Ynghyd â llawer o sefydliadau eraill, mae eu holl swyddfeydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020 gan olygu bod pobl wedi bod yn gweithio o bell yn llawn amser. Gall addasu i weithio gartref fod yn anodd iawn i rai pobl, ac mae risg y bydd y staff yn teimlo'n unig iawn, a all gael effaith negyddol ar iechyd meddwl.

Yn unol â llawer o sefydliadau eraill, mae ein holl swyddfeydd wedi bod ar gau ers 20 Mawrth 2020 ac, o ganlyniad, mae ein holl staff wedi bod yn gweithio gartref yn llawn amser. Gall addasu i weithio gartref fod yn anodd iawn i rai pobl, ac mae risg y bydd y staff yn teimlo'n unig iawn, a all gael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Fel cyflogwr, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd cynnal gweithlu iach a chynhyrchiol ac mae'r canlynol yn dangos sut rydyn ni'n cyflawni hyn.

Adnoddau 

  • Mae gliniaduron Surface wedi cael eu darparu i'r staff sy'n eu galluogi i gyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio Skype a chynnal cyfarfodydd drwy Teams. Mae rheolwyr yn cynnal galwadau fideo rheolaidd â'r staff i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol ag anghenion y busnes. Mae llawer o dimau'n defnyddio'r cyfleuster hwn yn rheolaidd fel llinell gymorth i deimlo'n llai unig ac i sicrhau parhad y busnes, ac mae cyfarfodydd drwy Teams a/neu Skype hefyd yn cael eu defnyddio'n fwy anffurfiol gan gydweithwyr i sgwrsio dros baned o goffi. Fe gawson ni hyd yn oed Her Cyrcydu (Squat) Ddyddiol ar gyfleusterau sgwrsio Teams gyda'r rheini oedd â diddordeb, sy'n gallu bod yn gymhelliant da, a chyfarfod Teams i ddymuno pen-blwydd hapus i aelod o staff! Mae'r staff wedi cael cynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio Teams er mwyn sicrhau bod pob un ohonyn nhw yn gallu defnyddio'r cyfleuster yn hyderus ac mae clip fideo wedi cael ei ddatblygu ar Powtoon gydag awgrymiadau i'r staff ar sut i weithio gartref yn effeithiol.  Mae hyfforddiant ychwanegol wedi cael ei ddarparu i'r staff drwy Teams, fel Gweithio o Bell i Reolwyr.
  • Mae'r holl staff yn gallu ailgyfeirio eu ffonau desg i'w ffonau symudol gan ddefnyddio UC.
  • Mae'r adran Iechyd a Diogelwch wedi dosbarthu holiaduron i'r staff i wneud yn siŵr bod gennym bopeth sydd ei angen arnon ni i weithio gartref – gellir cael neu ddanfon cyfarpar o'r swyddfeydd os oes cyfarpar arbenigol eisoes yn cael ei ddefnyddio. Gellir cael cyfarpar ychwanegol o'r adran TG, fel teclynnau codi, llygoden/bysellfwrdd di-wifr – unrhyw beth i wella'r amgylchedd gweithio dyddiol.

Cyfathrebu Effeithiol 

  • Mae'r holl staff sy'n gweithio gartref yn cael negeseuon e-bost rheolaidd gan y Prif Swyddog Gweithredol ynghylch datblygiadau o ran rheoli llwythi gwaith yn ystod yr argyfwng. Caiff y neges hon ei hanfon ymlaen at yr holl staff sydd ar absenoldeb mamolaeth/i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
  • Gan ddefnyddio Yammer, mae grwpiau diddordeb arbennig – fel magu plant, garddio, crefftau, bwyta'n iach, ymarfer corff ac anifeiliaid anwes – wedi cael eu sefydlu. Mae'r cyfleuster hwn yn galluogi'r staff i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd ac yn rhoi cyfle i gydweithwyr, na fyddent yn cysylltu â'i gilydd fel arfer, ddod i adnabod ei gilydd yn well drwy rannu lluniau neu awgrymiadau'n rheolaidd y gall y staff eu gweld – eto, mae hyn yn llinell gymorth i sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys ac yn teimlo'n llai unig. Mae'r staff sydd wedi cymryd rhan mewn mentrau i gefnogi'r GIG/Gweithwyr Allweddol wedi cael eu cynnwys ar y grŵp Yammer ac mae llawer o'r staff sydd wedi ymrwymo i'r Her “Race at your Pace” wedi rhannu eu cyflawniadau. Mae grwpiau WhatsApp yn cael eu defnyddio'n helaeth hefyd, gan gynnig llinell gymorth arall i'r staff. 

Hyblygrwydd o ran Trefniadau Gweithio

  • Hyblygrwydd o ran gweithio oriau craidd. Wrth weithio gartref, nid yw'n ofynnol i'r staff, yn enwedig y rhai sydd â phlant bach gartref, weithio oriau craidd. Gall eu horiau fod yn hyblyg ar yr amod eu bod yn gweithio eu horiau contract. Mae hyn yn cynnig llawer o hyblygrwydd ac yn lleihau'r straen sy'n gysylltiedig â jyglo gweithio a magu plant. Mae'r hyblygrwydd o ran oriau craidd yn berthnasol i'r holl staff. Mae hyn yn galluogi'r staff i ddod o hyd i'r cydbwysedd bywyd gwaith/cartref gorau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
  • Caiff y staff eu hannog i barhau i drefnu gwyliau er mwyn sicrhau eu bod yn cael seibiant rheolaidd o'r gwaith.
  • Ar gyfer yr aelodau hynny o'r staff y mae'r Coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, mae'r angen i gael tystysgrif feddygol wedi cael ei ddileu er mwyn lleihau straen, ac mae absenoldeb salwch â thâl wedi cael ei gynnig i'r staff hynny â gwasanaeth byr na fydden nhw'n gymwys fel arfer. 

Llesiant Gweithwyr

  • Mae sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) yn cael eu cynllunio i'r holl staff ar ddydd Gwener.
  • Mae Hyrwyddwyr Llesiant a Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gael o hyd i roi cymorth a thynnwyd sylw at hyn ar Yammer.
  • Mae'r staff dal yn gallu cael gafael ar wasanaethau cwnsela a chyngor gan feddygon ar-lein drwy Westfield Health. Mae Westfield hefyd wedi darparu canllaw i'r staff ar fyw a gweithio yn ystod pandemig y Coronafeirws.
  • Mae negeseuon diweddar gan y Prif Swyddog Gweithredol wedi cyfeirio'r staff at gymorth parhaus sydd ar gael mewn perthynas â chwnsela neu help sydd ar gael i'r rheini sydd efallai'n dioddef cam-drin domestig am fod tensiynau'n gwaethygu oherwydd hunanynysu.
  • Mae ein Prif Swyddog Gweithredol hefyd wedi anfon neges fideo yn cydnabod yr anawsterau sy'n gysylltiedig â gweithio gartref yn llawn amser ac yn diolch i'r staff am eu hymdrechion.
  • Mae dolenni i ddosbarthiadau ffitrwydd ar-lein a gweminarau llesiant wedi cael eu hanfon ymlaen at y staff mewn perthynas â darpariaeth Westfield Health, ynghyd â chanllawiau ar sut i weithio gartref yn effeithiol.

Sue Curson

Cydlynydd Adnoddau Dynol

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy