Astudiaeth Achos: TALIS-UK Ltd

Mae Sharon Lewis, Rheolwr Adnoddau Dynol o TALIS-UK Ltd, yn trafod sut mae gweithlu’r cwmni wedi addasu mewn ffyrdd gwahanol o ganlyniad i COVID-19

5th May 2020, 4.53pm | Ysgrifenwyd gan Sharon

"Mae cynnwys cyflogeion yn allweddol i wella llesiant cyffredinol ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael effaith enfawr drwy ymrwymo i ymuno ag ymgyrch wych Amser i Newid Cymru."

Pam wnaethon ni lofnodi addewid Amser i Newid Cymru a'r DU

Mae TALIS yn ymrwymedig i ofalu am lesiant ein cyflogeion a'i gefnogi, a dyna pam rydyn ni wedi llofnodi addewid Amser i Newid Cymru. Ein nod yw lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl a chodi ymwybyddiaeth ym mhob rhan o'r gweithle, er mwyn annog ein cyflogeion i fod yn fwy agored am eu teimladau fel ein bod ni'n gallu cynnig y cymorth cywir i'w helpu nhw i deimlo ar eu gorau.

Sut wnaethon ni hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl

Gwnaethon ni gyflawni ein nod o feithrin Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl yn y busnes drwy gynnal diwrnodau dysgu a datblygu fel Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl ac Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr Llinell. 

Hefyd, mae ein 14 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a'n hyrwyddwyr yn cynllunio ac yn cynnal diwrnodau Amser i Siarad sy'n cyd-fynd â'r pecynnau gweithgareddau rydyn ni'n eu cael gan Amser i Newid yn ystod y flwyddyn. Rydyn ni'n ymdrin â gwahanol bynciau Iechyd Meddwl ac yn defnyddio gweithgareddau fel ymwybyddiaeth ofalgar, aikido, lliwio i oedolion, cerdded a siarad, paned a chlonc, yn ogystal â blogiau personol am broblemau iechyd meddwl sydd wedi effeithio ar ein hyrwyddwyr yn bersonol.

Cafodd polisi Iechyd Meddwl a Llesiant ei greu a'i roi ar waith er mwyn egluro'r cymorth y mae TALIS yn gallu ei gynnig i'w gyflogeion. Cafodd posteri yn dangos lluniau o'n Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl eu creu a'u harddangos o amgylch y safle er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar help pan fydd angen iddyn nhw siarad â rhywun.

Yn olaf, gwnaethon ni osod sgrîn deledu yn ardal y ffreutur, lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rheolaidd am unrhyw bynciau neu newyddion. 

Sut mae hyn yn helpu'r gweithle

Mae cyflogeion nawr yn fwy parod i nodi problemau iechyd meddwl fel rheswm dros absenoldeb, sy'n golygu ein bod ni'n gallu cynnig y cymorth, yr arweiniad a'r mesurau ataliol cywir.

Rydyn ni wedi gweld gwelliant mawr o ran pa mor gyfforddus mae cyflogeion yn ei deimlo wrth siarad â chydweithwyr a rheolwyr pan nad ydyn nhw'n teimlo ar eu gorau. Mae siarad â rhywun yn ffordd dda o rannu'r baich. Rydw i'n credu bod rhannu ein profiadau personol ni ein hunain â'n gilydd yn gallu bod yn help mawr os ydyn nhw'n cael trafferth ymdopi â sefyllfa debyg. Mae hyn wir yn helpu i leihau problemau iechyd meddwl a lefelau absenoldeb.

Rydyn ni'n rhoi llawer o wybodaeth i'n cyflogeion ac maen nhw'n gwybod am yr holl systemau cymorth mewnol ac allanol er mwyn estyn allan at elusennau penodol, y Pecyn Cymorth i Gyflogeion, swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, ac ati.

Mae'r rheolwyr wedi cael eu hyfforddi i wybod pan fydd angen cymorth ar rywun yn eu tîm ac maen nhw'n gallu cyfeirio unigolion yn gynnar. Mae ein tîm o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn gweithio'n ddiwyd ymysg eu cydweithwyr ac yn cynnal sgyrsiau ag unigolion maen nhw'n poeni amdanyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael help os ydyn nhw'n cael trafferth ymdopi. Maen nhw hefyd yn wych am herio unrhyw un sy'n dangos agwedd negyddol at iechyd meddwl. Eu nod yw deall pam mae'r unigolyn yn teimlo fel hyn neu pam fod ganddo farn negyddol fel eu bod nhw'n gallu trafod hyn yn fanwl a rhannu gwybodaeth newydd am y pwnc, gan ddilyn gwerthoedd ein cwmni – Awydd i Lwyddo, Canlyniadau, Gwaith Tîm, Atebolrwydd a Pharch.

Yn ystod pandemig COVID-19, mae'r gweithlu wedi addasu i weithio mewn ffyrdd gwahanol fel cadw pellter cymdeithasol yn y ffatri a gweithio gartref os yw staff y swyddfa'n gallu gwneud hynny.  Er mwyn parhau i gefnogi a hyrwyddo llesiant, rydyn ni'n anfon taflenni gwybodaeth wythnosol rheolaidd ar wahanol bynciau, e.e. canllawiau ar gadw'n ddiogel yn ystod pandemig COVID; beth all helpu eich iechyd meddwl a'ch llesiant, a oedd yn sôn am bynciau fel cysgu, cysylltu â phobl, rhoi strwythur i'ch dydd, hobïau, cadw'n weithgar yn gorfforol a rheoli'r cyfryngau a gwybodaeth. Rydyn ni wedi cael yr holl wybodaeth hon o amrywiaeth o ffynonellau fel elusen MIND a'r GIG. Rydyn ni'n anfon y daflen wybodaeth drwy e-bost ac yn ei lanlwytho i'r sgrîn yn y ffreutur fel bod pob cyflogai yn gwybod ble i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae cynnwys cyflogeion yn allweddol i wella llesiant cyffredinol ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael effaith enfawr drwy ymrwymo i ymuno ag ymgyrch wych Amser i Newid Cymru.

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy