Ffilmio yn Llanelli

Ydych chi’n byw yn ardal Llanelli? Oes profiad gyda chi o fyw a problem iechyd meddwl? A fyse diddordeb gennych mewn siarad am eich profiadau mewn ffilm ddogfen? Os felly, darllennwch ymlaen!

28th May 2014, 3.49pm | Ysgrifenwyd gan Time to Change Wales

Ydych chi’n byw yn ardal Llanelli? Oes profiad gyda chi o fyw a problem iechyd meddwl? A fyse diddordeb gennych mewn siarad am eich profiadau mewn ffilm ddogfen? Os felly, darllennwch ymlaen!

 

Mae Changing Faces yn brosiect cymunedol wedi ei ariannu gan Amser i Newid Cymru yn Llanelli, a fydd yn cynhyrchu nifer o gyfweliadau gyda pobl lleol yn siarad am sut mae salwch meddwl wedi effeithio ar eu bywydau – ac mae nhw yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan!

 
Mae gan Jonathan a Mark, sydd yn arwain y brosiect, brofiad personol o fyw a problem iechyd meddwl.  
 
Dywedodd Jonathan:
 
“Dechreuais i’r brosiect achos fy mod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a dros y blynyddoedd diwethaf roeddwn yn meddwl mae fi yn unig oedd yn dioddef.  
 
Hoffwn gael pobl i siarad yn agored am iechyd meddwl i newid canfyddiadau pobl.  
 
Fel rhywun sydd wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae’n gyfle i mi ddangos i bawb fy mod yn gallu gwneud pethau, a gobeithio y bydd yn hybu eraill i sefyll lan a dechrau cael eu bywydau yn ol.”
 
Dywedodd Mark
 
“Hoffwn i’r brosiect i ffocysu ar bositifrwydd pobl a problemau iechyd meddwl a dangos y gellynt chwarae rhan llawn a gweithgar ym mywyd pob dydd ac er eu bod yn gwynebu sialensau nad yw pobl eraill yn eu gwneud, meant yn dal i fod yn bobl gall gyfrannu i unrhyw fenter ac ni ddylent gael eu diystyri dim ond gan eu bod wedi bod yn ddigon ones ti ddweud fod ganddynt broblem iechyd meddwl.   
 
Mae’n bwysig i mi ynbersonol gan fy mod wedi dioddef o iselder am gyhyd a gallaf gofio”
 
Os hoffech che wybod rhagor am y ffilmiau yma neu os oes diddordeb ganddoch mewn cymryd rhan, ebostiwch ni

Efallai hoffech

Mae dros hanner (58%) o boblogaeth Cymru yn credu bod yna lawer iawn o gywilydd o hyd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl

Dyma pam mae Cynghrair Gwrth-Stigma y DU – partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl ar draws y DU – wedi lansio ei hymgyrch Os yw hi’n Oce.

12th March 2024, 12.00am

Darganfyddwch fwy

Mae 68% o bobl Cymru yn cuddio y tu ôl i ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am iechyd meddwl

Mae data newydd yn datgelu tuedd sy’n peri pryder yng Nghymru, lle mae 68% o bobl yn gwisgo ‘wyneb dewr’ er mwyn osgoi siarad am eu hiechyd meddwl ar adegau anodd.

1st February 2024, 8.00am | Ysgrifenwyd gan Hanna

Darganfyddwch fwy